Alun Cairns yn croesawu cynigion Network Rail i foderneiddio rheilffyrdd yng Nghymru
Alun Cairns: "Mae'n hanfodol bod gan Gymru gysylltiadau trafnidiaeth o'r radd flaenaf."

Croesawodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns heddiw (4ydd Mawrth) gynigion gan Network Rail i foderneiddio’r rheilffordd yng Nghymru i ateb y galw am siwrneiau teithwyr a chludo nwyddau yn y dyfodol.
Mewn ymateb i achlysur lansio Astudiaeth ddrafft Network Rail o’r Llwybrau yng Nghymru, dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:
Mae’n hanfodol bod gan Gymru gysylltiadau trafnidiaeth o’r radd flaenaf i gludo pobl i’w swyddi, annog buddsoddiad a helpu ein heconomi i dyfu – rhan allweddol o’n cynllun economaidd hirdymor.
Rydw i’n croesawu cynigion cychwynnol Network Rail i foderneiddio’r rheilffordd ledled Cymru a allai gynnwys trydaneiddio Prif Reilffordd Gogledd Cymru.
Rydw i wedi cwrdd â busnesau o’r naill ochr i’r ffin ac maent yn bendant y byddai trydaneiddio yn rhoi hwb gwirioneddol i economi’r ardal ac yn ein helpu i greu ein Pwerdy Gogleddol ein hunain.
Mae Network Rail yn rhannu ein huchelgais i wella cysylltiadau, lleihau amseroedd teithio a chreu seilwaith trafnidiaeth o’r radd flaenaf yng Nghymru.
Ym mis Ionawr, cynhaliodd Mr Cairns uwchgynhadledd ar drafnidiaeth gydag arweinyddion busnes yng Ngogledd Cymru i drafod manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd ar gyfer twf economaidd yn yr ardal.
Y llynedd, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU fod Llywodraeth y DU wedi cytuno â Llywodraeth Cymru ar becyn ariannu i drydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd.
O dan y pecyn, bydd Llywodraeth y DU yn gyfrifol am gostau llawn gwaith trydaneiddio prif reilffordd y Great Western i Abertawe ac yn datganoli masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau fel bod Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar y fasnachfraint newydd yn 2018.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi addo mwy na £10 miliwn i brosiect Halton Curve, rheilffordd i gysylltu Lerpwl, Swydd Gaer, Warrington a Gogledd Cymru.