Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb: Cymru wledig yn elwa o’r twf economaidd hefyd

Heddiw (11 Rhagfyr 2014), bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, yn ymweld â dau fusnes yng nghefn gwlad canolbarth Cymru, yn Aberhonddu a Chrucywel, i ddangos sut mae’r gwelliant economaidd yn buddio pobol a busnesau’r ardal.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Dywedodd Mr Crabb:

Ni ddylai twf economaidd yng Nghymru gael ei gyfyngu i’n trefi a’n dinasoedd, yn enwedig pan mae gennym gymaint o fusnesau gwych yng nghanolbarth Cymru yn creu swyddi ac yn cefnogi’u cymunedau.

Rwy’n benderfynol o weld ein gwlad i gyd yn rhan o’r adferiad economaidd. Felly, rwy’n cefnogi busnesau sy’n awyddus i fuddsoddi yn y canolbarth a chreu cyfleoedd i’r bobl sy’n byw yno.

Bydd Mr Crabb yn ymweld â Sharp Clinical Services yng Nghrucywel, un o is-adrannau Sharp Packaging Services, arweinydd byd-eang mewn gwaith pecynnu contract i’r diwydiant fferyllol a biotechnoleg. Mae ganddynt sylfaen cleientiaid gadarn o sefydliadau fferyllol mawr ac maent yn cefnogi sawl sefydliad bychan a chanolig nad oes ganddynt fawr o brofiad yn y gadwyn gyflenwi glinigol.

Bydd hefyd yn mynd i Tŷ-Mawr Lime Limited yn Aberhonddu, cwmni sy’n arbenigo yn y gwaith o gynhyrchu a dosbarthu deunyddiau adeiladu traddodiadol. Maent hefyd yn darparu cyrsiau hyfforddi mewn sgiliau adeiladu traddodiadol. Ymysg yr adeiladau, sefydliadau a phrosiectau sydd wedi elwa ar gynnyrch ac arbenigedd Tŷ-Mawr y mae Tŷ Aberglasne, Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Yr Ymddiriedolaeth Tirnodau, Dolbelydr, Eglwys Teilo Sant, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Eglwys Gadeiriol Caerwrangon.

Cyhoeddwyd ar 11 December 2014