Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn diogelu gyllid ar gyfer y darlledwr Cymraeg, S4C

Alun Cairns: "S4C yn rhan hirsefydlog o gyd-destun darlledu gwasanaeth cyhoeddus y DU"

S4C

S4C

Cafodd y darlledwr Cymraeg, S4C, £400,000 heddiw wrth i’r Ysgrifennydd Diwylliant John Whittingdale gadarnhau cyllid newydd y Trysorlys gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar gyfer 2016/17.

Mae’r cyllid newydd yn golygu na fydd cyllideb S4C yn lleihau yn 2016/17 a bydd eu cyllid yn aros ar yr un lefel â 2015/16.

Mae gan S4C yng Nghymru gylch gwaith penodol sy’n ymwneud â rhaglenni Cymraeg, gyda’r rhan fwyaf o’u cyllid yn dod o Ffi’r Drwydded Deledu.  Er mwyn cydnabod graddfa a materion cynulleidfa leiafrifol, mae S4C hefyd yn cael cyllid uniongyrchol gan y Llywodraeth.

Er mwyn sicrhau bod gan S4C ddyfodol cryf a chynaliadwy i barhau i ddarparu’s gwasanaeth o’r radd flaenaf, mae’r Llywodraeth hefyd yn bwriadu cynnal adolygiad cynhwysfawr yn 2017. Bydd yr adolygiad yn edrych ar gylch gwaith, trefniadau llywodraethu a chyllid S4C i sicrhau bod y darlledwr yn dal i allu bodloni anghenion cynulleidfaoedd sy’n siarad Cymraeg yn y dyfodol a buddsoddi mewn rhaglenni uchel-ansawdd. Bydd y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn sicrhau sefydlogrwydd ariannol drwy’r broses adolygu.

Dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant y DU, John Whittingdale:

Crëwyd S4C gan Lywodraeth Geidwadol, ac mae Llywodraeth bresennol y DU yn dal i fod wedi ymrwymo i gefnogi’r gwasanaeth gwerthfawr y mae S4C yn ei ddarparu i gynulleidfaoedd sy’n siarad Cymraeg.

Rwy’n falch iawn fod y Llywodraeth wedi gallu darparu cyllid ychwanegol ar gyfer S4C, sy’n cefnogi llawer iawn o gynhyrchwyr annibynnol o bob cwr o Gymru, a’r unig sianel Gymraeg yn y byd.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae S4C yn rhan bwysig a hirsefydlog o gyd-destun darlledu gwasanaeth cyhoeddus cyfoethog y DU. Mae’r sianel a’i chynnwys yn gwneud cyfraniad pwysig at fywyd diwylliannol ac economaidd Cymru, ffyniant y Gymraeg a chryfder ein sector creadigol.

Fel y dywedodd y Prif Weinidog, mae’r llywodraeth hon am sicrhau bod S4C yn parhau i fod yn sianel gref. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn tanlinellu’r ymrwymiad hwn. Rydym am weld y sianel yn parhau i ddatblygu er mwyn bodloni anghenion yr oes ddigidol, a datblygu rhai o raglenni mwyaf arloesol, awdurdodol a difyr y DU.

Daw’r cyllid ychwanegol hwn wrth i’r Llywodraeth barhau i adolygu pob agwedd ar y BBC, ac mae darlledu ieithoedd lleiafrifol yn cael ei ystyried fel rhan o hyn. Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw newidiadau’n cael eu hystyried wrth chwilio am opsiynau ar gyfer darlledu ieithoedd lleiafrifol.

Meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C:

Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad yma heddiw gan adran yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae’r egwyddor o gynnal adolygiad o anghenion y gwasanaeth, cyn i’r cyllido gael ei benderfynu’n derfynol, yn un rydym ni ac aelodau seneddol o bob plaid, wedi bod yn dadlau drosti.

Yn y cyfamser, mae rhewi’r cyllid presennol yn arwydd clir a phwysig o gefnogaeth gan y Llywodraeth ac rydym yn ei groesawu’n fawr. Edrychwn ymlaen, maes o law, at dderbyn manylion hyd a lled ac amseriad yr adolygiad, ac at gyfrannu’n llawn iddo.

Cyhoeddwyd ar 3 February 2016