Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb yn canmol rôl busnesau bach o ran hybu allforio

Mae Stephen Crabb wedi canmol rôl busnesau bach o ran hybu allforio, wrth i arolwg ddatgelu bod llyfrau archebu y rhan fwyaf ohonynt yn llenwi'n gyflym

Heddiw (9 Hydref), mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, wedi canmol rôl busnesau bach o ran hybu allforio, wrth i arolwg newydd ddatgelu bod llyfrau archebu y rhan fwyaf ohonynt yn llenwi’n gyflym.

Mae ffigurau sydd allan heddiw yn dangos bod tri chwarter cwmnïau bach a chanolig Cymru’n dweud eu bod yn gwerthu’n dda dramor neu eu bod yn gwerthu mwy a mwy dros y môr.

Siaradodd yr Ysgrifennydd Gwladol ym mrecwast busnes Siambr Fasnach De Cymru wrth i’r sefydliad gyhoeddi ei Arolwg Economaidd Chwarterol ar gyfer Cymru Gyfan. Mae’r arolwg a gasglwyd ynghyd â Siambrau Canolbarth Cymru, Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru, yn rhoi darlun cynhwysfawr o gyflwr yr economi yn y rhanbarth.

Dywedodd Mr Crabb:

Mae ein busnesau bach yn helpu i sicrhau dyfodol economaidd Cymru.

Mewn marchnad fyd-eang anodd, y cwmnïau uchelgeisiol sydd â’r hyder i fod yn greadigol, sy’n ffynnu.

Busnesau bach yw hanfod ein heconomi ar gyfer menter ac mae’r cynnydd yn yr archebion sydd wedi’u nodi heddiw yn dangos bod pethau’n edrych yn dda.

Serch hynny, mae llai o fusnesau’n adrodd am welliant mewn gwerthiant allforio, felly mae’n rhaid i ni ddal ati i weithio’n galed i sicrhau’r amodau iawn i gwmnïau dyfu a’u cefnogi yn y marchnadoedd dros y môr.

Yn 2014, roedd busnesau bach a chanolig yng Nghymru’n cyfrif am 99.9 y cant o fusnesau yn y sector preifat, tri chwarter cyflogaeth a dros hanner (59 y cant) trosiant.

Mae’r clwstwr o brosiectau buddsoddi mawr sydd ar y gweill yn cyfleu hyder Llywodraeth y DU mewn busnesau yng Nghymru, meddai’r Ysgrifennydd Gwladol wrth y rhai a oedd yn bresennol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Buddsoddi yn seilwaith y rheilffyrdd - y cynllun mwyaf uchelgeisiol ers datblygu’r rhwydwaith rheilffyrdd yn y 19eg ganrif.
  • Cyflwyno band-eang cyflym.
  • Cynnig Bargen Dinas i Gaerdydd

Dywedodd Mr Crabb fod Cymru wedi bod yn lleihau’r bwlch o ran cynhyrchiant â gweddill y DU ers 2010. “Mae’n rhaid i ni ddatblygu a bwrw ymlaen ar y llwybr hwn,” ychwanegodd.

Cyhoeddwyd ar 9 October 2015