Cymru’n Chwifio’r Faner i arwain Diwrnod y Lluoedd Arfog 2010
Wrth i faneri gael eu codi ledled Cymru a gweddill y DU, soniodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru heddiw, am y gefnogaeth a’r parch y mae’r…
Wrth i faneri gael eu codi ledled Cymru a gweddill y DU, soniodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru heddiw, am y gefnogaeth a’r parch y mae’r cyhoedd yn ei ddangos at Luoedd Arfog y gorffennol a’r presennol.
Roedd Mrs Gillan yn bresennol mewn seremoni yng Nghastell Caerdydd i godi baner i lansio’n swyddogol wythnos o ddigwyddiadau sy’n arwain at Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn, 26 Mehefin.
Dinas Caerdydd yw canolbwynt y digwyddiadau ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog 2010. Yng Nghaerdydd y cynhelir y digwyddiadau swyddogol a fydd yn arwain y dathliadau wrth i’r wlad baratoi i anrhydeddu ein Lluoedd Arfog.
Ddydd Sadwrn, bydd Ysgrifennydd Cymru, ynghyd ag Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, Duges Cernyw a Dr Liam Fox, yr Ysgrifennydd Amddiffyn, yn ymweld a Chaerdydd er mwyn bod yn rhan o’r diwrnod o ddigwyddiadau yng Nghastell Caerdydd ac yn y Bae.
Yn dilyn yr ymgyrch ‘Chwifio’r Faner’, bu cymunedau o bob cwr o’r DU, gan gynnwys holl awdurdodau lleol Cymru, yn codi Baner Diwrnod y Lluoedd Arfog gyda’i gilydd heddiw am 10:30am.
Wrth siarad ar ol y seremoni, meddai Mrs Gillan: “Heddiw cynhelir y dathliadau cyntaf o blith llu o ddigwyddiadau a fydd yn arwain at Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn. Gan mai yng Nghaerdydd y cynhelir y dathliadau cenedlaethol eleni, bydd Cymru’n chwifio’r faner i anrhydeddu’r dynion a’r menywod sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog neu sydd wedi gwneud hynny yn y gorffennol.
“Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn rhoi cyfle i ni ddangos ein gwerthfawrogiad o aberth enfawr y rheini sydd wedi gwasanaethu eu gwlad, sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, ac a fydd yn gwasanaethu yn y dyfodol.
“Mae’r diwrnod cenedlaethol hwn yn rhoi cyfle i ni gofio hefyd am ein milwyr sydd wedi’u lleoli mewn gwahanol rannau o’r byd ar hyn o bryd.” Mae aelodau’r Lluoedd Arfog sy’n dod o Gymru wedi chwarae rhan allweddol yn Affganistan, ac yn parhau i wneud hynny. Mae digwyddiadau fel y rhain a welir heddiw yn ein galluogi i gydnabod eu cyfraniadau enfawr.
“Rwy’n falch bod Cymru wedi cael ei dewis i arwain y digwyddiad eleni ar gyfer y Deyrnas Unedig. Rwy’n siŵr y bydd pobl o bob cwr o Gymru yn ymuno a gweddill y DU i ddangos eu cefnogaeth a’u parch at ein Lluoedd Arfog dros y diwrnodau nesaf, ac edrychaf ymlaen at gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn.”