Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb: “Lleihau costau ynni’n hanfodol i gystadleurwydd rhyngwladol cwmnïau gweithgynhyrchu’r DU”

Gweinidog Swyddfa Cymru yn ymweld â Kronospan yn Wrecsam i nodi manteision y Pecyn Ynni Busnes

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Wales Office

Bydd lleihau costau ynni yn galluogi i gwmnïau gweithgynhyrchu yn y DU gystadlu mewn marchnadoedd byd-eang, ac ennill y ras fyd-eang, dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, cyn ymweliad ag un o blith y deg uchaf o gwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Heddiw (27 Mawrth 2014), bydd Mr Crabb yn ymweld â chwmni gweithgynhyrchu asglodfwrdd, sef Kronospan, yn Wrecsam, i nodi cyhoeddiad pecyn o fesurau sy’n werth £7 biliwn ac sydd â’r nod o leihau costau ynni’n ddramatig i bob busnes, cartref a rhanbarth yn y wlad.

Mae disgwyl i’r mesurau sydd yn y Pecyn Ynni Busnes, fel y cyhoeddwyd yn y Gyllideb yr wythnos ddiwethaf, arbed hyd at £240 miliwn i fusnesau Cymru rhwng 2016-17 a 2018-19. Hefyd, bydd busnesau yng Nghymru’n elwa o tua £230 miliwn yn ystod yr un cyfnod oherwydd y camau gweithredu i leihau Terfyn Isaf Pris Carbon.

Nod y pecyn yw creu mwy o gymhelliant i gwmnïau ddod yn ôl i Brydain i weithgynhyrchu, a helpu’r cwmnïau sy’n gweithredu yn y DU eisoes i gystadlu yn y ras fyd-eang.

Fel busnes gweithgynhyrchu sydd â gofynion ynni uchel, bydd Kronospan yn arbennig yn elwa o’r penderfyniad i gapio Cyfradd Gefnogi Pris Carbon yn £18 o 2016 ymlaen.

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS:

Mae’r darlun economaidd yng Nghymru a ledled y DU yn gwella’n gyflym iawn, gyda’r sector gweithgynhyrchu’n dangos arwyddion cadarnhaol iawn o adfer.

Mae’r Llywodraeth hon eisiau gwneud yn siŵr bod hyn yn para ac mae lleihau costau ynni i fusnesau’n elfen hanfodol o’r ymdrech hon. Gyda’r Pecyn Ynni Busnes, rydym wedi cynyddu ein hymdrechion i sicrhau bod prisiau ynni’n fwy fforddiadwy, ac i helpu busnesau’r DU i allu cystadlu yn erbyn cwmnïau mewn llefydd eraill.

Kronospan yw gweithgynhyrchydd panelau a lloriau coed mwya’r byd ac mae’n cyflogi mwy nag 11,000 o bobl yn fyd-eang, gan gynnwys 600 o bobl ar ei safle yn Y Waun.

Yn ystod yr ymweliad, bydd Mr Crabb yn cyfarfod y Prif Swyddog Gweithredol, Ludwig Scheiblreiter, a’r Cadeirydd Mike McKenna, i drafod sut gall y cwmni elwa o Becyn Ynni Busnes y Llywodraeth, ac i gael ei dywys o amgylch y safle.

Dywedodd Ludwig Scheiblreiter, Prif Swyddog Gweithredol Kronospan Limited:

Rydw i’n falch bod y Llywodraeth wedi gweithredu i sicrhau nad yw Diwydiant Prydain o dan anfantais o gymharu â’r gystadleuaeth mewn llefydd eraill. Mae rhoi sylw i broblemau costau ynni a seiliwaith y DU yn hanfodol er mwyn diogelu cyflwr a datblygiad tymor hir gweithgynhyrchu yn y DU. Felly mae ymyrraeth y Llywodraeth i’w groesawu.

Bydd pob cartref a busnes, waeth beth yw eu maint, yn gweld gostyngiad yn eu biliau trydan o ganlyniad i’r Pecyn Ynni Busnes, ac mae hefyd yn cynnwys mesurau i fynd i’r afael â chostau ynni’r Diwydiannau Ynni-Ddwys, fel gwneuthurwyr dur a diwydiannau sment a chemegion.
Fis Mai y llynedd, croesawodd Stephen Crabb a’r Gweinidog ar gyfer Ynni a Diwydiant, Michael Fallon AS, gynrychiolwyr o rai o sector mwyaf ynni-ddwys Cymru i Gaerdydd, i holi eu barn am sut gall y Llywodraeth eu helpu gyda chostau ynni.

Ychwanegodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS:

Rydw i’n teimlo’n angerddol dros sicrhau bod Cymru’n parhau’n un o’r llefydd mwyaf atyniadol yn y DU ar gyfer busnes.

Drwy gydol fy nghyfnod yn Swyddfa Cymru, rwyf wedi hyrwyddo cefnogaeth i fusnesau yng Nghymru, gan drafod â’r diwydiant yn rheolaidd, a gwrando’n astud ar y pryderon am gostau ynni uchel.

Mae’r Pecyn Ynni Busnes a gafodd ei gyhoeddi yn y Gyllideb yn dangos yn glir bod Llywodraeth y DU yn cefnogi diwydiannau fel Kronospan, sy’n fusnes teuluol lleol a phwysig yn Wrecsam ac yn weithgynhyrchydd panelau a lloriau coed mwya’r byd.

Rwyf yn croesawu’r cyfle i ymweld â Kronospan oherwydd bydd yn gyfle i mi gael clywed yn uniongyrchol gan y tîm o uwch reolwyr yno am fanteision cadarnhaol y pecyn cefnogi newydd hwn i’w busnes ac, yn ei dro, i economi Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Lynette Bowley yn Swyddfa Cymru ar 02920 924204 / lynette.bowley@walesoffice.gsi.gov.uk

Mae’r Pecyn Cefnogi Ynni Busnes yn cynnwys y canlynol:

*Capio Cyfradd Gefnogi Pris Carbon yn £18.00 o 2016-17 tan ddiwedd y degawd.

*Ymestyn iawndal y Diwydiannau Ynni-Ddwys am gost Terfyn Isaf Pris Carbon tan 2018/19.

*Cyflwyno iawndal i Ddiwydiannau Ynni-Ddwys am gostau’r Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy a’r Tariff Cyflenwi Trydan rhwng 2016/17 a 2018/19.

*Cyflwyno o 2015/16 esemptiad o’r Terfyn Isaf Pris Carbon i danwyddau a ddefnyddir i gynhyrchu trydan o ansawdd uchel o safleoedd Gwres a Phŵer Cyfun at ddibenion ar y safle.

*Mesurau newydd i wneud marchnadoedd ynni’n fwy cystadleuol ar gyfer busnesau bach iawn ac i’w helpu i ddefnyddio mesuryddion effeithlon i leihau eu biliau.

Yn 2013, cyflwynodd y Llywodraeth nifer o fesurau eraill i gefnogi diwydiannau ynni-ddwys, gan gynnwys y canlynol:

*Esemptiad i ddiwydiannau ynni-ddwys o’r costau ychwanegol sy’n codi o Gontractau Gwahaniaeth y Tariff Cyflenwi Trydan, yn unol â’r gyfraith sy’n ymwneud â chymorth y wladwriaeth;

*Cyflwyno estyniad ar yr ardoll newid hinsawdd ar gyfer prosesau metelegol a mwynegol o 1 Ebrill 2014 ymlaen; a

*Iawndal ar gyfer costau allyriadau anuniongyrchol oherwydd System Fasnachu Allyriadau’r UE a’r mecanwaith cefnogi pris carbon, yn amodol ar gymorth y wladwriaeth.

Cyhoeddwyd ar 27 March 2014