Datganiad i'r wasg

Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cefnogi busnesau gwledig yn un o brif ddigwyddiadau y byd amaeth

Bydd Llywodraeth y DU yn mynegi ei chefnogaeth gref i sectorau amaethyddiaeth, bwyd a busnes Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos nesaf (23-26 Gorffennaf).

Am y tro cyntaf, bydd Llywodraeth y DU yn meddiannu bron i 20 metr yn y prif ddigwyddiad hwn sy’n para pedwar diwrnod yn Llanfair-ym-Muallt. Bydd yn rhoi cyfle i ddiwydiannau gwledig ac aelodau’r cyhoedd siarad â Gweinidogion a staff am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a chael gwybod mwy am sut mae Llywodraeth y DU yn cyflawni dros bobl Cymru.

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cynnal digwyddiad ‘merched mewn amaeth’ yn stondin Llywodraeth y DU ar faes y sioe, i ddathlu rôl ganolog merched fel ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd yng Nghymru.

Hefyd, bydd busnesau’n gallu ymweld â Hwb Allforio’r Adran Masnach Ryngwladol. Lori 32 tunnell, 40 troedfedd o hyd yw’r hwb, a bydd Ymgynghorwyr Masnach Ryngwladol yr Adran wrth law i fynd drwy’r camau pwysig y mae gofyn i gwmnïau yng Nghymru eu hystyried os ydyn nhw am ddechrau allforio.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Sioe Frenhinol Cymru yw’r digwyddiad amaeth mwyaf yng Nghymru a bydd Llywodraeth y DU yno yn llu. Byddwn yn manteisio ar y cyfle gwych hwn i ymgysylltu â’r diwydiant, tanlinellu pwysigrwydd yr economi wledig i Gymru a’r DU yn ehangach a dangos pa mor benderfynol ydyn ni i sicrhau bargen dda i’r sector wrth i ni negodi ein telerau ymadael â’r UE.

Mae gofyn i ni fod yn feiddgar ac yn uchelgeisiol a manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit. Er mwyn cyflawni hyn, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’i gilydd - ac yn gweithio gyda busnesau - i sicrhau bod ein heconomi wledig yn parhau i allu tyfu.

Mae’r sioe yn denu dros 240,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Dyma lwyfan pwysig i Lywodraeth y DU gyfleu i’r ymwelwyr â’r sioe sut mae’n cyflawni ar gyfer pobl Cymru - gan gynnwys ein darpariaethau ar gyfer gofal plant, pensiynau, amddiffyn a chymorth i ddechrau busnes. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â busnesau ac aelodau’r cyhoedd yn ystod y sioe, er mwyn clywed am eu blaenoriaethau dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

Bydd Michael Gove, Ysgrifennydd yr Amgylchedd, yn ymuno ag Ysgrifennydd Cymru ar y dydd Mawrth. Byddant yn cynnal derbyniad yn stondin Llywodraeth y DU er mwyn cwrdd ag arweinwyr y diwydiant, busnesau ac ymwelwyr â’r sioe.

Dywedodd Michael Gove, Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Llywodraeth y DU:

Mae Sioe Frenhinol Cymru yn un o uchafbwyntiau calendr yr haf. O gig oen blasus Cymreig i gaws o Eryri, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddathlu’r gorau o fyd ffermio, bwyd a bywyd gwledig Cymru.

Wrth i ni adael yr UE, bydd mwy o ryddid i Gymru i gefnogi ei ffermwyr a gwella ei thirweddau hardd. Rydym yn cydweithio â Llywodraeth Cymru cyn y Mesur Amaethyddiaeth, fel y gallwn ddarparu Brexit sy’n gweithio i ffermwyr Cymru.

Dyma rai o adrannau Llywodraeth y DU a fydd yn dod i’r Sioe:

  • Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a fydd yn hyrwyddo’r ymgyrch: Food is GREAT.
  • DVLA gydag arddangosiadau rhyngweithiol yn y stondin.
  • Yr Adran Masnach Ryngwladol (DIT) a fydd wrth law i roi cyngor ar allforio i’r diwydiant yn eu tryc hwb allforio drwy gydol yr wythnos.
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a fydd yn cynnig gweithgareddau rhyngweithiol ‘y swydd ddelfrydol’ i blant iau a hŷn ac yn rhoi cyngor ar y cynllun Mynediad i Waith.
  • Bydd yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (DfID) yn cyfleu’r sefyllfaoedd dyngarol y maen nhw’n eu cefnogi o gwmpas y byd gydag arddangosiadau rhyngweithiol o gyfarpar achub bywyd yn y stondin.
  • Bydd y Swyddfa Gartref wrth law i roi cyngor ar y cynllun Preswylio yng nghyswllt yr UE a fydd yn diogelu hawliau gweithwyr yng Nghymru ar ôl ymadael â’r UE.

Bydd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, David Lidington AS, Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Andrea Leadsom AS a Gweinidog heb Bortffolio, Brandon Lewis yn ymweld â maes y sioe yn ystod yr wythnos hefyd.

Anogir ymwelwyr â’r sioe i fynd i ardal Llywodraeth y DU, Llwybr C, LC217 ar faes y sioe i ddarganfod sut mae San Steffan yn cyflawni dros Gymru.

Cyhoeddwyd ar 19 July 2018