Datganiad i'r wasg

Cynlluniau llywodraeth y DU i roi signal 4G ar waith yn golygu y bydd llai o ardaloedd heb signal ffonau symudol yng nghefn gwlad Cymru

Mae’r cyntaf o 86 o fastiau 4G wedi cael ei roi ar waith yng Nghymru y mis hwn, a dylai fod o fudd i drigolion, ymwelwyr a pherchnogion busnes.

  • Gall rhannau o gefn gwlad Cymru elwa yn awr o signal ffonau symudol cyflym a dibynadwy a fydd yn helpu i roi hwb i dwf economaidd ac yn pontio’r rhaniad digidol mewn ardaloedd diarffordd
  • Cafodd y cyntaf o 86 o fastiau 4G sy’n cael eu hariannu gan lywodraeth y DU ei roi ar waith fel rhan o gynllun ar y cyd â chwmnïau telathrebu i ddarparu cysylltedd ffonau symudol ar draws 95 y cant o arwynebedd tir y DU
  • Cafodd y mastiau presennol eu huwchraddio i ddarparu signal 4G, gan gyfyngu ar effaith weledol y rhaglen, a chyflawni cynllun hirdymor y llywodraeth

Gall nifer o gymunedau gwledig yng Nghymru gael mynediad yn awr at signal ffonau symudol 4G cyflym a dibynadwy, wrth i lywodraeth y DU gyflawni ei chynlluniau i fynd i’r afael â chysylltiad gwael ac anghyson.

Cafodd y cyntaf o 86 o fastiau 4G ei roi ar waith yng Nghymru y mis yma, a dylai fod o fudd i drigolion, ymwelwyr a pherchnogion busnes gan roi hwb i dwf economaidd mewn ardaloedd fel Pont-rhyd-y-groes, Ysbyty Ystwyth, Llanafan, Tyn-y-graig, West Fedw a Thrawsgoed. 

Mae’r gwaith hwn yn rhan o raglen y Rhwydwaith Gwledig a Rennir, cynllun gwerth £1 biliwn yn cael ei arwain gan lywodraeth y DU a chwmnïau telathrebu sy’n ceisio cau’r rhaniad digidol a sbarduno twf economaidd mewn ardaloedd diarffordd o’r wlad drwy hybu cysylltedd ffonau symudol.   

Mae’r gwaith wedi’i wneud drwy uwchraddio’r seilwaith ffonau presennol, yn hytrach nag adeiladu un newydd, sy’n golygu y gall cymunedau elwa o well cysylltedd heb yr effaith weledol sy’n gysylltiedig ag adeiladu mastiau newydd.

Dywedodd y Gweinidog Seilwaith Digidol, Julia Lopez:

Gall signal ffonau symudol gwael achosi rhwystredigaeth fawr iawn i bobl a dal busnesau mewn ardaloedd gwledig yn ôl. 

Dyma pam rydw i wedi rhoi blaenoriaeth i sicrhau nad oes neb yn teimlo ei fod yn cael ei adael ar ôl oherwydd diffyg signal dibynadwy. 

Rwy’n falch iawn o weld y cynllun yma’n cael ei roi ar waith er mwyn datrys problemau signal ffonau symudol mewn ardaloedd gwledig ym Mhowys. Gall pawb – yn drigolion, perchnogion busnes ac ymwelwyr – gael mynediad at gysylltedd ffonau symudol addas i’r dyfodol a mwynhau’r cyfleoedd sy’n dod yn ei sgil.

O ganlyniad i’r gwaith uwchraddio hwn, bydd trigolion Powys ac ymwelwyr â’r sir yn gallu cael mynediad at signal 4G gan bob un o’r pedwar gweithredwr rhwydwaith ffonau symudol - EE, VMO2, Three a Vodafone. 

Bydd dau fast 4G arall yn cael eu rhoi ar waith yn ystod y misoedd nesaf yn Esgair Maen a Bronfelin, wrth i’r gwaith o weithredu rhaglen y Rhwydwaith Gwledig a Rennir gyflymu.  

Caiff cyfanswm o 86 o fastiau eu rhoi ar waith yng Nghymru yn ystod y misoedd nesaf a byddant yn helpu i ddatrys problemau signal ffonau symudol sy’n atal cymunedau rhag manteisio ar gysylltedd digidol.  

Mae rhoi’r mastiau ar waith yng Nghymru yn garreg filltir arall yn y cytundeb gwerth £1 biliwn ar y cyd rhwng y llywodraeth a diwydiant er mwyn sicrhau bod pob un o’r pedwar gweithredwr rhwydweithiau ffonau symudol yn darparu cysylltedd cyfunol ar gyfer 95 y cant o arwynebedd y DU cyn diwedd 2025.

Dywedodd Ben Roome, Prif Swyddog Gweithredol Digital Mobile Spectrum Limited (DMSL):

Yng Nghymru, ers cyhoeddi’r Rhwydwaith Gwledig a Rennir ym mis Mawrth 2020, mae signal 4G gan bob un o’r pedwar gweithredwr wedi ehangu ar draws 1000 yn rhagor o gilometrau sgwâr – arwynebedd mwy na Sir Fynwy. Wrth i fwy o safleoedd ffonau symudol a rennir fynd yn fyw, bydd pobl sy’n ymweld ag ardaloedd gwledig ac yn byw ynddynt yn gweld gwell gwasanaeth 4G diolch i’r rhaglen hon.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies:

Rwy’n falch iawn o weld problemau signal ffonau symudol yr ardaloedd hyn ym Mhowys yn cael eu datrys drwy roi tri mast 4G ar waith, a mastiau eraill yn ystod y misoedd nesaf. Mae llywodraeth y DU yn falch o’n buddsoddiad yn y Rhwydwaith Gwledig a Rennir sy’n helpu trigolion a busnesau yng Nghymru wledig i gael mynediad at gysylltiadau rhyngrwyd cyflym a dibynadwy.

Mae llywodraeth y DU yn buddsoddi dros £180 miliwn er mwyn galluogi pob gweithredwr rhwydweithiau ffonau symudol i ddefnyddio’r seilwaith a darparu signal 4G.   

Mae rhoi’r mast ar waith yng Nghymru yr wythnos yma yn adeiladu ar gynnydd sydd wedi’i wneud yn barod gan y diwydiant er mwyn sicrhau cysylltedd ffonau symudol cyflym a dibynadwy yng Nghymru ers i lywodraeth y DU a’r pedwar gweithredwr rhwydweithiau ffonau symudol gytuno ar yr SRN ym mis Mawrth 2020.

Nodiadau i’r golygyddion

Mae llywodraeth y DU a diwydiant yn buddsoddi dros £1 biliwn ar y cyd er mwyn cynyddu signal ffonau symudol 4G ledled y DU drwy’r Rhwydwaith Gwledig a Rennir, fel bod signal cryf i’w gael mewn dros 95% o ardal ddaearyddol y DU.  

Yng Nghymru, rhagwelir y bydd cyfanswm yr arwynebedd â signal 4G gan bob Gweithredwr Rhwydweithiau Ffonau Symudol (MNO) yn 80%, o’i gymharu â 60% cyn y Rhwydwaith Gwledig a Rennir, a rhagwelir y bydd cyfanswm yr arwynebedd â signal 4G gan o leiaf un MNO yn 95% (o’i gymharu â 90% cyn y Rhwydwaith Gwledig a Rennir). Ar hyn o bryd mae gan 90.6% o arwynebedd tir Cymru signal 4G gan o leiaf un MNO. 

Mae llywodraeth y DU yn gweithio gyda gweithredwyr rhwydweithiau ffonau symudol, gan uwchraddio eu rhwydweithiau presennol a chydweithio ar seilwaith a rennir a safleoedd newydd, er mwyn trawsnewid signal ffonau symudol mewn ardaloedd gwledig, cynyddu’r dewis o ddarparwyr a hybu cynhyrchiant. 

Bydd yr elfen hon o’r rhaglen Rhwydwaith Gwledig a Rennir yn gweld yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg yn darparu £184 miliwn o’r £500 miliwn o gyllid SRN gan lywodraeth y DU i’r Swyddfa Gartref a gweithredwyr rhwydweithiau ffonau symudol er mwyn uwchraddio mastiau Gwasanaeth Ardal Estynedig (EAS) sy’n cael eu hadeiladu fel rhan o’r Rhwydwaith Gwasanaethau Brys (ESN), fel bod modd i’r pedwar gweithredwr eu defnyddio a chynnig cysylltedd masnachol am y tro cyntaf. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod signal ar gael ym mhobman – gan gynnwys yr ardaloedd anodd eu cyrraedd lle nad oes signal o gwbl gan unrhyw weithredwr ar hyn o bryd.

Bydd 292 o safleoedd EAS ledled Prydain, gan gynnwys 86 yng Nghymru, ond ni fydd pob un yn cael ei uwchraddio’n fasnachol oherwydd rhesymau technegol amrywiol neu resymau yn ymwneud â gwerth am arian.

Mae’r rhaglen ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i gyrraedd y targed o gysylltedd cyfunol ar draws 95% o arwynebedd tir y DU erbyn diwedd 2025, a bydd rhagor o welliannau signal mewn mwy o ardaloedd anodd eu cyrraedd yn cael eu gwneud o hyd tan ddechrau 2027. I gael mwy o wybodaeth am y Rhwydwaith Gwledig a Rennir ewch i srn.org.uk.

Cyhoeddwyd ar 19 March 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 March 2024 + show all updates
  1. Welsh version of the press release added.

  2. First published.