Datganiad i'r wasg

Siop Bentref yn Llandyrnog yn cael £200k o gyllid gan Lywodraeth y DU

Mae'r cyllid yn dod fel rhan o'r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol

Llandyrnog shop

Mae David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi bod yn ymweld â Llandyrnog yn Sir Ddinbych i glywed am gynlluniau newydd i ailagor siop y pentref, achub y Swyddfa Bost bresennol a chyflwyno hwb cymunedol ar ôl i ymgyrchwyr gael cyllid gan Lywodraeth y DU.

Mae siop wedi bod yn y pentref ers 1841 ac mae wedi gwasanaethu’r gymuned yn ei lleoliad presennol ers 1982 nes iddi gau yn 2020.

Roedd trigolion lleol wedi codi arian tuag at ailbrynu’r adeilad a’i redeg er budd y pentref cyfan cyn i Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU ddyfarnu £200,000 i’r prosiect yn ddiweddar.

Aeth Mr Davies i’r siop ddydd Iau (12 Ionawr) lle clywodd gan rai o’r ymgyrchwyr am eu cynlluniau.

Dywedodd yr ymgeisydd arweiniol, Emyr Morris:

Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol iawn i adfywio siop ein pentref yn ôl i’w hen ogoniant a sicrhau bod Swyddfa’r Post yn ddiogel, ond rydym hefyd eisiau gwneud mwy a chreu canolfan gymunedol go iawn sy’n gwasanaethu Llandyrnog a’r ardaloedd cyfagos.

Yn ogystal â stocio cynnyrch lleol, rydyn ni eisiau darparu lluniaeth ysgafn a lle i bobl gyfarfod. Mae angen lle cymdeithasol ar ein pentref ac mae’n fan lle gallwn ddod at ein gilydd i gefnogi pob aelod o’n cymuned.

Mae rhagor o geisiadau grant ar y gweill ac rydym yn gweithio tuag at lansio cynllun Cyfranddaliadau Cymunedol

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru :

Roeddwn wrth fy modd yn cwrdd ag Emyr a holl drigolion Llandyrnog sydd wedi gweithio mor galed ar ran y pentref i roi’r prosiect hwn ar waith. Mae’n wych gweld arian Llywodraeth y DU yn cael ei wario ar gynllun mor werth chweil a fydd o fudd gwirioneddol i gynifer o bobl.

Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn helpu i gefnogi gwasanaethau sydd mewn perygl o gael eu colli am byth ac yn rhoi bywyd newydd iddynt. Mae hyn nid yn unig yn dod â phobl at ei gilydd, fel sydd wedi digwydd yma yn Llandyrnog, ond hefyd mae’n creu cyfleoedd i bobl leol ac yn rhoi hwb i’r economi leol.

Mae Siop Bentref Llandyrnog yn un o bum prosiect llwyddiannus yng Nghymru a dderbyniodd gyfanswm o £1.1 miliwn o gyllid yn ddiweddar o gronfa codi’r gwastad a oedd ar gael o dan gynllun Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU.

Mae rhagor o fanylion am y cyllid ar gael yma.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 17 January 2023