Cymru yn elwa ar fuddsoddiad amddiffyn gwerth £1.1 biliwn sy’n cefnogi miloedd o swyddi medrus
Mae cymunedau Cymru’n elwa ar fuddsoddiad sylweddol mewn amddiffyn sydd yn cefnogi gyrfaoedd o ansawdd uchel ym mhob rhan o'r wlad.
Defence equipment
- Gwariant amddiffyn blynyddol o £1.1 biliwn yng Nghymru sy’n cefnogi 3,900 o swyddi yn y diwydiant yn uniongyrchol.
- Gwariant amddiffyn o £340 y pen ledled Cymru fel rhan o gynnydd hanesyddol y Llywodraeth i wario 2.6% o gynnyrch domestig gros ar amddiffyn erbyn 2027.
- Mae’r buddsoddiad yn helpu amrywiaeth o sectorau ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys y sector gweithgynhyrchu uwch a’r sector seiberddiogelwch.
Mae cymunedau Cymru’n elwa ar fuddsoddiad sylweddol mewn amddiffyn sydd yn cefnogi gyrfaoedd o ansawdd uchel ym mhob rhan o’r wlad, yn ôl llyfryn newydd ar ôl troed amddiffyn y Deyrnas Unedig. Mae’r llyfryn yn tynnu sylw at effaith gadarnhaol gwariant amddiffyn ar wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig.
Mae ffigurau diweddaraf y llywodraeth yn dangos bod £1.1 biliwn o arian amddiffyn wedi’i wario yng Nghymru’r llynedd yn unig, gan gefnogi 3,900 o swyddi yng Nghymru mewn amrywiaeth o sectorau. Mae’r ffigur hwn yn cyfateb i £340 o wariant amddiffyn y pen yng Nghymru, sy’n brawf o effaith economaidd sylweddol ymrwymiadau amddiffyn y Llywodraeth ar gymunedau yng Nghymru.
Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn yn rhan o gynnydd hanesyddol y Llywodraeth mewn gwariant amddiffyn. Y nod yw gwario 2.6% o gynnyrch domestig gros ar amddiffyn erbyn 2027 a 3% erbyn y Senedd nesaf. Mae’r ymrwymiad hwn yn dangos bod y Llywodraeth yn cydnabod bod gwario ar amddiffyn yn cadw’r wlad yn ddiogel ac yn creu twf economaidd ym mhob un o ranbarthau’r Deyrnas Unedig, gan gyflawni’r Cynllun ar gyfer Newid.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r diwydiant amddiffyn yn rhan hanfodol o economi Cymru ac yn darparu miloedd o swyddi o ansawdd uchel ym mhob rhan o’r wlad.
Mae gan bob un o bum prif gyflenwr y Weinyddiaeth Amddiffyn ôl troed yma, ac felly mae Cymru mewn sefyllfa dda i elwa ar gynnydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn gwariant amddiffyn.
Ein prif nod yw rhoi hwb i dwf economaidd a drwy fuddsoddi yn y sector amddiffyn, rydym ni’n gwarchod ein diogelwch gwladol, yn creu swyddi newydd ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.”
Dywedodd Luke Pollard AS, Gweinidog dros Ddiwydiant a Pharodrwydd Amddiffyn:
Dyma’r cynnydd mwyaf erioed mewn buddsoddiad amddiffyn a bydd yn sicrhau bod gan ein lluoedd y cyfarpar angenrheidiol i ymladd, gan sicrhau ein bod ni’n ddiogel gartref ac yn gryf dramor.
Bydd y buddsoddiad yn sicrhau bod y diwydiant amddiffyn yn arwain at dwf economaidd ym mhob rhan o’r wlad a bydd hynny yn ein helpu i gyflawni Cynllun ar gyfer Newid y Llywodraeth. Ar ben hynny bydd swyddi, cymunedau a busnesau yng Nghymru ar eu hennill.
Mae gan Gymru arbenigedd yn y sector gweithgynhyrchu uwch a seiberddiogelwch ac mae hynny yn ei gwneud hi’n rhan hanfodol o ecosystem amddiffyn Prydain, ac yn helpu cymunedau ar hyd a lled y wlad i ffynnu.
Mae sector amddiffyn Cymru yn cynnwys cynhyrchu cerbydau arfog a gweithgynhyrchu dronau o’r radd flaenaf, ac mae cwmnïau amddiffyn yn cynnal gwaith pwysig mewn cymunedau o Fôn i Fynwy. Mae’r buddsoddiadau hyn yn creu cyfleoedd i ddatblygu technoleg arloesol ac i gefnogi enw da Cymru fel hwb ar gyfer arloesi ym maes amddiffyn.
Mae’r buddsoddiad amddiffyn yn cael effaith bellgyrhaeddol ar economi Cymru. Mae’n cefnogi cyflogaeth uniongyrchol yn ogystal â nifer o fusnesau’r gadwyn gyflenwi a chymunedau lleol. Mae’r sector yn rhoi cyfleoedd arbennig i weithwyr medrus ym meysydd gweithgynhyrchu uwch, seiberddiogelwch, ymchwil a datblygu, a does dim amheuaeth ei fod yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi teuluoedd ledled Cymru.