Datganiad i'r wasg

Prif Ysgrifennydd Gwladol yn hyderus y bydd trafodaethau'n symud yn eu blaenau yng Nghaerdydd

Mae'r Prif Ysgrifennydd Gwladol, Damian Green AS, wedi datgan ei fod yn hyderus y bydd trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn symud yn eu blaenau heddiw.

EU Exit

Bydd Mr Green yng Nghaerdydd gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, i drafod trefniadau o dan y Bil Ymadael â’r UE gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ar gyfer dosbarthu pwerau a fydd yn cael eu dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd y ddau Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn ymweld â Phrifysgol Caerdydd ac yn llywyddu cyfarfod cyntaf Panel Gweithredu Arbenigol Cymru ar gyfer Ymadael â’r UE yn Caspian Point.

Mae angen canfod y meysydd polisi a fydd yn galw am sefydlu fframweithiau cyffredin ar gyfer y DU yn ogystal â’r meysydd hynny y gellir eu datganoli i Gynulliad Cymru. Rhestrwyd y Bil Ymadael â’r EU ar gyfer Ail Ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Iau (7fed Medi).

Wrth siarad cyn y cyfarfod gyda’r Prif Weinidog, dywedodd Mr Green bod llawer o dir cyffredin rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Dywedodd bod y ddwy lywodraeth yn cytuno bod angen diogelu manteision marchnad sengl y DU a throsglwyddo mwy o bwerau’r UE i Gaerdydd. Dywedodd bod hwn yn ‘ddull o sicrhau cynnydd’ yn y trafodaethau pwysig hyn.

Dywedodd Damian Green, y Prif Ysgrifennydd Gwladol:

Pwrpas hyn yw sicrhau ein bod yn barod i adael yr UE. Y farchnad sengl yw un o brif asedau’r DU, ac mae’n sicrhau bod gwahanol rannau o’r DU yn gallu masnachu â’i gilydd yn rhwydd.

Mae Llywodraeth Cymru’n cytuno y bydd angen dull gweithredu ar lefel y DU gyfan mewn rhai meysydd penodol os ydym am gadw’r manteision sy’n deillio o farchnad y DU.

Mae gan Lywodraeth y DU hanes da o ran datganoli pwerau i Gymru ac rydym wedi dweud sawl gwaith ei bod yn debygol y bydd gan Gymru fwy o bwerau ar ddiwedd y broses hon.

Rydw i’n hyderus y gallwn wneud cynnydd da drwy’r trafodaethau hyn. Rydw i am inni gytuno ar ffordd i symud ymlaen ac rydw i’n credu y dylem allu gwneud hynny’n rhwydd.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd y Bil Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn rhoi’r sicrwydd a’r parhad sydd ei angen ar fusnesau ledled Cymru a gweddill y DU ar y diwrnod y byddwn yn ymadael. Rydym hefyd yn disgwyl y bydd canlyniad y broses hon yn arwain at gryn dipyn yn fwy o bwerau gwneud penderfyniadau ar gyfer pob gweinyddiaeth ddatganoledig.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ymgysylltu mewn modd cadarnhaol a chynhyrchiol o hyn ymlaen ac rydw i’n edrych ymlaen at gyfarfod adeiladol gyda’r Prif Weinidog ynghylch y materion pwysig hyn heddiw.

Yn hwyrach ymlaen, bydd y ddau Ysgrifennydd Gwladol yn casglu cynrychiolwyr o’r sectorau busnes ac amaethyddiaeth a’r trydydd sector yng Nghymru ynghyd ar gyfer cyfarfod cyntaf y Panel Gweithredu Arbenigol ar gyfer Cymru.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi sefydlu’r grŵp i weithio gydag ef i sicrhau y bydd y broses o ymadael â’r UE yn mynd rhagddi’n drefnus ac yn ddidrafferth yng Nghymru.

Bydd y panel yn gweithredu fel cyfrwng cyfathrebu dwyffordd uniongyrchol - o’r panel yn syth at galon Llywodraeth y DU drwy Ysgrifennydd Cymru, ac o Lywodraeth y DU i randdeiliaid ledled Cymru sydd â diddordeb mewn sicrhau bod y broses o adael yr UE yn llwyddiannus ar gyfer pob sector ledled Cymru.

Bydd y Gweinidogion hefyd yn manteisio ar y cyfle i danlinellu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi’r diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd sy’n prysur dyfu yn ystod ymweliad â’r Athrofa Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yn buddsoddi £50 miliwn er mwyn sefydlu Canolfan Ragoriaeth Gatapwlt newydd ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn Ne-Ddwyrain Cymru. Bydd y Ganolfan Gatapwlt newydd hon yn rhan o’r Fargen Ddinesig gwerth £1.2 biliwn i ddatgloi twf economaidd sylweddol ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Cyhoeddwyd ar 4 September 2017