Stori newyddion

Datganiad yr Haf yn Darparu Cynllun ar Gyfer Swyddi yng Nghymru

Heddiw, mae'r Canghellor wedi nodi'r camau nesaf yn strategaeth Llywodraeth y DU i sicrhau adferiad economaidd Cymru yn dilyn coronafeirws

Plan for Jobs

Heddiw, mae’r Canghellor wedi nodi’r camau nesaf yn strategaeth Llywodraeth y DU i sicrhau adferiad economaidd Cymru yn dilyn coronafeirws – gan gyhoeddi “Cynllun ar gyfer Swyddi” i lefelu, lledaenu cyfleoedd ac uno’r DU.

Nododd Rishi Sunak sut y byddai’n canolbwyntio ar ddiogelu, cefnogi a chreu swyddi wrth i’r DU ddechrau ar y cam nesaf yn ei hadferiad yn dilyn y pandemig.

Wrth gyflwyno ei ddiweddariad economaidd yn ystod yr haf, dywedodd:

Mae gan ein cynllun nod clir: diogelu, cefnogi a chreu swyddi. Bydd yn rhoi hyder i fusnesau i gadw a chyflogi pobl. I greu swyddi ym mhob rhan o’n gwlad. I roi dechrau gwell i bobl ifanc. Rhoi cyfle i bobl o bob man i ddechrau o’r newydd.

Fel rhan o gyfres o fesurau nodedig newydd, cyhoeddodd y Canghellor y bydd y Llywodraeth yn:

  • cefnogi swyddi gyda’r Bonws Cadw Swyddi i helpu busnesau i gadw gweithwyr a oedd ar ffyrlo. Bydd cyflogwyr y DU yn cael bonws untro o £1,000 ar gyfer pob gweithiwr sydd wedi cael ei gyflogi fel aelod o staff ar 31 Ionawr 2021.
  • ehangu cymorth chwilio am waith gan gynnwys Cronfa Cymorth Hyblyg a chynllun Kickstart gwerth £2 biliwn i gymhorthdalu swyddi i bobl ifanc
  • creu swyddi yn y sectorau adeiladu a thai drwy gyllid i ddatgarboneiddio adeiladau’r sector cyhoeddus, prosiect arddangoswyr i ddatgarboneiddio tai cymdeithasol ac arian i gefnogi ymchwil a datblygu ar gyfer Cipio Awyr Uniongyrchol (fel y cyhoeddwyd gan y Brif Weinidog Boris Johnson ar 30 Mehefin) a moderneiddio llysoedd a charchardai a gwella carchardai a’r ystâd brawf
  • a diogelu swyddi gyda thoriadau TAW ar gyfer lletygarwch a thwristiaeth, yn ogystal â’r cynllun disgownt ‘Bwyta Mas i Helpu Mas.’

Mae diweddariad economaidd yr haf yn cadarnhau £500 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru drwy’r fformiwla Barnett o ganlyniad i’r coronafeirws.

Mae Llywodraeth y DU bellach yn darparu £2.8 biliwn drwy fformiwla Barnett i helpu Llywodraeth Cymru i gefnogi unigolion, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn sgil Covid-19.

Dywedodd Rishi Sunak mai’r Cynllun ar gyfer Swyddi oedd ail gam cynllun tri cham i sicrhau adferiad economaidd y DU o’r coronafeirws.

Canolbwyntiodd y cam cyntaf, a ddechreuodd ym mis Mawrth, ar amddiffyn gyda phecyn cymorth gwerth £ 160bn – un o’r ymatebion economaidd mwyaf a mwyaf cynhwysfawr yn y byd. Yng Nghymru, mae’r pecyn hwn wedi diogelu mwy na 316,000 o swyddi hyd yn hyn, wedi helpu miloedd o fusnesau ac wedi talu £273 miliwn i fwy na 100,000 o bobl hunangyflogedig.

Nododd y Canghellor y byddai’r trydydd cam, yn dilyn yr ail gam yn canolbwyntio ar swyddi, yn canolbwyntio ar ailadeiladu, gydag adolygiad o’r Gyllideb a gwariant yn yr Hydref.

Wrth siarad am yr effaith ar Gymru, dywedodd y Canghellor Rishi Sunak:

Trwy gydol yr argyfwng hwn rydym wedi cefnogi cannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru, gan sefydlu un o’r ymatebion economaidd mwyaf a mwyaf cynhwysfawr yn y byd.

Heddiw, rwyf wedi nodi’r camau nesaf yn ein cynllun i sicrhau ein hadferiad. Bydd yn diogelu, yn cefnogi ac yn creu swyddi ledled Cymru – gan lefelu cyfleoedd a chryfhau’r Undeb.

Rydym yn cefnogi swyddi ledled Cymru gyda buddsoddiad enfawr yn ein Canolfannau Gwaith, gan gynnwys dyblu nifer yr hyfforddwyr gwaith. Rydyn ni’n creu swyddi newydd gwyrdd gyda phrosiectau datgarboneiddio, moderneiddio i lysoedd a charchardai ac mae £500m yn cael ei ddyrannu drwy’r fformiwla Barnett. Ac rydym yn diogelu swyddi presennol drwy dorri TAW a chyflwyno’r cynllun ‘Bwyta Mas i Helpu Mas’, gan roi hwb i’r sectorau lletygarwch a thwristiaeth.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

Mae pecyn o fesurau’r Canghellor yn darparu dros Gymru a bydd yn ailadeiladu ein heconomi wrth i ni bownsio’n ôl o’r pandemig coronafeirws.

Ein blaenoriaeth o hyd yw diogelu bywoliaeth pobl a sicrhau ffyniant yng Nghymru. Mae’r cyfleoedd yr ydym yn eu creu ac i gadw swyddi yn newyddion da i bobl ifanc a chyflogwyr ym mhob rhan o Gymru, tra bydd y toriad TAW o 15 y cant ar gyfer twristiaeth a lletygarwch yn hwb enfawr i’r sector hwnnw. Mae bellach yn gwbl hanfodol i’n diwydiant twristiaeth a lletygarwch o’r radd flaenaf agor yn iawn i fusnes ac y gall pob un ohonom ‘Fwynhau’r Haf yn Saff’ gyda’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig.

Mae hwn wedi bod yn gyfnod eithriadol o heriol i bawb yng Nghymru. Rydym wedi cefnogi unigolion, busnesau a chymunedau ledled Cymru a bydd ein penderfyniadau yn arwain at hanner biliwn o bunnau ychwanegol i Lywodraeth Cymru, yn ddod â’u harian cymorth Covid-19 ychwanegol i £2.8 biliwn.

Mae’r Canghellor wedi darparu pecyn cymorth gwych sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer adferiad economaidd Cymru.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 8 July 2020