Datganiad i'r wasg

Bydd Araith y Frenhines yn dod â’n gwlad ynghyd

Stephen Crabb: “Bydd Araith y Frenhines o Lywodraeth Un Genedl yn mynd â Chytundeb Dydd Gŵyl Dewi rhagddo.”

Gan siarad cyn Araith y Frenhines heddiw, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb:

Bydd Araith y Frenhines o Lywodraeth Un Genedl yn dod â’n gwlad ynghyd drwy fynd â Chytundeb Dydd Gŵyl Dewi rhagddo.

Ni ddylai unrhyw un ddibrisio ein hymrwymiad i weld setliad datganoli sy’n fwy cydlynol ac yn gryfach ac a fydd yn gwrthsefyll pob her a ddaw yn y dyfodol yng Nghymru.

Gyda mwy o atebolrwydd a mwy o benderfyniadau’n cael eu gwneud yng Nghymru, gallwn ni gefnogi twf economaidd a helpu pobl ar draws y wlad i elwa o’r adferiad economaidd.

Find out more about the Queen’s Speech

Cyhoeddwyd ar 27 May 2015