Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb AS yn cael ei benodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Mr Crabb: "Mae'n fraint ymuno â'r Cabinet fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru."

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Secretary of State for Wales Stephen Crabb

Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi heddiw (15 Gorffennaf) bod Stephen Crabb AS wedi cael ei benodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Yn ei swydd newydd, bydd Mr Crabb yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau Cymru yn San Steffan.

Mr Crabb fydd 17fed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac yntau wedi bod yn Is-ysgrifennydd Seneddol ar gyfer Swyddfa Cymru.

Dywedodd Mr Crabb:

Mae’n fraint enfawr ymuno â’r Cabinet fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Fel llywodraeth rydym yn uchelgeisiol ar gyfer Cymru ac yn benderfynol y dylai Cymru fod ar y blaen yn adferiad economaidd y DU.

Byddaf yn gweithio’n agos gyda fy nghydweithwyr yn llywodraethau’r DU a Chymru i weld cyfleoedd newydd yn cael eu creu i Gymru. Mae ar bobl a busnesau ledled Cymru eisiau gweld y ddwy lywodraeth yn cydweithio’n effeithiol ac yn sicrhau’r buddsoddiad sydd ei angen ar ein cenedl. Crefaf fod Cymru’n haeddu’r gorau ac rwyf yn edrych ymlaen at ddarparu llais cryf i Gymru o amgylch bwrdd y Cabinet.

Byddaf yn adeiladu ar waith rhagorol fy rhagflaenydd, David Jones, a gyflawnodd cymaint yn ystod ei gyfnod fel Ysgrifennydd Cymru. Mae’n gadael etifeddiaeth gryf i Gymru, gan gynnwys torri tir newydd yn y setliad datganoli drwy ddatganoli pwerau treth i Gymru.

Bu hefyd yn gweithio’n galed i sicrhau buddsoddiad newydd i’r orsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa, y carchar newydd yn Wrecsam ac ailagor rheilffordd Halton Curve rhwng Lerpwl a Gogledd Cymru.

Mae’n anrhydedd enfawr gan mai fi yw Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru o sir Benfro ers Nick Edwards yn yr 1980au. Mae gennyf gyfle nawr i weithio’n galed dros Gymru gyfan yn yr un ffordd ag rwyf wedi ceisio ei wneud ar gyfer sir Benfro.

Blaenoriaeth gyntaf unrhyw AS, ni waeth beth yw ei sefyllfa yn y llywodraeth, yw rhoi anghenion eu hetholwyr yn gyntaf a byddaf yn gwneud hyn bob tro ar gyfer Preseli Sir Benfro.

Cefndir:

  • Cafodd Mr Crabb ei ethol yn AS yn etholaeth ei gartref Preseli Sir Benfro yn 2005.
  • Cafodd ei benodi i’r fainc flaen fel Chwip yr Wrthblaid yn 2009 ac wedyn yn Chwip Llywodraeth Cynorthwyol yn 2011. Mae wedi gwasanaethu ar y Pwyllgorau Materion Cymreig, Datblygu Rhyngwladol a Phwyllgor Dethol y Trysorlys.
  • Cyn cael ei ethol i’r Senedd, bu Mr Crabb yn gweithio fel ymgynghorydd marchnata. Mae hefyd wedi gweithio i Gyngor Cenedlaethol Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, ac i Siambr Fasnach a Diwydiant Llundain.
  • Bu Mr Crabb yn Ysgol Tasker Milward yn Sir Benfro ac mae ganddo raddfeydd o Brifysgol Bryste (BSc) ac Ysgol Fusnes Llundain (MBA).
  • Cafodd ei fagu yn Hwlffordd, sir Benfro. Mae’n briod â Béatrice, ac mae ganddo ddau o blant ifanc.
Cyhoeddwyd ar 15 July 2014