Datganiad i'r wasg

Yr heriau a’r cyfleoedd i dwristiaeth yng Nghymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd

Llywodraeth y DU yn cynnal cyfarfod twristiaeth Canolbarth Cymru yn Aberystwyth

Aberystwyth

Aberystwyth

O deithiau i weld dolffiniaid ar hyd morlin Ceredigion i brofiadau beicio mynydd cyffrous, bydd gweinidogion Llywodraeth y DU yn cael clywed yn uniongyrchol am gyfraniad hollbwysig y diwydiant twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru i economi Cymru yn ystod ymweliad ag Aberystwyth heddiw (26 Gorffennaf).

Cefnogi sector twristiaeth ffyniannus Cymru fydd ar frig yr agenda mewn cyfarfod bwrdd crwn a gynhelir gan Weinidog Swyddfa Cymru, Guto Bebb AS a Gweinidog y DU dros y Celfyddydau, Treftadaeth a Thwristiaeth, John Glen AS ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o gyfarfodydd sy’n cael eu cynnal gan Lywodraeth y DU yng Nghymru wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd y Gweinidogion yn dod ag arbenigwyr o sector twristiaeth Cymru o amgylch y bwrdd i drafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r diwydiant a chlywed eu safbwyntiau ynghylch yr hyn mae angen ei wneud i sicrhau sector twristiaeth sy’n ffynnu ac yn datblygu ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae twristiaeth yn fusnes mawr yng Nghymru. Yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2017, bu 104.6 miliwn o ymweliadau dydd â Chymru, gyda gwariant cysylltiedig o £4,346 miliwn.

Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru:

Er fy mod i’n gwybod am nifer o’r llefydd gwych i ymweld â nhw yng Nghymru, byddaf bob tro’n croesawu’r cyfle i siarad â phobl sy’n gweithio yn y diwydiant a chael clywed am y materion sy’n eu hwynebu a’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.

Wrth i ni symud tuag at adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’r gwaith o wrando ac ymgysylltu wedi dod yn bwysicach nag erioed.

Prif nod Llywodraeth y DU ydy sicrhau bod lleisiau pob sector o bob rhan o’r DU yn cael eu clywed. Dyma pam rydyn ni’n dod ag arbenigwyr o sector twristiaeth Cymru ynghyd ar gyfer y cyfarfod hwn yn Aberystwyth heddiw. Rydyn ni eisiau rhoi llwyfan iddyn nhw drafod yr heriau a fydd yn codi yn sgil Brexit, ond rydyn ni hefyd eisiau clywed am y cyfleoedd gwych ar gyfer twf mewn busnes a chyflogaeth.

Mae Cymru’n aml yn cael ei hystyried fel un o’r llefydd gorau i ymweld â nhw yn y byd. Rydyn ni’n benderfynol y bydd pethau’n aros felly a’n bod yn gwneud Cymru yn lle sydd hyd yn oed yn fwy deniadol ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ystod ei ymweliad ag Aberystwyth, bydd Mr Bebb hefyd yn nodi buddsoddiad £10.5 miliwn Cronfa Dreftadaeth y Loteri i adfer yr Hen Goleg a bydd yn ymweld â Sefydliad Biolegol, Amgylcheddol a Gwyddorau Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth.

Cyhoeddwyd ar 26 July 2017