Datganiad i'r wasg

Mae band eang cyflym iawn yn awr ar gael i fwy nag 19 allan o 20 cartref a busnes yn y DU

Cymru'n gweld cynnydd cyflym mewn mynediad at fand eang cyflym iawn

  • Mae Cymru yn profi twf cyflym mewn mynediad at fand eang cyflym iawn – o 29.4% o gartrefi a busnesau yn 2010 i 94.2% erbyn Rhagfyr 2017.
  • Mae cyflwyniad parhaus y Llywodraeth yn parhau i gyrraedd miloedd fwy o gartrefi a busnesau bob wythnos.
  • Mae cyflymderau uchel iawn eisoes wedi llwyddo i gynyddu gwerthiant o £8.9 biliwn i economïau lleol.

Mae Cymru wedi gweld cynnydd cyflym yn y nifer o gartrefi a busnesau sydd â mynediad at fand eang cyflym iawn, o 29.4% yn 2010 at 94.2% erbyn mis Rhagfyr y llynedd. Mae hyn yn dilyn ymrwymiad ym maniffesto Llywodraeth y DU i ymestyn band eang cyflym iawn i 95% o’r DU erbyn diwedd 2017.

Mae ffigyrau a gyhoeddwyd gan www.thinkbroadband.com wedi cadarnhau bod mwy nag 19 allan o 20 cartref a busnes yn y DU wedi cael y cyfle i uwchraddio eu cysylltiadau rhyngrwyd i gyflymdra cyflym iawn o 24 Mb yr eiliad neu gyflymach – mwy na dwbl yr hyn y mae Ofcom yn ei gynghori sydd ei angen gan gartref teuluol nodweddiadol.

Mae cyflwyno gwerth £1.7 biliwn o fand eang cyflym iawn i ardaloedd “na thybir eu bod yn hyfyw yn fasnachol” gan ddiwydiant wedi cyrraedd hyd yma mwy na 4.5 miliwn o adeiladau’r DU a fyddai fel arall wedi cael eu gadael gyda chysylltedd araf, ac mae mwyafrif y rhain mewn ardaloedd gwledig.

Yn ychwanegol at y buddion anferth i’n bywydau beunyddiol y mae cyflymderau uchel iawn yn eu cynnig, mae cau’r “gagendor digidol” hwn wedi cyflawni hwb sylweddol yn ogystal i economïau lleol – gan greu oddeutu 50,000 o swyddi lleol newydd a chynhyrchu £8.9 biliwn ychwanegol mewn trosiant yn yr ardaloedd lle cafodd ei gyflwyno gan y Llywodraeth rhwng 2013 a 2016.

Dywedodd Stuart Andrew, Gweinidog dros Lywodraeth y DU yng Nghymru:

Darparu mynediad at fand eang cyflym iawn, dibynnol yw’r un peth pwysicaf mae’n debyg y gallwn ni ei wneud er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ein cymunedau a’n busnesau gwledig, ac fel y cyfryw, mae’n wych clywed bod Cymru wedi cyrraedd darpariaeth o 94% gyda band eang cyflym iawn.

Mae gan Gymru fwlch llawer mwy i’w gau na Lloegr, ac felly mae’n newyddion cadarnhaol iawn eu bod wedi gwneud camau mor fawr i gau’r gagendor digidol, yn arbennig felly o gofio’r topograffi heriol iawn sydd yng Nghymru.

Gwyddwn fod llawer mwy i’w wneud, ond mae cyhoeddiad heddiw yn nodi cam sylweddol ymlaen yn ymdrechion Llywodraeth y DU i sicrhau bod gan Gymru rwydwaith band eang sy’n addas ar gyfer yr oes ddigidol.

Dywedodd Matt Hancock, Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae cyflwyno band eang cyflym iawn gan y Llywodraeth wedi gwneud cyflymderau uchel iawn yn wirionedd i fwy na 4.5 miliwn o gartrefi a busnesau a fyddai fel arall wedi methu â’i gael. Ond mae llawer mwy i’w wneud yn ein gwaith i adeiladu Prydain sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Rydym ni’n cyrraedd mwy o adeiladau bob wythnos, ac rydym wedi ymrwymo i wneud band eang cyflym iawn sy’n ddibynadwy ac yn fforddiadwy yn hawl gyfreithiol ar gyfer pawb erbyn 2020.

Roedd mis Rhagfyr yn fis prysur dros ben i Openreach, fel prif bartner y Llywodraeth yn y prosiect isadeiledd anferth hwn, sydd wedi bod yn gweithio yn galed drwy fisoedd y gaeaf i sicrhau bod y cyflwyniad yn parhau ar y trywydd cywir. Llwyddwyd i gyrraedd oddeutu 800,000 o gartrefi a busnesau’r llynedd drwy raglen BDUK Llywodraeth y DU, ochr yn ochr â chyflawni masnachol, gydag Openreach yn cyflawni cyfran fawr o’r cyflawniad hwn. O ganlyniad i’r gosodiadau hyn, cyrhaeddwyd y targed o 95% ym mis Rhagfyr 2017.

Dywedodd Clive Selley, PSG, Openreach:

Heb amheuaeth, mae hwn yn gyflawniad rhyfeddol a hoffwn ddiolch i’r miloedd o beirianwyr Openreach a’r nifer llawer mwy o’n pobl sy’n eu cefnogi ac sydd wedi gweithio mor ddiflino i wneud hyn yn bosibl.

Rydym wedi teithio yn bell mewn amser mor fyr, gydag un o’r gosodiadau band eang cyflymaf yn y byd. Mae hon y garreg filltir bwysig – ond nid ydym yn rhoi terfyn ar bethau yma. Rydym ni’n benderfynol o weld Prydain – Prydain gyfan – wedi’i chysylltu â chyflymderau band eang addas. Bydd Ymrwymiad Gwasanaeth Cyffredinol y Llywodraeth yn gwneud band eang cyflym iawn yn hawl gyfreithiol a byddwn yn gweithio gyda diwydiant, Llywodraeth ac Ofcom i gyflawni hyn. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i ymestyn ein rhwydwaith er mwyn ymdrin â mannau gwan sy’n weddill, drwy gyfuniad o’n rhaglenni masnachol ein hunain a’n partneriaethau gydag awdurdodau a chymunedau lleol.

Mae cymal yng nghontractau’r Llywodraeth yn nodi bod angen i gyflenwyr ailddefnyddio cyllid pan mae pobl yn derbyn cysylltiadau band eang cyflym iawn sy’n cael eu gosod fel rhan o’r rhaglen. Mae dros 2.25 miliwn o gartrefi a busnesau wedi derbyn band eang cyflym iawn mewn ardaloedd sy’n cael eu cynnwys gan brosiectau BDUK. Hyd yma, mae BT wedi neilltuo £477 i ymestyn y ddarpariaeth dros oes lawn y contractau – i fyny o £292 miliwn ym mis Rhagfyr 2016 – mewn gwledydd a rhanbarthau o gwmpas y DU.

Ynghyd ag effeithlonrwydd prosiectau o leiaf £210 miliwn a ddaw o ganlyniad i reoli a chyflawni’r rhaglen yn llwyddiannus, bydd hyd at £687 miliwn ar gael ar gyfer awdurdodau lleol i ailfuddsoddi a mynd â band eang cyflym iawn i’r cartrefi a’r busnesau hynny nad ydyn nhw eisoes yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau sy’n bodoli.

Yn ogystal â chyflawni cynlluniedig arall, bydd hwn yn helpu i fynd â darpariaeth cyflym iawn i’r mwyafrif o’r adeiladau sy’n weddill dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Yn ychwanegol at hyn, mae Ymrwymiad Gwasanaeth Cyffredinol y mae’r Llywodraeth yn ei gyflwyno yn rhoi hawl cyfreithiol i bawb gael band eang cyflym iawn (10Mb yr eiliad neu gyflymach) erbyn 2020, sy’n golygu na fydd unrhyw un yn cael ei adael ar ôl, ac y bydd gan bob cartref a busnes yn y DU y cysylltedd y maen nhw ei angen yn yr oes ddigidol.

DIWEDD

Nodiadau ar gyfer Golygyddion

  1. Ewch i www.thinkbroadband.com er mwyn gweld y ffigyrau diweddaraf ynglŷn â darpariaeth band eang.
Cyhoeddwyd ar 29 January 2018