Llywodraeth y DU yn croesawu'r ffaith bod Carchar Wrecsam yn cael ei gymeradwyo'n derfynol yng ngogledd Cymru
Mae'r carchar gwerth £212 miliwn yn bwriadu agor yn 2017 a bydd yn creu tua 1,000 o swyddi.

Gan ymateb i’r cyhoeddiad bod Cyngor Wrecsam wedi cymeradwyo’r cynllun yn derfynol, dywedodd Alun Cairns, Gweinidog Swyddfa Cymru:
Bu angen ei garchar ei hun ar ogledd Cymru ers tro byd ac mae’r gymeradwyaeth derfynol hon yn un a groesawir yn wresog.
Bydd y datblygiad hwn, drwy’r broses o’i adeiladu, ei redeg a’i gynnal a’i gadw, yn dod â nifer enfawr o swyddi i Wrecsam a’r cyffiniau ac yn rhoi hwb economaidd mawr i economi gogledd Cymru.
Dywedodd Andrew Selous, y Gweinidog Carchardai:
Rwy’n croesawu’r gymeradwyaeth derfynol hon. Mae gwaith paratoi eisoes wedi dechrau ar y safle yn gynt na’r disgwyl a bydd y prif waith adeiladu yn dechrau’n fuan.
Credwn yn ddiau y bydd y carchar yn fudd enfawr i’r ardal. Unwaith y bydd yn weithredol, amcangyfrifir y bydd y carchar yn creu tua 1,000 o swyddi ac yn rhoi hwb o tua £23 miliwn i’r economi leol bob blwyddyn.