Datganiad i'r wasg

Hwb i grwpiau cymunedol Cymru cyn y Nadolig gyda dros £1M o gyllid gan Lywodraeth y DU

Prosiectau yn Sir Ddinbych, Sir Benfro a Cheredigion i dderbyn cyfran o £150 miliwn o Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU

View of Aberporth

Aberporth where the Village Hall will be rebuilt for the community

Cyn y Nadolig, mae Llywodraeth y DU yn cefnogi lleoliadau cymunedol ledled Cymru a oedd mewn perygl o gael eu colli am byth, gydag £1.1 miliwn o gyllid ffyniant bro drwy’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.

Heddiw mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu cyllid o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, sydd werth £150 miliwn, i gefnogi grwpiau cymunedol i gymryd perchnogaeth o sefydliadau lleol sy’n dadfeilio, a rhoi bywyd newydd iddynt fel y gallant barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol, creu mwy o gyfleoedd i bobl leol, a rhoi hwb i economïau lleol

Mae’r pum prosiect sy’n dathlu ceisiadau llwyddiannus heddiw yn cynnwys menter gymdeithasol yn Sir Benfro, siop bentref 180 oed yn Llandyrnog a grŵp sydd wedi cymryd perchnogaeth o hen westy i gynnig cymorth hanfodol i bobl â chyflyrau cronig sy’n cyfyngu ar fywyd.

Dywedodd y Gweinidog Ffyniant Bro Dehenna Davison:

Rwyf am weld y sefydliadau sy’n bwysig i gymunedau lleol yn goroesi ac yn ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – hynny yw ffyniant bro ar waith.

Boed yn neuaddau tref neu siopau pentref sy’n golygu cymaint i gymunedau gwledig, mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn rhoi bywyd newydd i sefydliadau Cymreig drwy eu rhoi yn nwylo’r bobl leol.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies:

Y llynedd fe wnaethom lansio tair cronfa newydd – y cronfeydd Ffyniant Bro, Adfywio Cymunedol a Pherchnogaeth Gymunedol – sydd hyd yma wedi gweld mwy na 175 o brosiectau ledled Cymru yn derbyn mwy na £165m ar gyfer prosiectau sy’n amrywio o welliannau i seilwaith ffyrdd yn y Rhondda i gyllid i bobl leol Gwynedd brynu eu tafarn gymunedol.

Mae’r pum prosiect llwyddiannus Cymreig diweddaraf o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn brosiectau gwych a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’w hardaloedd lleol.

Mae ffyniant bro yn ganolog i uchelgeisiau Llywodraeth y DU a bydd cymunedau ledled Cymru yn cael eu trawsnewid dros y blynyddoedd nesaf wrth i’r cyllid hwn barhau.

Dywedodd Dr Alan Axford OBE, Cadeirydd Ymddiriedolwyr HAHAV:

Rydym wedi ein syfrdanu ac wrth ein boddau ein bod wedi derbyn grant mor sylweddol gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Bydd y buddsoddiad hwn yn drawsnewidiol, gan ein galluogi i warchod Plas Antron - ein ‘Canolfan Byw yn Dda’. Mae’r adeilad yn gwneud cymaint o wahaniaeth i ansawdd bywyd i gannoedd o bobl ledled Ceredigion bob blwyddyn, llawer ohonynt yn ynysig ac yn fregus.

Heb y grant COF, roedd Plas Antaron mewn perygl o gael ei golli, gydag amser yn prysur brinhau i ni sicrhau’r cyllid sydd ei angen i gwblhau’r pryniant.

Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, a phawb yn lleol sydd wedi cynorthwyo i godi arian tuag at y prosiect hanfodol hwn am eu cefnogaeth a newidiodd eu bywydau.

Ymhlith y prosiectau llwyddiannus a gadarnhawyd heddiw mae:

  • Yr ‘Haverhub’ yn Sir Benfro, menter gymdeithasol yng nghanol ardal hanesyddol Quay Street a Riverside Quarter, yn cymryd perchnogaeth o’u hadeilad fel y gallant ddarparu amrywiaeth o gyrsiau addysgol i bobl leol.

  • Dros £170,000 i helpu gwirfoddolwyr ymroddedig yn Hosbis Aberystwyth a’r Cylch i ddarparu cymorth hanfodol i bobl â chyflyrau cronig sy’n cyfyngu ar fywyd a’u gofalwyr. Bydd y grant yn rhoi’r arian sydd ei angen ar y gymuned leol i brynu eu hadeilad yn llwyr.

  • Bydd drysau siop bentref 180 oed yn Llandyrnog yn agor unwaith eto i groesawu pobl leol. Bydd y siop yn gweithredu fel canolbwynt cymunedol ar gyfer y pentref ac yn cefnogi iechyd meddwl, gan dderbyn £200,000 o gyllid.

  • Yng Ngheredigion, bydd Neuadd Bentref Aber-porth yn cael ei hailadeiladu fesul bric i fod yn ganolbwynt cymunedol ecogyfeillgar i weithredu fel siop un stop ar gyfer twristiaid a busnesau lleol.

Mae’r datblygiadau hyn yn rhan o ymgyrch y llywodraeth i hyrwyddo ffyniant bro mewn cymunedau lleol ar draws y wlad, i greu mwy o gyfleoedd i bobl leol ac i hybu economïau lleol o ganlyniad.

Ar y cyd â phrosiectau rownd gyntaf y gronfa, mae’r cyllid ychwanegol hwn yn mynd â’r cyfanswm cyffredinol i £16.74m ar gyfer 70 o brosiectau’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar draws y DU, gyda £2.0m wedi’i ddyrannu i’r Alban a £1.6m wedi’i ddyrannu hyd yma i Gymru.

Cyhoeddwyd ar 14 December 2022