Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn helpu mwy na 57,000 o fusnesau yng Nghymru

Mae busnesau yng Nghymru wedi elwa ar fwy na £2 biliwn o fenthyciadau a gefnogir gan Lywodraeth y DU i ddiogelu a chefnogi swyddi.

Laptop image
  • Mae mwy na 55,000 o fenthyciadau gwerth mwy na £1.5 biliwn wedi’u cynnig o dan Gynllun Benthyciadau Ailgydio Llywodraeth y DU
  • Mae mwy na 2,200 o fenthyciadau gwerth £503 miliwn wedi’u cynnig o dan y Cynllun Benthyciadau Ymyrraeth Busnes Coronafeirws
  • Mae 97,000 o bobl yng Nghymru wedi elwa o’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth

Elwodd busnesau yng Nghymru o fwy na £2 biliwn o fenthyciadau a gefnogir gan Lywodraeth y DU i amddiffyn a chefnogi swyddi.

Mae mwy na 57,000 o fenthyciadau wedi cefnogi busnesau ar draws pob sector, gan amddiffyn swyddi. Ond y sectorau manwerthu ac adeiladu sydd wedi elwa fwyaf, gan ddangos sut y gwnaeth cefnogaeth y llywodraeth helpu’r busnesau hynny y mae’r pandemig wedi effeithio fwyaf arnynt.

Yn yr un modd, mae’r cynllun cymorth incwm hunangyflogaeth wedi bod o fudd i bobl fusnes ym mhob sector, gyda 97,000 o bobl yng Nghymru yn elwa o’r cynllun, gyda hawliad o £2,400 ar gyfartaledd.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

Mae’r pandemig wedi creu ansicrwydd enfawr i weithwyr, yr hunangyflogedig a pherchnogion busnes, ond mae’r gefnogaeth y mae Llywodraeth y DU wedi’i darparu wedi dod â sefydlogrwydd i filoedd o fusnesau ledled Cymru.

Mae cwmnïau mawr a bach yng Nghymru wedi derbyn mwy na £2 biliwn mewn benthyciadau a gefnogir gan Lywodraeth y DU i amddiffyn swyddi a bydd y busnesau hyn yn helpu i yrru’r economi wrth i ni geisio adeiladu’n ôl yn gryfach ar ôl y pandemig.

Meddai Canghellor y Trysorlys, Rishi Sunak:

“Trwy gydol yr argyfwng hwn, rydym wedi darparu mwy na £280 biliwn o gefnogaeth i amddiffyn swyddi a bywoliaeth pobl ledled y wlad.

Rydym wedi ymrwymo i barhau i sicrhau bod swyddi’n cael eu gwarchod a bod cyfleon yn cael eu creu. Mae cwmnïau ledled Cymru wedi elwa o gefnogaeth trwy fenthyciadau a gefnogir gan y llywodraeth, gan gynnwys cadwyn o archfarchnadoedd sy’n gwerthu nwyddau ar gyfer anifeiliaid anwes, Pet Place, a leolir yng Nghonwy.”

Meddai Sion Pritchard, rheolwr gyfarwyddwr Pet Place:

Rydyn ni bob amser wedi cynllunio ein presenoldeb ar-lein i ychwanegu at y refeniw y mae ein siopau corfforol yn ei gynhyrchu, felly roedd y cynnydd sydyn a helaeth mewn archebion ar-lein yn her fawr. Er ein bod wedi gallu adleoli ein hadnoddau yn llwyddiannus, ni fyddem wedi gallu symud mor gyflym na chwrdd â’r gofynion cyfalaf heb y cyllid brys gan CBILS, yn enwedig o ystyried lefel y buddsoddiad rydym wedi’i roi i mewn i’n siopau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Nid yw ein busnes cyffredinol wedi bod yn rhydd o effeithiau economaidd y pandemig presennol o bell ffordd ond, gyda chefnogaeth CBILS a’n benthycwyr, rydym wedi gallu cwrdd â’r her a chadw ein gweithwyr yn ddiogel a sicrhau bod ein cyflenwyr yn cael eu talu’n llawn.

Ar ddechrau’r Gaeaf, cyhoeddodd y Canghellor y bydd mwy na miliwn o fusnesau a gymerodd Fenthyciad Ailgydio nawr yn derbyn gwarchodaeth bellach rhag yr argyfwng Covid trwy ad-daliadau hyblyg, o dan y system Talu wrth Dyfu newydd, sy’n rhoi mwy o amser i fusnesau ad-dalu. Ers hynny, mae’r Llywodraeth wedi ymestyn y cynlluniau benthyciadau tan fis Mawrth, ac wedi galluogi i fusnesau ychwanegu at eu benthyciadau os oes angen.

Mae’r Llywodraeth wedi buddsoddi mwy na £280 biliwn trwy gydol y pandemig i amddiffyn miliynau o swyddi a busnesau, gan gynnwys ymestyn y cynlluniau hunangyflogedig a ffyrlo hyd at fis Ebrill i roi’r sicrwydd sydd ei angen ar fusnesau i gynllunio dros y misoedd nesaf.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 18 January 2021