Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb AS: “Busnesau bach wrth galon adferiad yr economi yn y Gymru wledig”

Gweinidog Swyddfa Cymru yn ymweld â busnesau bach llwyddiannus y Drenewydd

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Wales Office Sign

Wales Office

Busnesau bach yw asgwrn cefn economi Cymru ac maent yn creu swyddi ac yn rhoi hwb i dwf ledled Cymru.

Dyna fydd neges Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS, heddiw (15 Mai) wrth iddo gynnal cyfres o ymweliadau â Busnesau Bach a Chanolig yn y Drenewydd.

Bydd Mr Crabb yn cyfarfod â swyddogion gweithredol y busnesau canlynol: gweithgynhyrchydd offer diogelwch a morol, Makefast Cyf.; gweithgynhyrchydd arddangosfeydd adwerthu, Stagecraft; a gweithgynhyrchydd pwysau balans olwynion, Trax JH Cyf. Bydd yn tynnu sylw at y pecyn o fesurau a gyhoeddwyd yn y Gyllideb i gefnogi busnesau Cymru.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS::

Rydw i’n hynod falch o gael cymryd rhan yn yr ymweliad yma, gan fod gweithgynhyrchu wrth galon yr adferiad economaidd yma a busnesau bach ydi’r peiriant creu swyddi yn y Gymru wledig.

Mae Cymru wedi dangos ei bod yn lleoliad gwych ar gyfer sefydlu a datblygu busnes – mae cwmnïau bach wedi bod yn gyfrifol am greu tua 630,000 o swyddi.

Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd busnesau bach i helpu gyda thwf economaidd. Dyma pam yr aethon ni ati y llynedd i lansio ein hymgyrch Busnes Bach: Uchelgais MAWR a phecyn o gefnogaeth i fusnesau bach.

Mae’r mesurau a gyhoeddwyd yn y Gyllideb yn adeiladu ymhellach ar y gefnogaeth yma. Rydw i’n edrych ymlaen at drafod y mesurau’n uniongyrchol gyda’r busnesau, gan fy mod i’n benderfynol y dylai pob rhan o Gymru elwa o’r adferiad economaidd. Mae hyn yn bwysig iawn yn y cymunedau gwledig, lle mae heriau ychwanegol i redeg busnes yn aml.

Enillodd y gweithgynhyrchydd caledwedd morol a diogelwch, Makefast Cyf., dair gwobr arloesi yng Ngwobrau Busnes Powys yn 2013. Mae’r cwmni’n allforio i wledydd sy’n cynnwys UDA, Japan ac Awstralia, ac mae wedi profi twf o 12-14% flwyddyn ar flwyddyn.

Dywedodd Mike Mills, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Makefast Cyf.:

Rydw i’n falch iawn o weld bod Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant gweithgynhyrchu fel cyfrwng i greu swyddi a chyfoeth ar gyfer y DU yn gyffredinol. Rydw i’n hapus iawn o gael croesawu’r Gweinidog ac yn edrych ymlaen at drafod rhai o’r problemau sy’n benodol i ni yma yng nghanolbarth Cymru gydag o.

Sefydlwyd Stagecraft yn 1990 ac mae’n dylunio, yn gweithgynhyrchu ac yn gosod ystod eang o arddangosfeydd adwerthu pren a ffitiadau mewn siopau. Sicrhaodd y cwmni ei gontract mwyaf erioed yn ddiweddar, gyda Waitrose, gan symud i eiddo mwy ar Barc Menter Vastre, lle mae’n cyflogi 30 o bobl ar hyn o bryd.

Dywedodd Seb Smith, Cyfarwyddwr Rheoli gyda Stagecraft:

Rydyn ni’n croesawu unrhyw fesurau newydd sy’n helpu twf ac yn cefnogi busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Sylfaenwyd Trax JH yn 1989 ac mae’n cyflogi 45 o bobl ar ei safleoedd yn y Drenewydd ac yn y Trallwng. Mae’r cwmni’n allforio i fwy na 25 o wledydd a’r llynedd sicrhaodd gontract gwerth £1 miliwn i gyflenwi pwysau balans olwynion i Jaguar Land Rover.

Dywedodd John Hallé, Cyfarwyddwr Rheoli gyda Trax JH Cyf.:

Rydyn ni’n falch o gael cyfle i siarad â’r Gweinidog heddiw. Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi manteisio ar gefnogaeth gan asiantaethau amrywiol Llywodraeth Cymru, Cyllid Cymru yn benodol.

Fel cwmni gweithgynhyrchu sy’n allforio’r rhan fwyaf o’n cynnyrch i’r cyfandir, rydyn ni’n ystyried costau ynni a chyfraddau cyfnewid fel elfennau allweddol o’n brwydr ni i barhau’n gystadleuol. Rydyn ni’n croesawu’r gefnogaeth i gostau ynni gweithgynhyrchu a hefyd y cynnydd yn y lwfans buddsoddi blynyddol.

Rhagor o Wybodaeth

Mesurau Cyllideb 2014 i gefnogi busnesau:

  • Mae’r lwfans buddsoddi blynyddol yn cael ei ddyblu i £500,000 a bydd yn cael ei ymestyn am flwyddyn arall tan fis Rhagfyr 2015. Mae hyn yn golygu na fydd raid i 99.8% o fusnesau dalu unrhyw dreth ar fuddsoddi o bosib.

  • Mae’r dreth gorfforaeth wedi cael ei thorri 1% i 21%. Mae wedi gostwng o 28% yn 2010 a bydd yn gostwng ymhellach i 20% ym mis Ebrill 2015. Hon felly fydd cyfradd isaf y dreth gorfforaeth yng ngwledydd y G20. Mae’r dreth ar danwydd wedi cael ei rhewi hefyd.

  • Bydd Pecyn Ynni Busnes yn arbed hyd at £240 miliwn i fusnesau Cymru rhwng 2016-17 a 2018-19, yn enwedig y rhai sydd â gofynion ynni uchel.

  • Gallai bron i 200,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru elwa o becyn sydd wedi’i greu i wella eu mynediad at gyllid. Bydd hwn yn arwain at y llywodraeth yn ymgynghori ar sut gellir mynd ati i gyfateb yn well y busnesau bach a chanolig sydd wedi’u gwrthod am fenthyciad â darparwyr credyd eraill.

Hefyd, mae busnesau Cymru’n gallu elwa o’r canlynol:

  • Lwfans cyflogaeth newydd sy’n torri £2,000 ar yr Yswiriant Gwladol y mae busnesau’n ei dalu.

  • Cynllun mentora gwerth £1 miliwn yn benodol ar gyfer y sector, i alluogi i gwmnïau elwa o gefnogaeth a chyngor gan bobl fusnes brofiadol yn eu meysydd eu hunain.

  • Cronfa sefydlu gwerth £10 miliwn a lansiwyd gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddoniaeth Fiolegol i helpu gwyddonwyr entrepreneuraidd yn y maes hwn i sefydlu eu busnes.

  • Rhaglen Fuddsoddi’r Banc Busnes a fydd yn rhoi hwb i fusnesau bach ac yn sicrhau eu bod yn cael cyfalaf y mae ei wir angen arnynt.

  • Benthyciadau Sefydlu – cefnogaeth hanfodol ar ffurf benthyciad y gellir ei ad-dalu a hefyd mentor busnes ar gyfer entrepreneuriaid ledled y wlad.

  • Talebau band eang newydd sbon – bydd 22 dinas ledled y DU – gan gynnwys Caerdydd a Chasnewydd – yn elwa o werth £100 miliwn o dalebau Band Eang, gwerth hyd at £3,000 yr un, i helpu mwy o gwmnïau i roi hwb i’w busnes drwy gyswllt â band eang cyflym iawn.

  • Mae Gwefan ymgyrch Busnes MAWR www.greatbusiness.gov.uk yn dod â’r holl gefnogaeth sydd ar gael ar draws y Llywodraeth at ei gilydd.

Cyhoeddwyd ar 15 May 2014