Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru'n cyfarfod er mwyn symud trafodaethau Brexit yn eu blaenau

Bydd y Prif Ysgrifennydd Gwladol, Damian Green, yn cwrdd ag Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ynghyd ag arweinwyr Awdurdodau Lleol i symud trafodaethau Brexit yn eu blaenau

First Secretary of State Damian Green meets Welsh Secretary Alun Cairns and First Minister Carwyn Jones

Cynhelir rownd nesaf trafodaethau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig am Brexit y bore yma (dydd Iau 30 Tachwedd) yng Nghaerdydd, lle bydd y Prif Ysgrifennydd Gwladol, Damian Green ac Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn cwrdd â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Y cyfarfod hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres o drafodaethau rhwng y ddwy lywodraeth i helpu i benderfynu lle bydd y pwerau sy’n dychwelyd yn ôl i’r Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd yn mynd yn y dyfodol. Mae’n dilyn cyfarfod cadarnhaol ac adeiladol rhwng y tri gweinidog ar 11 Hydref.

Cynhaliwyd cyfarfod rhwng Damian Green, Alun Cairns ac arweinwyr Awdurdodau Lleol Cymru yn gynharach heddiw, i drafod bargeinion twf yn y dyfodol, ac effaith bosib Brexit ar drefniadau ariannu.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r trafodaethau hyn yn gyfle i’r holl bartïon symud tuag at gael cytundeb ynghylch sut dylid rhannu pwerau wrth iddyn nhw ddychwelyd o Ewrop.

Mae’n hanfodol ein bod ni’n sicrhau bod Brexit yn llwyddiant i bawb, ac mae cael cytundeb ynghylch lle bydd penderfyniadau a oedd yn cael eu gwneud yn yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu gwneud ar ôl i ni adael yr Undeb, er budd pawb. Mae sicrhau bod pobl Cymru wrth galon y broses o wneud penderfyniadau yn flaenoriaeth i’r ddwy lywodraeth, ac ni fydd yn fater o orfodi penderfyniadau.

Rhaid i ni beidio â chreu unrhyw rwystrau newydd i fyw a gwneud busnes yn y Deyrnas Unedig. Dyna pam ein bod ni eisoes wedi cytuno ynglŷn â’r angen am fframweithiau cyffredin mewn rhai meysydd.

Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gael trafodaethau cadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru wrth i ni drafod ein llwybr allan o’r Undeb Ewropeaidd.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 30 November 2017