Datganiad i'r wasg

Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru yn annog allforio mewn cwmni wisgi Cymreig byd-eang

Guto Bebb: Mae llwyddiant Penderyn yn paratoi’r ffordd i fusnesau Cymreig eraill sicrhau llwyddiant wrth allforio

Heddiw (9 Hydref) mae Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru yn ymweld â distyllfa wisgi Penderyn yng Nghymru er mwyn tynnu sylw at yr amrywiaeth o gyfleoedd sy’n aros am gwmnïau a chanddynt y cymhelliant i fentro allan i’r byd ehangach, i fasnachu ac i gynnal busnes ym mhob cwr o’r byd.

Mae Penderyn, sydd wedi’i leoli ger Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, wedi datblygu ei frand yn gyflym ers ei sefydlu yn 2000. Erbyn hyn mae’r cwmni’n allforio i farchnadoedd rhyngwladol mewn 25 o wledydd gan gynnwys Tsieina, Rwsia, Awstralia ac, yn fwy diweddar, Japan, wrth i’r awydd am wisgi brag sengl a gwirodydd lleol gynyddu ledled y byd.

Trefnwyd yr ymweliad yn dilyn cenhadaeth fasnach Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ddiweddar i Japan, lle cyfarfu â chwmnïau rhyngwladol blaenllaw i drafod potensial gwych mewnfuddsoddi pellach yn y Deyrnas Unedig. Bydd Llywodraeth y DU yng Nghymru hefyd yn ceisio cyflwyno busnesau eraill o Gymru i fuddsoddwyr o Japan yr wythnos hon mewn derbyniad yn Nhŷ Gwydyr yn Llundain nos Fercher.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, Guto Bebb AS:

Mae Penderyn yn enghraifft ardderchog o fusnes Cymreig lleol a chanddo enw da dros y byd i gyd. Mae’r cwmni’n arddangos cynnyrch gwych o Gymru ar y llwyfan rhyngwladol ac yn paratoi’r ffordd i fusnesau Cymreig eraill sicrhau llwyddiant wrth allforio hefyd.

Mae Penderyn yn fusnes sy’n ychwanegu gwerth go iawn at economi ranbarthol Cymoedd De Cymru - o ran gweithgynhyrchu ac yn fwy diweddar hefyd yn y busnes twristiaeth. Nid yw’n syndod bod miloedd o bobl yn weld â’r ddistyllfa bob blwyddyn i weld ansawdd wisgi Cymreig a chryfder ein diwydiant bwyd a diod.

Wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, dyma’r amser i ystyried cyfleoedd newydd ar gyfer masnachu ac allforio yn bellach i ffwrdd. Bydd Llywodraeth y DU yn cefnogi pob busnes Cymreig sy’n awyddus i chwilio am farchnadoedd tramor newydd.

Mae Cymru eisoes yn wlad sy’n allforio. Yn 2016 roedd dros 3,800 o fusnesau yn allforio yng Nghymru a gwerth cyfun blynyddol yr allforion yn £12.4 biliwn. Bellach, mae Gweinidogion yn annog busnesau eraill i fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael gan gynnwys cymhellion ariannol a gwasanaethau paru ar-lein.

Yn ddiweddar, mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ysgrifennu at dros 26,000 o fusnesau Cymreig oedd wedi’u nodi fel cwmnïau allforio posib, yn ogystal ag anfon copi o’r Canllaw Allforio Cymru. Mae’r canllaw penodol i Gymru yn nodi’r ystod lawn o gymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac mae’n cynnwys hanesion ysbrydoledig am gwmnïau yng Nghymru sy’n allforio’n llwyddiannus.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Penderyn yn ddistyllfa wisgi ac yn frand Cymreig, sy’n cynhyrchu’r wisgi cyntaf i gael ei wneud yng Nghymru ers y 19eg ganrif. Cyn hynny, roedd wisgi yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru ers y 4edd ganrif.

  • Caiff Penderyn ei ddistyllu a’i gynhyrchu yn Nistyllfa Penderyn sydd ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ym mhentref Penderyn, Rhondda Cynon Taf, yng Nghwm Cynon, lle caiff y brand ei enw. Dewiswyd y safle gan fod ganddo ei gyflenwad ei hun o ddŵr ffynnon naturiol.

  • Dechreuodd y cwmni’n wreiddiol yn 2000 fel y Welsh Whisky Company. Cyn hynny, roedd wisgi wedi bod yn cael ei ddistyllu yng Nghymru am ganrifoedd, ond daeth hynny i ben yn 1894.

  • Penderyn oedd y wisgi cyntaf i gael ei weithgynhyrchu yng Nghymru am dros ganrif pan ddechreuodd gael ei werthu ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2004 mewn lansiad gydag EUB y Tywysog Charles. Dyma’r unig wisgi sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru o hyd.

  • Agorodd y cwmni ganolfan i ymwelwyr ym mis Mehefin 2008, gyda’r Tywysog Charles, Tywysog Cymru, yn arwain y gweithgareddau. Erbyn hyn, mae dros 35,000 o ymwelwyr yn ymweld â’r ganolfan i ymwelwyr bob blwyddyn.

Cyhoeddwyd ar 9 October 2017