Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb yn ymateb i gyflawniadau diweddaraf Airbus

Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb yn ymateb i newyddion Airbus ei fod wedi rhagori ar dargedau 2014

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Airbus wedi rhagori ar ei dargedau ar gyfer 2014, gan gyflawni record newydd o 629 o awyrennau yn cael eu dosbarthu i 89 o gwsmeriaid, y mae wyth ohonynt yn newydd, sy’n cynnwys 490 o awyrennau o’r grŵp A320, 108 o’r grŵp A330, 30 o’r grŵp A380 a hefyd ei awyren A350 XWB gyntaf. Mae’r cyflawniad hwn o safbwynt cynhyrchu yn golygu bod nifer yr awyrennau a ddosbarthwyd gan Airbus yn 2014 wedi cynyddu am y drydedd flwyddyn ar ddeg yn olynol, gan ragori ar y record flaenorol a bennwyd yn 2013.

Cyflawnodd Airbus hefyd 1,456 o archebion net gan 67 o gwsmeriaid (y mae 14 ohonynt yn newydd) – ei ail flwyddyn orau erioed, sy’n cynnwys 1,321 o awyrennau eil sengl a 135 o awyrennau eil ddwbl. O ganlyniad, erbyn diwedd y flwyddyn, roedd yr ôl-groniad wedi cynyddu i record newydd yn y diwydiant, sef 6,386 o awyrennau gwerth $919.3 biliwn (UDA) am brisiau sylfaenol.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru:

Mae newyddion gwych heddiw gan Airbus yn dangos beth gall cwmni arloesol a deinamig ei gyflawni pan fydd yn buddsoddi yng Ngogledd Cymru ac yn manteisio ar y talentau a’r sgiliau yn y rhan hon o’r wlad.

Mae ein cynllun economaidd hirdymor yn cefnogi cwmnïau fel Airbus i gynyddu ei lyfr archebion a chynnal miloedd o swyddi a chyfleoedd i bobl ymroddgar - gan hybu’r economi a helpu i sefydlu ein Pwerdy Gogleddol ein hunain yma yng Nghymru.

Cyhoeddwyd ar 13 January 2015