Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb yn croesawu Ystadegau Perfformiad y Rhaglen Waith

Stephen Crabb: “Mae’r Rhaglen Waith yn llwyddo ac mae’r Llywodraeth hon yn cael Cymru i weithio"

Heddiw, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, yr Ystadegau sydd newydd gael eu rhyddhau ynghylch Perfformiad y Rhaglen Waith yng Nghymru.

Dywedodd:

Mae nifer y bobl yng Nghymru sydd wedi cael gwaith drwy’r cynllun blaenllaw hwn gan y Llywodraeth wedi cynyddu dros 50% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Ers lansio’r rhaglen, mae 20,490 o hawlwyr yng Nghymru wedi llwyddo i osgoi diweithdra hirdymor ac wedi cael gwaith parhaol drwy Raglen Waith Llywodraeth y DU.

Mae hyn yn dangos ymhellach fod y Rhaglen Waith yn llwyddo, a bod y Llywodraeth hon yn cael Cymru i weithio.

Mae’r Rhaglen Waith yn llwyddo i weddnewid bywydau’r rheini sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur.

Cyhoeddwyd ar 18 June 2015