Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb: “Mae Sir Benfro’n cystadlu â’r goreuon gydag economi leol gref”

Ysgrifennydd Cymru’n canmol cyfraniad pwysig Sir Benfro i economi Cymru yn ystod ei daith o amgylch rhai o fusnesau ffyniannus y rhanbarth.

Tenby

Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wedi canmol cyfraniad pwysig Sir Benfro i economi Cymru heddiw (18 Chwefror) yn ystod ei daith o amgylch rhai o fusnesau ffyniannus y rhanbarth.

Dechreuodd Mr Crabb ei daith yn GenPower; un o brif ddarparwyr cynnyrch Hyundai yn y DU, i weld sut mae sector manwerthu Sir Benfro’n creu swyddi ac yn cryfhau’r economi leol. Yn 2015, ymddangosodd GenPower yn rhestr Fast Growth 50 Cymru fel un o’r cwmnïau a oedd yn tyfu gyflymaf yng Nghymru. Yno, cafodd Mr Crabb weld y systemau solar a gwres biomas newydd yn ogystal â gwahanol beiriannau gardd newydd.

Aeth yr Ysgrifennydd Gwladol ymlaen i Dŵr Rheoli Cheriton Caeriw, un o brif leoliadau twristiaeth Sir Benfro, i weld sut mae cymorth Llywodraeth y DU wedi helpu’r sector i ffynnu. Cafodd y Tŵr ei adfer gan wirfoddolwyr, ac mae’n arddangos gwahanol bethau gan gynnwys lifrau milwyr, mapiau RAF, offer radio a llyfrau dogni.

Gan barhau gyda’r thema twristiaeth, aeth Mr Crabb yn ei flaen i Bluestone, sydd wedi cyhoeddi’n ddiweddar y bydd yn creu 60 o swyddi newydd. Cafodd Mr Crabb fynd ar daith o amgylch parc dŵr y Blue Lagoon a’r gwahanol gabanau moethus a thai bwyta.

Dywedodd Stephen Crabb:

Heb os, cryfder Sir Benfro yw ei phobl. Mae ganddyn nhw’r weledigaeth, y sgiliau, yr arloesedd a’r ysgogiad i greu a chynnal busnes. Eu mentergarwch nhw sy’n rhoi Sir Benfro ar y map.

Mae’r busnesau rwyf wedi’u gweld heddiw, fel GenPower, Tŵr Rheoli Caeriw a Bluestone, oll yn cyfrannu at drawsnewid yr economi leol. Eu llwyddiant yw creu swyddi i bobl leol.

Mae’r diwydiant twristiaeth, sy’n denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd, yn bwysig i ni’n lleol, ac rwyf am weld Sir Benfro’n elwa eleni, a hithau’n Flwyddyn Antur yng Nghymru.

Fel rydyn ni wedi’i weld yn y Gyllideb, mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb ar draws Cymru’n gweld budd economi gref.

Wrth gwrs, allwn ni ddim llaesu dwylo, ac mae meysydd i’w gwella ar draws y wlad - gan gynnwys yr angen i gael gwell cysylltiadau cludiant.

Ond gydag economi leol fywiog, mae Sir Benfro’n cystadlu â’r goreuon ledled y DU.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr GenPower, Roland Llewellin:

Rydyn ni’n falch iawn o gael dangos i Ysgrifennydd Gwladol Cymru y twf rydyn ni wedi’i gyflawni dros y blynyddoedd diwethaf - er enghraifft, symud i’n cyfleuster newydd anhygoel a dyblu ein gweithlu o 22 i 45 o bobl.

Mae brand Hyundai yn mynd o nerth i nerth yn y DU, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at roi hwb i’n busnes eto gyda thwf parhaus dros y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd sylfaenydd a Phrif Weithredwr Bluestone, William McNamara:

Rydyn ni’n falch iawn o gael ein cydnabod fel un o brif gyrchfannau gwyliau byr annibynnol y DU.

Rydyn ni wedi parhau i dyfu ac ehangu o un flwyddyn i’r llall, gan ddenu miloedd o ymwelwyr newydd a rhai sy’n dychwelyd yma i Bluestone a Sir Benfro bob blwyddyn.

Roeddwn i’n falch o gael y cyfle i ddangos i Mr Crabb beth rydyn ni’n ei wneud yma gyda’r gweithwyr anhygoel sy’n gyfrifol am lwyddiant y busnes oherwydd eu gwaith caled a’u sgiliau.

Mae Sir Benfro yn nodwedd eithriadol yn yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig o ran twristiaeth, gyda’i harfordir gwasgarog, clogwyni cawraidd a thraethau enwog. Roedd gwerth twristiaeth i economi Cymru i’w weld yn y ffigurau diweddaraf, sy’n dangos bod trigolion Prydain wedi gwneud 75 miliwn o ymweliadau twristiaeth undydd yn 2015 - gan gynhyrchu gwerth £2.7 miliwn o wariant.

Mae darlun economaidd bywiog ar draws y wlad yn cyd-fynd ag economi twristiaeth ffyniannus Sir Benfro. Ers 2010, mae Sir Benfro wedi mynd o nerth i nerth, gyda 3,000 yn llai o aelwydydd heb waith yn y rhanbarth. Mae yno hefyd 6,300 yn ychwanegol o bobl mewn gwaith, gyda mwy a mwy yn cael eu cyflogi mewn busnesau bach a chanolig - sef asgwrn cefn yr economi leol.

Cyhoeddwyd ar 18 March 2016