Datganiad i'r wasg

Y Prif Weinidog yn dweud wrth ffermwyr Cymru bod dyfodol disglair i'r DU

Y Prif Weinidog Boris Johnson yn ymweld â fferm ac yn cwrdd â ffermwyr o Gymru i siarad am Brexit

Bydd ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd yn parhau i ffynnu ym Mhrydain ar ôl Brexit, yn ôl y Prif Weinidog a fydd yn ymweld â Chymru heddiw (30 Gorffennaf 2019).

Bydd Boris Johnson ym ymweld â fferm yn Ne Cymru i gwrdd â ffermwyr a gweithwyr ac i glywed am eu gobeithion ar gyfer y DU ar ôl Brexit.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o deithiau mae’r Prif Weinidog yn eu cynnal o amgylch y Deyrnas Unedig, wrth iddo addo adfywio cymunedau sydd wedi cael eu hanghofio ac adnewyddu’r cysylltiadau sy’n sail i’r Undeb. Mae’r sector ffermio’n cyflogi dros 50,000 o bobl yng Nghymru, a’r sector bwyd a diod ydy’r sector mwyaf yng Nghymru – gan gyfrannu bron i £1.7 biliwn at yr economi.

Cyn yr ymweliad, dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson:

Byddaf bob tro’n cefnogi ffermwyr gwych Prydain ac wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd bydd angen i ni wneud yn siŵr bod Brexit yn gweithio iddyn nhw.

Mae hynny’n golygu rhoi’r gorau i’r Polisi Amaethyddol Cyffredinol a llofnodi cytundebau masnachu newydd – bydd ein sector bwyd a ffermio ffantastig yn barod i barhau i werthu hyd yn oed mwy, nid dim ond yma ond ym mhedwar ban byd.

Ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ar 31ain Hydref, bydd gennym gyfle hanesyddol i gyflwyno cynlluniau newydd i gefnogi ffermio – a byddwn yn gwneud yn siŵr bod ffermwyr yn cael bargen well. Mae Brexit yn golygu cyfleoedd enfawr i’n gwlad ac mae’n hen bryd i ni edrych i’r dyfodol gyda balchder ac optimistiaeth.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Rwyf wrth fy modd cael croesawu’r Prif Weinidog newydd i Gymru heddiw. Gyda’n gilydd byddwn yn nodi ein huchelgais fawr i lunio cytundeb da i ffermwyr Cymru wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd a chreu cytundebau masnachu newydd er mwyn rhoi hwb i’n heconomi.

Rydym wedi ymrwymo i symleiddio prosesau a llunio dyheadau uchelgeisiol er mwyn creu cyfleoedd i bob cymuned yng Nghymru.

Mae’r Prif Weinidog wedi treulio ei wythnos gyntaf yn ei swydd yn teithio o amgylch y Deyrnas Unedig – gan ymweld â swyddogion heddlu ym Mirmingham, rhoi araith ar Gronfa Trefi newydd ym Manceinion a chwrdd ag aelodau o’r fyddin mewn canolfan llynges yn yr Alban.

Ddoe yn yr Alban fe gyhoeddodd gyllid newydd ar gyfer Bargeinion Twf, gan gynnwys ar gyfer rhanbarth Canolbarth Cymru, er mwyn helpu i ryddhau pŵer cynhyrchiol pob rhan o’r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn ogystal â’r cyllid ar gyfer bargen yng Ngogledd Cymru, sydd eisoes wrthi’n cael ei thrafod.

Dros yr wythnosau nesaf bydd y llywodraeth yn canolbwyntio ar negodi cytundeb newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd a fydd yn cael gwared â’r backstop annemocrataidd.

Er bod y Prif Weinidog yn ffyddiog y bydd yn gallu sicrhau cytundeb newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd er mwyn i ni allu adael ar y telerau gorau posibl, mae hefyd yn glir bod yr Undeb Ewropeaidd yn dweud ar hyn o bryd y bydd yn gwrthod gwneud unrhyw newidiadau i’r Cytundeb Gadael. O ganlyniad, bydd y Llywodraeth yn paratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar 31ain Hydref.

Ochr yn ochr â chyhoeddi’r hysbysiadau cyfarwyddyd, mae llywodraeth y DU yn parhau i weithio’n agos gyda ffermwyr, busnesau a chymdeithasau masnach ar draws y sector bwyd a diod, o’r fferm i’r fforc, er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y paratoadau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cwrdd â Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am sut bydd y llywodraeth yn delio â’r trafodaethau ynghylch Brexit.

Cyhoeddwyd ar 30 July 2019