Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb: Bydd taith Tim Peake yn eiliad hanesyddol i’r DU yn y gofod

Caerdydd yn dathlu lansio'r gofodwr Prydeinig i'r Orsaf Ofod Ryngwladol

Science is GREAT

Ar ddydd Mawrth 15 Rhagfyr, bydd Tim Peake, gofodwr Prydeinig yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, yn lansio i’r Orsaf Ofod Ryngwladol (GOR) ar gyfer ei daith Principia.

Er mwyn nodi’r diwrnod pwysig iawn hwn, bydd Asiantaeth Ofod y DU yn cynnal 4 o ddigwyddiadau mawr ar y diwrnod lansio ym mhrifddinasoedd y wlad ac mewn 16 o ddigwyddiadau llai mewn canolfannau darganfod a gwyddoniaeth drwy’r wlad, gan roi cyfle i’r cyhoedd ffarwelio â Tim ar ei ffordd a chymryd rhan yn y daith.

Mae Techniquest ym Mae Caerdydd wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer teuluoedd ac ysgolion, sy’n cynnwys “cyfarfod â gofodwr”; clerwyr gwyddoniaeth; arddangosfeydd; cysylltiadau teledu byw i’r lansiad a digwyddiad cyhoeddus gyda’r nos sy’n RHAD AC AM DDIM yng nghanolfan wyddoniaeth Techniquest.

Drwy’r dydd bydd staff o Techniquest yng nghanol y ddinas gyda gweithgareddau clera gwyddoniaeth, aelod o staff mewn copi o siwt ofod a nwyddau sy’n gysylltiedig â’r gofod yn rhad ac am ddim. Bydd cysylltiad byw i’r lansiad ar sgriniau teledu mawr yng nghanol y ddinas.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Llywodraeth y DU yn cefnogi diwydiant awyrofod y DU yn llwyr - stori lwyddiant byd-eang sy’n creu swyddi a chyfleoedd ar gyfer miloedd o bobl. Gyda’n gweithlu sgiliau uchel, a’n gallu cynhyrchu o’r radd flaenaf, y mae’r sector yn ffynhonnell hanfodol o dwf a chryfder i economi Cymru.

Bydd taith Tim Peake yn eiliad hanesyddol i’r DU yn y gofod. Mae’i stori yn dangos yn eglur nad oes unrhyw gyfyngiadau ar beth a ellir ei gyflawni.

Mae’n fodel rôl pwerus ar gyfer y bobl ifanc yr ydym ni eu hangen i gryfhau gweithlu gwyddoniaeth a pheirianneg y wlad hon. Gallwn fod yn wirioneddol falch o’r hyn mae wedi’i gyflawni, a gobeithiaf fod miliynau o bobl ifanc drwy Gymru yn cael eu hysbrydoli gan ei daith anhygoel.

Mae’r diwrnod yn dod i ben gyda digwyddiad gyda’r nos ar thema gofod a fydd yn RHAD AC AM DDIM yn Techniquest o 5.30 tan 8.00p.m.

Bydd y digwyddiad gyda’r nos yn cynnwys sesiwn cwestiwn ac ateb gyda’r Gofodwr Pedro Duque sydd wedi hedfan ar daith gwennol ofod, wedi treulio amser ar fwrdd yr Orsaf Ofod Ryngwladol, ac ar hyn o bryd, mae’n Bennaeth Swyddfa Weithrediadau Hedfan yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd. Yn ogystal, bydd cyfle i weld y sioe deulu newydd sbon Destination Space yn ogystal â digon o weithgareddau ymarferol sy’n gysylltiedig â’r gofod. Mae’r rhain yn cynnwys gweithdy rocedi, cyfle i gwrdd ag arbenigwyr ar y gofod a gweld copi o lawn faint o grwydrwr y blaned Mawrth.

Datblygwyd Destination Space gyda Chymdeithas Canolfannau Darganfod Gwyddoniaeth y DU (ASDC) a bydd yn rhoi cyfle i deuluoedd ddysgu am daith Tim Peake drwy arbrofion ymarferol, arddangosfeydd rocedi a chyfarpar gofod. Yn ogystal, bydd y sioe ar gael yn Techniquest y flwyddyn nesaf. Datblygwyd gweithdy newydd ar gyfer ysgolion cynradd a bydd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru yn 2016.

Dywedodd Dr David Parker, Prif Weithredwr Asiantaeth Ofod y DU:

Dyn yn hedfan yn y gofod yw’r uchafbwynt mewn ymdrech tîm gyda llawer o unigolion ymroddedig yn gweithio i gael gofodwr yn barod i fynd i’r gofod. Roeddem yn dymuno i’r rhaglen Destination Space gydnabod doniau’r bobl sy’n cefnogi Tim Peake, ac wrth wneud hynny, dangos yr holl gyfleoedd gyrfaoedd ffantastig y mae’r sector hwn yn ei gynnig i bobl ifanc.

Dywedodd Dr Anita Shaw, PSG Dros Dro Techniquest:

Bydd y gweithgareddau ar y diwrnod lansio ac sy’n cael eu cynnal yn Techniquest ac mewn ysgolion y flwyddyn nesaf, yn darparu cyfle i bawb i fod yn rhan o daith wefreiddiol Tim. Dyma ffordd ffantastig i ddarganfod mwy am y gofod a gobeithiwn y bydd y rhaglen gyffrous hon yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gynllunwyr teithiau a gwyddonwyr y gofod i ymgymryd â’r rhain a llawer o’r gyrfaoedd cyffrous eraill sydd ar gael i gefnogi uchelgeisiau’r diwydiant gofod yn y DU.

Nodiadau i Olygyddion:

  • Amcangyfrifir y bydd taith Principia Tim Peake yn parhau tan fis Mehefin 2016. Yn ystod yr amser hwnnw bydd yn cymryd rhan mewn llawer o arbrofion ar fwrdd y GOR.

  • Mae Cymru eisoes yn cynhyrchu 80 y cant o wydr gofod y byd ac mae’n anelu at gynhyrchu 5% o ddiwydiant gofod y DU erbyn 2030. Mae Fforwm Awyrofod Cymru yn datblygu hyn, drwy gwmnïau awyrofod a thechnoleg yng Nghymru sy’n gweithio gyda chanolfannau ymchwil mewn prifysgolion.

Asiantaeth Ofod y DU

Mae Asiantaeth Ofod y DU wrth galon ymdrechion y DU i archwilio a chael budd o’r gofod. Mae’n gyfrifol am yr holl benderfyniadau strategol ar raglen ofod sifil y DU, ac mae’n darparu llais unigol, eglur ar gyfer uchelgeisiau gofod y DU.

Mae’r Asiantaeth yn gyfrifol am sicrhau bod y DU yn cadw ac yn meithrin gallu strategol yn y systemau, y technolegau, y wyddoniaeth a’r cymwysiadau sy’n seiliedig ar y gofod. Mae’n arwain rhaglen ofod sifil y DU er mwyn ennill twf economaidd cynaliadwy, sicrhau gwybodaeth wyddonol newydd a darparu buddion i’r holl ddinasyddion.

Mae Asiantaeth Ofod y DU yn:

  • Cydlynu gweithgaredd gofod sifil y DU
  • Annog ymchwil academaidd
  • Cefnogi diwydiant gofod y DU
  • Codi proffil gweithgareddau gofod y DU yn y wlad hon a thramor
  • Cynyddu dealltwriaeth o wyddor ofod a’i buddion ymarferol
  • Ysbrydoli ein cenhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr yn y DU
  • Trwyddedu lansio a gweithredu llongau gofod y DU
  • Hyrwyddo cydweithredu a chyfranogi yn y rhaglen Ofod Ewropeaidd
Cyhoeddwyd ar 15 December 2015