Datganiad i'r wasg

Mynd i’r afael â chaethwasiaeth modern yn y DU

Y Farwnes Jenny Randerson, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn cyfarfod â thîm Ymgyrch Imperial yn Heddlu Gwent

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Gwent Police

(L-R) Deputy Chief Constable Craig Guildford of Gwent Police Force, Wales Office Minister Baroness Jenny Randerson and Detective Superintendent Paul Griffiths of Operation Imperial

Heddiw (29 Ebrill), bu’r Farwnes Jenny Randerson, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn ymweld â Heddlu Gwent i weld y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â chaethwasiaeth modern yn y DU.

Yn ystod ei hymweliad, clywodd y Farwnes Randerson am waith tîm Ymgyrch Imperial – sef uned a sefydlwyd i ymchwilio i honiadau o droseddau’n ymwneud â chaethwasiaeth a chaethiwed.

Operation Imperial yw’r ymchwiliad mwyaf o’i fath yn y DU. Wrth iddo fynd rhagddo mae’r ymchwiliad wedi arwain at achub nifer o oedolion agored i niwed.
Rhoddodd y Ditectif Uwcharolygydd Paul Griffiths friff i’r Gweinidog ar gynnydd a heriau’r ymchwiliad.

Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd y Farwnes Randerson, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Mae masnachu pobl a chaethwasiaeth yn droseddau erchyll. Maent yn dirmygu ac yn israddio pobl ac yn cam-drin hawliau dynol sylfaenol mewn modd annerbyniol.

Mae mynd i’r afael â’r troseddau cudd hyn yn her anferth a chymhleth. Serch hynny, fel rydw i wedi gweld heddiw, mae Heddlu Gwent ac asiantaethau ledled y DU yn gwneud ymdrech lew a gwaith rhagorol o dda yn ceisio mynd i’r afael â’r mater atgas hwn.

Mae’n amlwg bod elfennau ynghlwm wrth lawer o’r troseddau hyn sy’n croesi ffiniau a dyna pam fy mod i’n glir iawn fy meddwl ei bod yn bwysig i ni barhau i gydweithio gyda’n cymdogion Ewropeaidd i fynd i’r afael â’r troseddau hyn. Nid yw troseddwyr yn poeni dim am ffiniau rhyngwladol, felly rhaid i ni weithio’n agos â’n cyfeillion Ewropeaidd er mwyn eu dal a’u rhoi o flaen eu gwell.

Rhaid i ni adolygu ein hymdrechion yn barhaus. Byddwn yn parhau i weithio’n agos â Llywodraeth Cymru a thimau gorfodi’r gyfraith gan roi hwb pellach i’n hymdrechion i ddileu caethwasiaeth modern.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Paul Griffiths:

Mae Operation Imperial yn ymchwiliad mawr i droseddau caethwasiaeth a chaethiwed posib sy’n bodoli yn ein cymdeithas ni heddiw.

Rydw i’n teimlo ei bod yn bwysig creu mwy o ymwybyddiaeth, tynnu sylw at y camfanteisio a gwneud popeth o fewn ein gallu ni i amddiffyn rhai o’r bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni. Dydi’r dioddefwyr yma ddim yn gwybod eu bod nhw’n ddioddefwyr yn aml iawn, neu maen nhw’n ofni’r rhai sy’n eu rheoli nhw. Weithiau, mae eu hofn nhw’n eu hatal rhag gofyn am help gan yr awdurdodau ac felly byddwn yn annog unrhyw un sy’n amau bod rhywun yn cael ei drin fel yma i gysylltu ag 101 a’u helpu nhw.

Daw’r ymweliad hwn wrth i Lywodraeth y DU gymryd camau i roi terfyn ar gaethwasiaeth modern ac i warchod y dioddefwyr.

Ym mis Rhagfyr 2013, roedd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May AS, wedi cyhoeddi Bil drafft ar Gaethwasiaeth Modern – y cyntaf o’i fath yn Ewrop – a fydd yn sicrhau bod troseddwyr yn wynebu’r cosbau llymaf.

Nodiadau i olygyddion - Mynd i’r afael â chaethwasiaeth

Mae’r Bil drafft Caethwasiaeth Modern yn darparu ar gyfer:

  • Cyfnerthu a symleiddio’r troseddau caethwasiaeth a masnachu pobl presennol er mwyn cynnig eglurder a ffocws wrth ymchwilio i’r sawl sy’n masnachu pobl a’u herlyn
  • Cynyddu’r ddedfryd hiraf sydd ar gael o 14 mlynedd o garchar i garchar am oes, fel bod troseddwyr yn cael y gosb a haeddant
  • Cyflwyno Gorchmynion Atal Caethwasiaeth a Masnachu Pobl, a Gorchmynion Risg o Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl er mwyn cyfyngu ar weithgarwch y rheini sy’n peri risg a’r rheini sydd wedi cael eu collfarnu am droseddau caethwasiaeth a masnachu pobl fel nad ydynt yn gallu achosi rhagor o niwed
  • Creu swydd Comisiynydd Atal Caethwasiaeth er mwyn rhoi hwb i ymdrechion gorfodi’r gyfraith wrth fynd i’r afael â chaethwasiaeth modern; a
  • Sefydlu dyletswydd gyfreithiol i adrodd i’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol am bobl sydd o bosib yn cael eu masnachu er mwyn creu darlun cliriach o natur y troseddau cudd hyn.
Cyhoeddwyd ar 29 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 May 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.