Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb: “Beth am roi Cymru ar y llwyfan a dangos i’r byd yr hyn sydd gennym i’w gynnig”

Ysgrifennydd Cymru yn datgan ei nod ar gyfer ffasiwn Cymru cyn Wythnos Ffasiwn Llundain.

Fashion is GREAT Logo

Mae Stephen Crabb wedi annog y rhai yng Nghymru sydd ag awydd gweithio yn sector ffasiwn ffyniannus y DU i wneud y gorau o brifysgolion Cymru sydd o safon byd a chefnogaeth Llywodraeth y DU i gynrychioli ein gwlad fach ond hynod greadigol yn y farchnad ffasiwn fyd-eang.

Gyda’r sglein olaf yn cael ei rhoi ar y rhodfeydd a chyda’r goleuadau llachar yn barod, mae un o ddigwyddiadau ffasiwn mwyaf y flwyddyn ar fin cychwyn ym mhrifddinas y DU.

Am gyfnod o wythnos, bydd dylunwyr ffasiwn, modelau ac artistiaid colur yn dangos i’r byd yr hyn sydd orau o ddiwydiant ffasiwn Prydain yn Wythnos Ffasiwn Llundain.

Dangosodd y ffigurau diweddaraf fod y diwydiannau creadigol yn y DU werth bron i £10 miliwn yr awr ac yn cyfrannu £84.1 biliwn y flwyddyn i economi’r DU. I gefnogi’r sector hanfodol hwn, bydd Llywodraeth y DU yn parhau i greu’r amgylchedd cywir i ddiwydiannau creadigol ffynnu, drwy ostyngiadau treth, mewnfuddsoddi a diogelu rhaglenni addysg diwylliannol.

Ledled Cymru, mae eisoes lawer o ddylunwyr a gwerthwyr ffasiwn sy’n defnyddio’u doniau a’u creadigrwydd i gynrychioli Cymru ar draws y sbectrwm ffasiwn. Bu Helen Rhiannon o Benrhyn Gŵyr yn ddylunydd am dros ddeng mlynedd, gan weithio ar amrediad o brosiectau proffil uchel o wisgoedd cenedlaethol ar gyfer Miss World i ffrogiau arbennig ar gyfer Katherine Jenkins a Catherine Zeta Jones. Mae Helen bellach yn creu gwisgoedd a dyluniadau priodas, cyn creu a chynhyrchu ei holl wisgoedd yng Nghymru a dywed fod hyn wedi profi’n fantais enfawr i’w busnes.

Dywedodd Helen Rhiannon:

Mae popeth sy’n cael ei greu gennyf i yn cael ei ddylunio a’i gynhyrchu yng Nghymru. Mae hyn wedi profi’n fantais enfawr i’r busnes, gan roi pwynt gwerthu unigryw i mi sy’n caniatáu i mi wneud yr hyn yr wyf yn ei fwynhau, yn y lle rwy’n ei garu.

Rwy’n dewis aros yn fychan ac arbenigol gan fod fy holl ffrogiau priodas yn cael eu gwneud gen i yn fy stiwdio yng nghyffiniau Penrhyn Gŵyr. Rwy’n canolbwyntio ar ansawdd a ffit dda ac rwyf eisiau cadw pethau felly, o’r herwydd byddaf yn parhau i gynhyrchu yng Nghymru.

Gellir canfod rhagoriaeth o ran ffasiwn Gymreig o gwmpas y byd hefyd. Mae Lucy Jones o Gaerdydd bellach yn byw yn Efrog Newydd ar ôl dechrau ei chasgliad ffasiwn ei hun sy’n cwrdd ag anghenion pobl anabl ac sydd â heriau corfforol. Cafodd y ferch 24 oed ei hysbrydoli gan ei chefnder Jake sydd yn ei arddegau ac yn dioddef o hemiplegia ac o ganlyniad yn cael trafferth i wisgo’n annibynnol. Penderfynodd Lucy greu trowsus ar ei gyfer y gallai ei wisgo’n hawdd gan ddefnyddio dim ond un llaw. Ers hynny aeth o un llwyddiant i’r llall, gan ennill gwobrau mawr fel Dylunydd Dillad Merched y Flwyddyn a Gwobr Kering X Styke.com sef rhiant-gwmni dylunwyr byd-enwog fel Gucci a Balenciaga. Mae Lucy bellach wedi cyrraedd rhestr ‘Forbes 30 under 30” oherwydd ei chasgliad unigryw “Seated Design”.

Bydd Julien MacDonald, un o ddylunwyr amlycaf Cymru, yn arddangos ei gasgliad AW16 ddydd Sadwrn 20 Chwefror. Dechreuodd y dylunydd o Ferthyr Tudful ei yrfa ym myd ffasiwn fel Prif Ddylunydd Dillad Gwau yn Chanel ac ers hynny mae wedi lansio ei gasgliad ffasiwn hynod lwyddiannus ei hun sy’n boblogaidd iawn gyda sêr byd-eang fel Beyonce, Taylor Swift a Heidi Klum.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Stephen Crabb:

Mae diwydiannau creadigol yng Nghymru ac ar draws y DU yn ffynnu. Mae’r sector ffasiwn ar flaen y gad yn gweddnewid ein heconomi, yn ysbrydoli cenedlaethau o ddylunwyr a gwerthwyr i gynrychioli’r DU yn y farchnad fyd-eang.

Ym maes diwylliant, arloesi, ffasiwn a chreadigrwydd, mae gan y DU fantais unigryw. Mae Wythnos Ffasiwn Llundain yn gyfle arall i arddangos hyn i wledydd eraill. Mae’r digwyddiad yn denu pobl ar draws y byd, gan dynnu sylw at ein doniau ni ein hunain o ddylunwyr newydd fel Helen Rhiannon a Lucy Jones i enwau sydd wedi hen sefydlu fel Julien McDonald.

Fel llywodraeth, rydym yn cefnogi ffasiwn yn yr un modd ag yr ydym yn cefnogi unrhyw sector arall – drwy ddarparu’r amodau economaidd cywir i bobl redeg busnesau llwyddiannus a all ehangu ac allforio.

Mae Cymru’n llawn o ddylunwyr ffasiwn eithriadol, adwerthwyr annibynnol a llawer o bobl ifanc sy’n awyddus i roi cychwyn ar eu gyrfa ym myd ffasiwn. Dyma’r amser i wneud y gorau o’r gefnogaeth sydd ar gael i roi Cymru ar y llwyfan a dangos i’r byd beth yn union sydd gennym i’w gynnig.

Yn ddiweddar, mae UKTI wedi lansio’r ymgyrch Mae Allforio yn GRÊT i helpu busnesau ledled Cymru ac yng ngweddill y DU i ddechrau allforio. Mae hyn yn cynnwys llawer o gyfleoedd ar gyfer y sector ffasiwn mewn gwledydd o gwmpas y byd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.exportingisgreat.gov.uk.

Cyhoeddwyd ar 18 February 2016