Datganiad i'r wasg

Cymru ar flaen y gad mewn cynlluniau newydd i greu 5,000 o lefydd mewn carchardai modern

Port Talbot yw'r lleoliad am garchar newydd de Cymru

Prison floor

Yr Ysgrifennydd Cyfiawnder yn datgelu cynlluniau ar gyfer carchar modern newydd ym Mhort Talbot; Adeilad newydd i greu cannoedd o swyddi lleol a rhoi hwb enfawr i economi’r rhanbarth; Adeiladu ar ymrwymiad y Llywodraeth i greu hyd at 10,000 o lefydd modern, gyda’r bwriad o leihau’r gorlenwi mewn carchardai a chreu’r amodau priodol ar gyfer diwygio.

Heddiw, mae’r Gweinidog Carchardai, Sam Gyimah, wedi datgelu cynlluniau i adeiladu carchar newydd yn ne Cymru – gan greu cannoedd o lefydd mewn carchar modern a darparu adeiladau newydd sy’n addas i’r diben yn lle’r hen sefydliadau gorlawn.

Clustnodwyd Port Talbot ar gyfer y datblygiad newydd fel rhan o ymrwymiad y Llywodraeth i adeiladu hyd at 10,000 o lefydd mewn carchardai modern erbyn 2020, gyda £1.3 biliwn i drawsnewid yr ystad.

Yn ogystal â chreu sefydliadau modern sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, bydd yr adeilad newydd arfaethedig yn hwb i economi Cymru hefyd, gan greu cannoedd o swyddi yn y diwydiannau gweithgynhyrchu ac adeiladu, a chreu cyfleoedd diri ar gyfer busnesau ffyniannus yn y gymuned.

Bydd y penderfyniadau terfynol ar y carchar newydd yn amodol ar gymeradwyaeth cynllunio, yn ogystal â gwerth am arian a fforddiadwyedd.

Dywedodd y Gweinidog Carchardai, Sam Gyimah:

Nid oes gobaith i ni leihau’r lefelau aildroseddu nes i ni adeiladu carchardai sy’n helpu pobl i newid, lle mae gwaith caled a gwella’r hunan yn llwyddo.

Nid yw hen garchardai, a’u coridorau tywyll a’u hamodau cyfyng, yn helpu troseddwyr i droi eu cefn ar droseddu – ac nid ydynt yn cynnig yr adnoddau na’r amgylchedd priodol i’n swyddogion carchardai proffesiynol ac ymroddedig i wneud eu gwaith yn effeithiol.

Bydd y rhaglen adeiladu helaeth hon yn helpu i greu ystad fodern o garchardai lle gall proses ddiwygio gyfan fwrw gwreiddiau, yn ogystal â chynnig achubiaeth economaidd ffyniannus i’r gymuned leol hefyd – gan greu cannoedd o swyddi i bobl leol a sicrhau’r cyfleoedd gorau posib i fusnesau.

Daw cyhoeddiad heddiw wythnosau ar ôl agor CEM Berwyn – y carchar modern, newydd yng ngogledd Cymru a fydd yn dal dros ddwy fil o garcharorion. Mae adeiladu’r carchar newydd hwn wedi cyfrannu dros £100m i’r economi leol yn barod ac wedi creu oddeutu 150 o swyddi a phrentisiaethau cyn i’r drysau hyd yn oed agor.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwyf wrth fy modd fod Port Talbot wedi’i ddewis ar gyfer un o’r pedwar carchar newydd i fod yn rhan o ystad carchardai’r DU.

Mae carchar Berwyn wedi cael effaith gadarnhaol ar economi rhanbarth gogledd Cymru yn barod. Bydd carchar newydd yn ne Cymru yn dod â’i gyfleoedd economaidd ei hun - gan gynnwys swyddi newydd a chontractau ar gyfer cyflenwyr lleol. Bydd yn help i gyflymu nod y Llywodraeth o gynnig cyfleusterau modern, sy’n fwy cost-effeithiol yn lle’r hen garchardai aneconomaidd.

Rwy’n falch bod Cymru’n arwain y ffordd wrth ddarparu cyfleusterau sydd wedi’u cynllunio er mwyn adsefydlu unigolion, yn ogystal â chynnig y diogelwch traddodiadol y mae’r cyhoedd yn ei ddisgwyl.

Wrth greu ystad fodern o garchardai, bydd hen garchardai aneffeithlon yn cau ac adeiladau newydd yn dod yn eu lle. Bydd rhaglen o waith prisio yn cychwyn yn awr i helpu i lywio penderfyniadau pellach am yr ystad. Bydd datganiadau am gau carchardai yn cael eu cyhoeddi yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Mae cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar ddiwygiadau uchelgeisiol i wella diogelwch mewn carchardai, gan gynnwys £100m arall i ychwanegu 2,500 at y staff rheng flaen.

Bydd y broses ddiwygio gyfan, drefniadol hon yn cael ei chefnogi gan fesurau yn y Bil Carchardai a Llysoedd, a fydd yn gosod fframwaith newydd a system atebolrwydd glir i garchardai, gan adeiladu ar yr amrywiol fesurau diwygio sy’n cael eu nodi ym Mhapur Gwyn Diogelwch Carchardai a’u Diwygio.

Nodiadau i Olygyddion:

  • Byddwn yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ar gyfer carchardai newydd yn Swydd Efrog, gogledd orllewin Lloegr, Caint a de Cymru.
Cyhoeddwyd ar 22 March 2017