Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb yn ymweld â Charchar Caerdydd

Ysgrifennydd Gwladol: ‘Mae hyfforddi carcharorion i'w helpu i gael swyddi ar ôl iddynt gael eu rhyddhau yn gwneud synnwyr ar lefel gymdeithasol a lefel economaidd’

Prison gate

Heddiw, (6 Gorffennaf), bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â Charchar Caerdydd i weld y cynlluniau arloesol sy’n helpu i sicrhau bod gan garcharorion sgiliau ar gyfer swyddi. Bydd yn ymweld hefyd â The Clink sef y bwyty hyfforddi unigryw lle mae’r staff arlwyo yn garcharorion.

Bydd Stephen Crabb yn ymweld â’r carchar gyda Sarah Payne, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS) a Steve Cross, Rheolwr y Carchar. Yn ystod ei daith, bydd yn cwrdd â charcharorion sy’n dysgu sgiliau newydd mewn amrywiol weithdai ac yn meistroli eu sgiliau ar gyfer y farchnad waith ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.

Bydd trafodaethau’n canolbwyntio ar adsefydlu carcharorion yng Nghymru a’r cyfleoedd sydd ar gael i gyn-droseddwyr fynd yn ôl i’r farchnad waith a chyfrannu at gymdeithas ac at economi Cymru.

Yn ystod ei daith i’r carchar, bydd Mr Crabb yn ymweld â bwyty The Clink. Mae’r Clink drws nesaf i’r carchar, a charcharorion o ardal de Cymru sy’n gweithio yno. Mae’r bwyty wedi cael adolygiadau da ar wefan Tripadvisor sy’n argymell llefydd bwyta.

Mae’r arbenigo mewn gweini cynnyrch organig o Gymru, gan gynnwys cig carw, baedd gwyllt a riwbob. Mae’r carcharorion yn astudio i gael cymwysterau NVQ ym maes lletygarwch, arlwyo a gwasanaeth i gwsmeriaid.

Dywedodd Mr Crabb:

Mae dod o hyd i waith yn ddigon anodd i unrhyw un heb sôn am fod newydd dreulio amser yn y carchar. Yr hyn rydw i wedi’i weld heddiw yw ffyrdd ymarferol iawn o geisio troi cyn-droseddwyr yn bobl a fydd yn gallu mynd at gyflogwr a chynnig sgiliau defnyddiol.

Mae sicrhau bod pobl sy’n gadael carchar yn cael cyfle go iawn i gael swydd yn llesol iddyn nhw yn ogystal â bod yn llesol i’r gymdeithas gyfan. Mae’n lleihau lefelau ail-droseddu a’r risg o lithro’n ôl i arferion drwg troseddu. Mae’r ystadegau’n dangos bod y dull hwn yn llwyddo.

Mae bwyty The Clink yn enghraifft wych o sut gallwch chi hyfforddi i weithio mewn amgylchiadau realistig. Mae’r lle hwn yn fwyty go iawn gyda’r holl straen a’r holl bwysau a ddaw gyda hynny. Rwy’n gobeithio y bydd pawb sy’n dysgu’r grefft arlwyo yma yn mynd yn eu blaenau i swyddi sy’n rhoi boddhad iddyn nhw.

Cyhoeddwyd ar 6 July 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 July 2015 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.