Datganiad i'r wasg

Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cefnogi'r Sioe Frenhinol rithwir gyntaf

Daw'r rhaglen pedwar diwrnod o ddigwyddiadau ar-lein wrth i Lywodraeth y DU amddiffyn incwm bron 10,000 o bobl a gyflogir yn yr economi wledig yng Nghymru

  • Rhaglen pedwar diwrnod o ddigwyddiadau ar-lein yn disodli digwyddiad blynyddol yn Llanfair-ym-Muallt
  • Daw wrth i Lywodraeth y DU amddiffyn incwm bron 10,000 o bobl a gyflogir yn yr economi wledig yng Nghymru

Bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn pwysleisio pwysigrwydd cefnogi economi wledig Cymru drwy’r pandemig coronafeirws wrth gymryd rhan yn y Sioe Frenhinol Cymru rithwir gyntaf erioed (20-24 Gorffennaf).

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, a Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, David TC Davies, yn cymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau ac ymweliadau ar-lein gyda ffigurau allweddol i gefnogi’r sector amaethyddol yng Nghymru.

Daw’r sioe wrth i’r ffigurau diweddaraf ddangos bod Llywodraeth y DU yn diogelu bron 10,000 o incymau pobl sy’n gweithio yn y sector amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota yng Nghymru - 8,400 drwy’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth a 1,400 drwy Gynllun Cadw Swyddi Coronafirus.

Mae ymgyrch ‘Mwynha’r haf yn saff’ Llywodraeth y DU hefyd yn ceisio rhoi hwb i ddiwydiant twristiaeth ddomestig y DU ac yn ysbrydoli’r cyhoedd i ddychwelyd at arferion gwario arferol gan ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch COVID-19.

Wythnos diwethaf nododd Llywodraeth y DU ei chynlluniau i sicrhau bod busnesau, gan gynnwys cwmnïau cynhyrchu bwyd a diod o Gymru, yn gallu parhau i fwynhau masnach fewnol ddi-dor gyda’r Deyrnas Unedig gyfan pan fyddwn yn gadael y cyfnod pontio ar ddiwedd eleni.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

Mae Sioe Frenhinol Cymru eleni yn dod ar adeg dyngedfennol lle mae’n rhaid i ni gydbwyso’r angen i achub bywydau a chynnwys y coronafeirws gyda’n hamcan o warchod ein heconomi a sicrhau bod sectorau fel amaethyddiaeth yn gallu bownsio’n ôl yn gryf.

Ar draws Cymru, mae Llywodraeth y DU yn diogelu incwm dros 480,000 o bobl drwy’r cynllun cadw swyddi a chymorth incwm ar gyfer pobl hunangyflogedig. Mae miloedd o’r rhain yn yr economi wledig ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y swyddi a’r cymunedau hynny’n cael eu cefnogi drwy’r pandemig.

Er bod cynnal Sioe Frenhinol Cymru yn amhosib eleni, rwy’n cefnogi’n llwyr ei symudiad i lwyfan ar-lein ac yn gobeithio y bydd hwn yn galluogi’r sioe i dyfu ei chyrhaeddiad a dod yn ôl yn gryfach fyth y flwyddyn nesaf. Rwy’n edrych ymlaen at roi fy nghefnogaeth i’r sector amaethyddol yr wythnos hon a chlywed barn y bobl sy’n gweithio ynddi am y ffordd orau o fynd drwy’r misoedd nesaf.

Mae sioe rithwir Frenhinol Cymru eleni yn dechrau ddydd Llun 20 Gorffennaf ac yn cynnwys anerchiad agoriadol gan Dywysog Cymru yn ogystal â rhaglen lawn o seminarau, sesiynau holi ac ateb byw a digwyddiadau eraill a gynlluniwyd i addysgu’r cyhoedd am amaethyddiaeth, cynnyrch Cymreig a’r amgylchedd.

DIWEDD

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am y Sioe Frenhinol rithwir eleni drwy royalwelsh.digital.

Cyhoeddwyd ar 20 July 2020