Stori newyddion

Mae Llywodraeth y DU am i bob rhan o'r DU ffynnu yn sgil ymadael â'r Undeb Ewropeaidd

Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn ysgrifennu yn y Western Mail.

Alun Cairns

Ugain mlynedd yn ôl, pleidleisiodd pobl Cymru dros greu Cynulliad Cenedlaethol ac i roi cyfrifoldeb dros ystod o bwerau i’r ddeddfwrfa honno.

Wrth inni baratoi i nodi pen-blwydd y garreg filltir gyfansoddiadol honno, rydym nawr yn rhan o genhadaeth hanesyddol arall pan fydd y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ac yn dechrau ar y broses o ddod ag ystod o bwerau newydd yn ôl o Frwsel i’r DU.

Bydd y Bil Ymadael â’r UE yn ôl gerbron y Senedd unwaith eto yn hwyrach ymlaen yr wythnos hon ar gyfer ail ddarlleniad. Lluniwyd y Bil gyda’r nod o sicrhau bod y DU yn ymadael â’r UE gyda chymaint â phosibl o sicrwydd, parhad a rheolaeth o’r diwrnod cyntaf un.

Mae’r Bil hefyd yn ymwneud â chefnogi ein heconomi drwy ddarparu eglurder i fusnesau ynghylch ein dull a’r math o reoliadau y bydd yn rhaid iddynt weithio o’u mewn yn y dyfodol.

Ac mae llawer iawn o dir cyffredin rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun y Bil.
Mae’r ddwy lywodraeth yn gytûn y bydd yn rhaid cael dull ar lefel y DU gyfan mewn rhai meysydd penodol os ydym am gadw’r manteision sydd ynghlwm â marchnad fewnol y DU. Rydym hefyd yn cytuno y dylai rhai pwerau sydd wedi bod yn nwylo Brwsel gael eu trosglwyddo i Gaerdydd.

Ac mae bargeinion dinesig wedi dangos nad oes yn rhaid cyfyngu datganoli i Fae Caerdydd, mae hefyd yn bosibl datganoli pwerau i gymunedau lleol.

Mae’n bwysig cydnabod bod holl genhedloedd y Deyrnas Unedig yn cael eu cynrychioli yn nhrafodaethau’r cabinet gan Ysgrifennydd Gwladol penodol bob cenedl. Rwy’n ymfalchïo yn y ffaith mai fi yw llais Cymru, gan ystyried yn ofalus beth yw gofynion ein diwydiant a’n heconomi sy’n tyfu ochr yn ochr â gwleidyddion eraill sydd, ar adegau, â barn wahanol.

Mae gan Lywodraeth y DU hanes da o ddatganoli pwerau i Gymru. Ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd Deddf Cymru yn rhoi pwerau ychwanegol i’r Cynulliad dros drafnidiaeth, ynni, trefniadau etholiadol a chyfraddau treth incwm.

Byddwn yn cynnal ein hanes da o ran datganoli nid yn unig yng Nghymru, ond hefyd yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a dinasoedd a rhanbarthau ledled y DU gyfan.

Ond nid yw o fudd i neb i gael bylchau yn y gyfraith pan fydd y DU yn ymadael â’r UE. Nid yw o fudd i neb chwaith i greu rhwystrau neu gostau newydd o fewn y DU wrth inni ymadael â’r UE. Mae hyn yn golygu y bydd angen dull gweithredu cyffredin ar lefel y DU yng nghyswllt nifer o feysydd.

Er enghraifft, ni fyddai’n gwneud synnwyr pe bai cynhyrchydd bwyd sydd wedi’i leoli yng Nghymru yn gorfod argraffu labeli gwahanol er mwyn gwerthu ei gynnyrch yn Lloegr oherwydd rheoliadau gwahanol. Nid yn unig y byddai hyn yn niweidio masnachu o fewn y DU, gallai hefyd ein gwneud yn lle llai deniadol o ran taro bargeinion masnach gyda gwledydd eraill.

Felly, heddiw, bydd Damian Green, y Prif Ysgrifennydd Gwladol a minnau yn cyfarfod â Carwyn Jones i drafod fframweithiau ar gyfer marchnad y DU. Byddaf hefyd yn cadeirio’r cyntaf o gyfarfodydd rheolaidd â’n Panel Gweithredu Arbenigol ar gyfer Cymru er mwyn helpu i sicrhau y bydd y broses o ymadael â’r UE yn mynd rhagddi’n drefnus ac yn ddidrafferth yng Nghymru.

Wrth i ni gymryd rheolaeth yn ôl gan yr UE, rydym am sicrhau bod gan bobl y DU fwy o rym a llais nag erioed o’r blaen. Gydol y broses hon, bydd pob penderfyniad y mae Llywodraeth Cymru neu’r Cynulliad yn ei wneud yn cael ei gadw’n ddiogel. Wrth i’r trafodaethau fynd rhagddynt, rydym yn disgwyl y bydd mwy o bwerau yn llifo o Frwsel i Fae Caerdydd. Mae hyn yn hollol groes i fachu grym ac mae hawliadau o’r fath ar ran rhai gwleidyddion yn galw am graffu gwirioneddol.

Rydym wedi nodi’n glir mai trefniant dros dro yw dod â phwerau o Frwsel yn ôl i San Steffan er mwyn hwyluso trafodaethau manwl rhwng y ddwy lywodraeth yng Nghymru ynghylch y meysydd hynny y bydd angen i ni barhau i weithio arnynt gyda’n gilydd, gyda fframweithiau rheolau cyffredin, a meysydd sydd ddim yn galw am ddull cyffredin y gellir eu datganoli’n syth i Fae Caerdydd.

Mae Llywodraeth y DU am i bob rhan o’r DU ffynnu yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mae potensial pob cornel o Gymru yn hanfodol bwysig i mi a Llywodraeth y DU wrth i ni ymadael a’r UE.

Mae ymadael â’r UE yn cynnig cyfle gwirioneddol i ni nawr greu rôl newydd i’r DU yn y byd. Mae hyn yn galw am ymagwedd gadarnhaol a chyfrifol gan swyddogion y llywodraeth. Gweithio gyda’n gilydd yw’r nod i sicrhau’r fargen orau i Gymru a’r DU i gyd.

Yn sicr, rydym mewn cyfnod o newid mawr, felly mae’n bwysicach fyth ein bod yn rhoi sicrwydd i fusnesau a diwydiannau sy’n creu ac yn cynnal swyddi ledled Cymru. Ond mae cyfleoedd gwirioneddol hefyd yng nghanol y newid, tebyg i’r cytundebau a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn Japan yr wythnos ddiwethaf.

Yr hyn y mae Damian Green a minnau’n ei wneud heddiw drwy gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd a dod â phobl o fyd diwydiant yng Nghymru at ei gilydd yw dangos y bydd Llywodraeth y DU yn gwrando ac yn gweithredu er lles gorau economi Cymru.

Rwyf yn hyderus y byddwn yn llwyddo i wneud gwir gynnydd yn ystod ein cyfarfodydd yng Nghaerdydd heddiw a, gyda’n gilydd, gallwn sicrhau y bydd Brexit yn llwyddiant i Gymru ac i’r DU.

Cyhoeddwyd ar 4 September 2017