Stori newyddion

Defnyddiwch ein cyfeiriadau newydd ar gyfer ceisiadau a gohebiaeth

Rydym wedi newid ein cyfeiriadau Blwch Post a DX canolog.

Postbox

Rhaid i gwsmeriaid anfon ceisiadau a gohebiaeth i’n cyfeiriadau newydd er mwyn osgoi unrhyw effeithiau andwyol i flaenoriaeth eu ceisiadau.

Gwnewch yn siwr eich bod wedi diweddaru manylion y cyfeiriadau sydd gennych ar ein cyfer.

Gweler y cyfeiriadau newydd isod a’r manylion llawn yng nghyfarwyddyd y cofrestrydd: Direction given under section 100(4) of the Land Registration Act 2002 – Addresses of the proper offices from 27 May 2016.

Ceir rhai eithriadau. Dylai cwsmeriaid barhau i anfon ceisiadau ar gyfer Pridiannau Tir, methdaliad, ansolfedd, Credydau Amaethyddol, neu ar gyfer dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y Gofrestrfa Tir, i’r cyfeiriadau eithriadau perthnasol.

Os ydym wedi cytuno i dderbyn Cofrestriadau Cyntaf cwsmer mewn cyfeiriad penodedig arall, dylai’r cwsmer barhau i anfon y Cofrestriadau Cyntaf i’r cyfeiriad hwnnw.

Cyfeiriad DX newydd cwsmeriaid busnes:

Land Registry
(nodwch enw swyddfa eich tîm cwsmeriaid. Os nad oes gennych dîm cwsmeriaid, nodwch enw eich swyddfa agosaf)
DX 321601
Gloucester 33

Cyfeiriad Post Brenhinol newydd cwsmeriaid busnes:

Land Registry
(nodwch enw swyddfa eich tîm cwsmeriaid. Os nad oes gennych dîm cwsmeriaid, nodwch enw eich swyddfa agosaf)
PO Box 75
Gloucester
GL14 9BD

Cyfeiriad newydd cwsmeriaid sy’n ddinasyddion:

Land Registry Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

Rydym wedi bod yn sganio ceisiadau mewn cyfeiriad canolog er Ionawr 2015. Rydym nawr yn trin y rhan fwyaf o’n gwaith yn electronig, felly gallwn ei gyfeirio’n hawdd i’r lle gorau i’w brosesu a pharatoi’n well ar gyfer y gwasanaethau digidol newydd rydym yn eu datblygu.

Rydym yn newid ein cyfeiriad canolog gan fod ein canolfan sganio wedi symud o Coventry i Swydd Gaerloyw.

Mae ein E-wasanaethau busnes yn cynnig dewis ar-lein i gwsmeriaid busnes ar gyfer bron pob peth a wneir ganddynt trwy’r post. Rydym yn argymell eu bod yn anfon ceisiadau atom ar-lein pan fo’n bwysig cael blaenoriaeth ar ein rhestr ddydd.

Cyhoeddwyd ar 27 May 2016