Profion torfol Covid-19 a gefnogir gan Lywodraeth y DU yn dechrau ym Merthyr
Mae Byddin y DU yn darparu cymorth gweithredol ar gyfer rhaglen brofi ledled y sir.

Merthyr yw’r sir gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan yn rhaglen profi dorfol y DU yn dilyn y rhaglen beilot ddiweddar yn Lerpwl.
Bydd rhaglen profi dorfol a gefnogir gan Lywodraeth y DU yn defnyddio Dyfeisiadau Llif Ochrol fydd yn gallu darparu canlyniadau o fewn tua 20-30 munud. Os bydd unigolyn yn profi’n bositif, drwy brawf, byddant wedyn yn derbyn prawf swab ac fe ofynnir iddynt ddychwelyd adref er mwyn hunanynysu ar unwaith.
Mae’r gwaith o gyflwyno profion torfol ym Merthyr yn cael ei gynnal gyda chymorth mwy na 160 o bersonél Milwrol y DU sy’n cefnogi swyddogion lleol i sefydlu’r rhaglen profion torfol yn gyflym.
Bydd holl drigolion yr ardal yn cael cynnig profion C-19 rheolaidd, hyd yn oed os nad ydynt yn dangos symptomau. Bydd hyn yn helpu i ddod o hyd i fwy o achosion positif a thorri cadwyni trosglwyddo. Agorodd y safle brofi cyntaf yng nghanolfan hamdden Merthyr Tudful ar 21 Tachwedd a bydd safleoedd eraill yn agor yn hwyrach yn y mis.
Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Mae profi torfol yn bwysig iawn yn ein brwydr barhaol yn erbyn y feirws ac mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio ddydd a nos i sicrhau fod cyflenwad digonol ar draws y DU.
Ar yr un pryd mae Lluoedd Arfog y DU wedi bod yn darparu cefnogaeth hanfodol ac arbenigedd ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru drwy gydol y pandemig.
Gan weithio ochor yn ochor â’r cyngor lleol, Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae’r gefnogaeth sylweddol mae Llywodraeth y DU yn ei roi nawr i gyflwyno’r profion torfol cyntaf yng Nghymru ym Merthyr yn dangos, unwaith yn rhagor, ein bod yn mynd i’r afael â’r coronafeirws yn well yn unedig ar draws pedair gwlad y DU ac yn gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau cyffredin.
Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Gall drigolion a gweithwyr ym Merthyr ddod o hyd i wybodaeth ar sut i gael gafael ar brofion drwy ymweld â www.merthyr.gov.uk/covidtesting