Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb AS: “Y diwydiant amddiffyn yn hanfodol i economi Cymru”

Gweinidog Swyddfa Cymru’n ymweld â General Dynamics UK

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Image courtesy of the Ministry of Defence on Flickr

Heddiw (19 Mehefin) bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS yn ymweld â General Dynamics UK i weld y galluoedd amrywiol y mae’r cwmni cyflenwi amddiffyn a leolir yn ne Cymru yn eu darparu i Luoedd Arfog y DU.

Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dyfarnu dau gontract 5 mlynedd i General Dynamics UK i gefnogi’r system radio Bowman a ddefnyddir gan bersonél Lluoedd Arfog y DU ledled byd.

Bydd General Dynamics UK yn darparu cefnogaeth ddylunio, peirianneg a logisteg ar gyfer y system radio a ddefnyddir drwy Fyddin Prydain, y Llynges Frenhinol a’r Awyrlu Brenhinol.

Bydd y gwaith yn cynnal swyddi’r 140 o beirianwyr hynod fedrus yn safle Oakdale yn y Coed Duon ger Casnewydd, gyda rolau pellach yn cael eu sicrhau yng nghadwyn gyflenwi ehangach y cwmni.

Dywedodd Stephen Crabb AS, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Mae gan General Dynamics UK hanes llwyddiannus o ddarparu gwasanaethau cefnogi o ansawdd uchel i’n Lluoedd Arfog. Wrth i Gymru baratoi i gynnal Uwchgynhadledd NATO ym mis Medi, mae dyfarnu’r contractau Bowman yn gadarnhad o arbenigedd a sgiliau ein gweithwyr yn y sector amddiffyn yng Nghymru a ledled y DU.

Bu Cymru ar flaen y gad yn y diwydiannau awyrofod ac amddiffyn ers tro byd, gyda chwmnïau o Gymru’n cyflogi miloedd o bobl yn y sector hwn, gan ddarparu offer a chefnogaeth o ansawdd uchel i’n lluoedd arfog rhagorol ledled byd. Mae’r cyfraniad a wneir gan General Dynamics UK i’r sector hwn yn cynorthwyo i osod sylfeini ar gyfer twf parhaol a ffyniant i bawb yn y diwydiant amddiffyn, ledled y DU.

Dywedodd Steve Rowbotham, prif swyddog gweithredol yn General Dynamics UK:

Rydym wrth ein bodd fod y Gweinidog wedi dewis ymweld â ni heddiw i weld drosto’i hun yr atebion blaengar y mae General Dynamics UK yn eu cyflenwi i Luoedd Arfog y DU. Mae’r ddau gontract a ddyfarnwyd yn ddiweddar yn dangos hyder Gweinyddiaeth Amddiffyn Prydain yn system gyfathrebu Bowman ac hefyd yn dangos ffydd yng nghyflogeion hynod fedrus y Cwmni sy’n cyflenwi Bowman a’r Cerbyd Arbenigol o Oakdale, yng nghanol Cymoedd Cymru.

Mae General Dynamics UK – sy’n cefnogi oddeutu 500 o swyddi ar ei safle yn Oakdale, ac oddeutu 700 ar draws y DU – yn rheoli nifer o gadwyni cyflenwi mawr ar gyfer ei raglenni amddiffyn.

Yn ystod yr ymweliad, bydd Mr Crabb yn cael taith o gwmpas canolfan ymchwil a datblygu’r cwmni, a elwir yn EDGE UK®, lle bydd yn gweld sut y mae General Dynamics UK yn gweithio gyda Busnesau Bach a Chanolig, academia, a’r llywodraeth i ddatblygu technoleg arloesol ar gyfer cwsmeriaid domestig a rhyngwladol. Mae offer a gyflawnwyd drwy gydweithio blaenorol gan EDGE UK ar waith ar hyn o bryd gyda Lluoedd Arfog y DU.

Cyhoeddwyd ar 19 June 2014