Datganiad i'r wasg

Y gwaith o gyflwyno Credyd Cynhwysol yn Ne Cymru yn parhau, gan wneud i waith dalu i ragor o bobl sy’n chwilio am waith

Y chwyldro lles yn parhau yng Nghymru

Bydd ceiswyr gwaith newydd yn ne Cymru’n gallu hawlio Credyd Cynhwysol am y tro cyntaf y mis hwn wrth i’r budd-dal newydd barhau i gael ei gyflwyno ledled Cymru.

O heddiw (22 Mehefin) ymlaen, bydd hawlwyr unigol yng Nghasnewydd yn gallu hawlio’r budd-dal a chael y cymorth sydd ei angen arnynt i symud i fyd gwaith.

Ar 29 Mehefin, bydd Canolfannau Byd Gwaith ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Y Pîl a Phorthcawl yn ymuno â’r cynllun. Mae Credyd Cynhwysol yn newid sylweddol i’r system lles, sy’n cynnwys chwe budd-dal oed gweithio mewn un taliad. Mae’n newid hanfodol i’r wladwriaeth les ac mae’n gwobrwyo gwaith.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Nod ein cynlluniau i ddiwygio lles yw creu system decach lle mae pobl bob amser yn well eu byd pan fyddant yn gweithio yn hytrach nag ar fudd-daliadau.

Am rhy hir o’r hanner, mae dibyniaeth ar fudd-daliadau lles wedi bod yn broblem mewn nifer o gymunedau yng Nghymru. Ond mae hynny’n newid. Mae Credyd Cynhwysol yn rhoi’r hyder i bobl symud yn rhwydd o fudd-daliadau i fyd gwaith, ar hyd a lled y DU.

Rwyf wrth fy modd bod Credyd Cynhwysol nawr yn cael ei gyflwyno mewn rhagor o leoliadau ledled De Cymru, er mwyn gallu cefnogi hyd yn oed mwy o bobl i gefnu ar ddibyniaeth ar fudd-daliadau lles ac elwa o sicrwydd cyflog rheolaidd.

Bydd Credyd Cynhwysol yn disodli chwe budd-dal yn y diwedd – Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant a Budd-dal Tai.

Pan fydd Credyd Cynhwysol wedi ei gyflwyno’n llawn, bydd 3 miliwn o gartrefi ar eu hennill, a bydd yn rhoi hwb o £7 biliwn i’r economi bob blwyddyn.

Cyhoeddwyd ar 22 June 2015