Datganiad i'r wasg

Cymru yn dathlu’r 'cawr llenyddol o Gymro' Dylan Thomas

Y Farwnes Randerson yn talu teyrnged i Dylan Thomas ar ganmlwyddiant ei enedigaeth.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Dylan Thomas' writing shed at Laugharne

Dywedodd gweinidog Swyddfa Cymru y Farwnes Randerson:

Mae Dylan Thomas yn gawr llenyddol o Gymro a rwyf yn falch iawn o’r cyfle hwn i ddathlu ei fywyd a’i waith. Nid yn unig y gall frolio catalog llenyddol gwych - o hyfrydwch ‘A Child’s Christmas in Wales’, i gerddi emosiynol megis ‘Do Not Go Gentle’ a ‘These Five Kings’ i bleserau dihafal ‘Fern Hill’ a’i gampwaith ‘Under Milk Wood’ - ond mae hefyd wedi rhoi Cymru ar y map fel atyniad i dwristiaid.

Mae miloedd yn dod bob blwyddyn i ymweld â’i gartref yn Nhalacharn - gan gynnwys, ar un adeg nodedig, Bill Clinton - ac mae miliynau wedi clywed am ddinas ei eni, yr ‘ugly, lovely town’ Abertawe, trwy ei waith. Mae hyn yn rhoi hwb enfawr i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, sydd yn allweddol i economi Cymru ac yn dod â £ 2.4 biliwn i’n gwlad yn flynyddol.

Mae Cymru heddiw yn dathlu canmlwyddiant genedigaeth eicon Cymreig, cawr llenyddol ac un sydd wedi gwneud mwy i roi hwb i Gymru nag y byddai ef erioed wedi dychmygu yn ystod ei oes. Pen-blwydd hapus, Dylan Marlais Thomas.

Bydd y Farwnes Randerson, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, yn cynnal derbyniad yr wythnos nesaf yn Nhŷ Gwydyr ar gyfer y rhai ar restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas.

Llun trwy law Heatheronhertravels.com ar Flickr, defnyddir drwy Creative Commons.

Cyhoeddwyd ar 27 October 2014