Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn cyflwyno mesur Deddf Cymru 2017 i ddiogelu cyflenwad dŵr Cymru a Lloegr

Mae'r cytundeb yn rhoi'r trefniadau trawsffiniol ar gyfer dŵr ar sail addas ar gyfer yr 21ain ganrif

  • Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cyflwyno protocol dŵr newydd ar gyfer Cymru a Lloegr
  • Mae’n paratoi’r ffordd i gael gwared ar bwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i ymyrryd gyda pholisi dŵr Cymru
  • Mae’r protocol yn dangos pa mor bell yr ydym wedi dod o ddigwyddiadau 52 mlynedd yn ôl, a arweiniodd at lifogi Cwm Tryweryn
  • Daw’r protocol i rym ar 1 Ebrill 2018

Heddiw, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno protocol dŵr ar gyfer Cymru a Lloegr gerbron Llywodraeth y DU a fydd yn diogelu adnoddau dŵr, cyflenwad dŵr ac ansawdd dŵr ar gyfer defnyddwyr bob ochr i’r ffin.

Wedi’i gyflwyno ar y cyd â Llywodraeth Cymru, mae’r protocol hwn yn bodloni ymrwymiad allweddol a wnaethpwyd wrth gymeradwyo Deddf Cymru 2017 ac yn paratoi’r ffordd i ddiddymu pwerau ymyrryd yr Ysgrifennydd Gwladol o ran dŵr.

Dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yr Ysgrifennydd Gwladol sydd â’r pwerau ar hyn o bryd i ymyrryd os bydd yn credu bod perygl i Fil y Cynulliad, neu weithredu swyddogaeth ddatganoledig, gael effaith andwyol ddifrifol ar adnoddau dŵr, cyflenwad dŵr neu ansawdd dŵr yn Lloegr.

Mae’r protocol yn disodli’r pwerau ymyrryd hyn â chytundeb cyfatebol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Heddiw, mae Llywodraeth y DU yn gweithredu ar ei hymrwymiad i gyflwyno protocol dŵr er mwyn sicrhau bod buddiannau defnyddwyr dŵr yng Nghymru – a Lloegr – yn cael eu hamddiffyn.

O heddiw ymlaen, ni ddylai unrhyw weithredu neu ddiffyg gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU o ran adnoddau dŵr, cyflenwad dŵr neu ansawdd dŵr gael effeithiau andwyol difrifol ar ddefnyddwyr ar naill ochr y ffin i’r llall.

Mae’r protocol hwn yn brawf o ba mor bell rydyn ni wedi dod ers y digwyddiadau 52 mlynedd yn ôl, a arweiniodd at foddi Cwm Tryweryn. Mae cytundeb heddiw yn rhoi trefniadau trawsffiniol ar waith o ran dŵr ar delerau addas ar gyfer y 21ain ganrif ac yn cadarnhau beth y gellir ei gyflawni pan fydd dwy lywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd er ffyniant Cymru yn y dyfodol.

Mae’r rhain yn bwerau sy’n effeithio ar fywydau pawb sy’n byw yng Nghymru ac yn gam mawr at setliad datganoli cliriach, cryfach a thecach y mae Llywodraeth y DU yn ei roi ar waith ar gyfer pobl Cymru.

Dywedodd Michael Gove, yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd:

Ledled y DU rydym yn rhannu’r diddordeb mewn diogelu ein hamgylchedd a sicrhau Brexit Gwyrdd.

Mae’r protocol dŵr newydd ar gyfer Cymru a Lloegr yn rhan bwysig o’r diddordeb a rennir hwn a bydd yn sicrhau bod adnoddau, cyflenwad ac ansawdd dŵr yn cael eu diogelu ar gyfer defnyddwyr bob ochr i’r ffin.

Rhaid i bawb ohonom barhau i weithio’n agos gyda’n gilydd o ran yr amgylchedd, pysgodfeydd ac amaethyddiaeth wrth i bwerau gael eu dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd y pwerau ymyrryd yn cael eu diddymu pan fydd model cadw pwerau newydd datganoli yn cael eu rhoi ar waith gan Ddeddf Cymru 2017 ac yn dod i rym ar 1 Ebrill y flwyddyn nesaf.

Fedrwch ddarllen y protocol yma.

Cyhoeddwyd ar 16 November 2017