Stephen Crabb AS yn ymuno â'r Gweinidog Carchardai tra'n ymweld â Charchar Parc.
Gweinidogion yn gweld sut mae'r rhaglen moderneiddio carchardai yn mynd yn Ne Cymru.
Bu Stephen Crabb, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, ar ymweliad â charchar Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr yng nghwmni Jeremy Wright, y Gweinidog Adsefydlu a Charchardai heddiw (14 Tachwedd).
Cynhaliwyd yr ymweliad â Parc, sy’n cael ei redeg gan G4S, yn sgil cyhoeddiad y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn gynharach eleni ei bod yn bwriadu moderneiddio stâd y carchardai.
Ym mis Ionawr, cyhoeddodd Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, y byddai pedwar bloc tai newydd yn cael eu codi yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys un yn Parc. Byddant yn gallu lletya hyd at 1,260 o garcharorion i gyd gyda’i gilydd a byddant yn disodli adeiladau hŷn a drutach yn stâd y carchardai.
Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu’r Gweinidogion â Janet Wallsgrove, Cyfarwyddwr Parc, a rhoddodd hithau’r newyddion diweddaraf iddynt ynghylch y cynlluniau ar gyfer y datblygiad a chrynodeb o’r rhaglenni sy’n cael eu rhoi ar waith er mwyn helpu i atal carcharorion rhag troseddu eto ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.
Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddwyd y byddai Parc yn cael grant gwerth £3m i gynnal ei brosiect ‘Waliau Anweledig’. Nod y prosiect hwn yw gweithio gyda throseddwyr a’u teuluoedd yn ystod dedfrydau ac ar ôl i’r troseddwr gael ei ryddhau er mwyn ei atal rhag troseddu eto.
Dros y pedair blynedd nesaf, bydd y prosiect yn gweithio gyda charcharorion a’u teuluoedd drwy gyfrwng pecynnau ymyriadau, gan gynnwys rhaglenni magu plant a rhaglenni perthnasoedd ar gyfer y teulu cyfan. Bydd hyn yn cynnwys cyngor ar ddyled, hyfforddiant ac addysg, cyngor a chymorth tai, ffitrwydd ac iechyd corfforol a chefnogaeth i gymryd camau tuag at waith.
Dywedodd Stephen Crabb, Gweinidog yn Swyddfa Cymru:
Rwyf yn croesawu’r cyfle i fynd gyda’r Gweinidog Carchardai ar yr ymweliad hwn ar adeg pan mae Cymru a Lloegr yn ymgymryd â rhaglen sylweddol i ddiweddaru stâd y carchardai.
Yn ogystal â’r datblygiadau newydd yn Parc, yn amodol ar ganiatâd cynllunio, bydd Cymru hefyd yn elwa o fuddsoddiad gwerth £250m mewn carchar newydd yn Wrecsam.
Bydd y datblygiadau hyn yn rhoi hwb derbyniol iawn i economi leol a chenedlaethol Cymru ac yn creu swyddi wrth inni barhau ar y llwybr tuag at adferiad economaidd.
Dywedodd Jeremy Wright, y Gweinidog Cyfiawnder:
Mae angen i ni gael stad carchardai modern sy’n addas i’r diben ac sy’n cynnig digon o le ar lai o gost i’r trethdalwr. Dyna pam rydym yn disodli adeiladau hŷn sy’n ddrud i’w rhedeg ag adeiladau newydd sy’n fwy effeithlon.
Bydd y carchar newydd yn Wrecsam a’r bloc tai yn Parc yn ein helpu i wireddu’r cynlluniau hynny ac yn cynnig capasiti ychwanegol i letya carcharorion o Gymru yng Nghymru.
Nodyn i Olygyddion:
- Carchar Ei Mawrhydi Parc, sy’n cael ei redeg gan G4S, yw’r unig garchar preifat yng Nghymru.
- Ar 27 Mehefin cyhoeddodd y Weinyddiaeth Cyfiawnder ei bwriad i adeiladu carchar newydd yng Ngogledd Cymru. Dewiswyd cyn safle Firestone yn Wrecsam fel lleoliad ar gyfer y carchar newydd. Ar ôl sicrhau buddsoddiad gwerth £250m, bydd y gwaith yn dechrau yr haf nesaf, yn amodol ar gymeradwyaeth.
- Ym mis Ionawr 2013, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Cyfiawnder gynlluniau i godi pedwar carchar bychan (a elwir yn flociau tai) yng ngharchardai Parc, Peterborough, The Mount a Glannau Tafwys. Bydd y carchardai bychan hyn yn gallu lletya hyd at 1,260 o garcharorion a byddant yn cael eu defnyddio yn lle adeiladau hŷn a drutach stâd y carchardai.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 November 2013 + show all updates
-
Added translation
-
First published.