Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb: Y Llywodraeth yn cefnogi 35,000 o gyflogwyr yng Nghymru gan ddefnyddio’r cynllun Lwfans Cyflogaeth

Mae 35,000 o gyflogwyr yng Nghymru yn elwa o Lwfans Cyflogaeth Llywodraeth y DU; yn ôl y ffigurau swyddogol a gyhoeddwyd heddiw (7 Tachwedd).

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Ers i’r cynllun gael ei gyflwyno fis Ebrill eleni, mae 72% o’r cyflogwyr cymwys yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle; yn y pedwerydd safle ymhlith yr 11 o weinyddiaethau a rhanbarthau datganoledig sydd yn y DU. Roedd cyfradd hawlio Cymru o 72% hyd yn oed yn fwy na chymedr cenedlaethol y DU o 68%

Mae’r Lwfans Cyflogaeth yn cynnig cyfle i’r cyflogwyr leihau eu bil Yswiriant Cenedlaethol i’w cyflogeion o bron i £2,000.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:

Mae’r Llywodraeth hon yn cefnogi busnesau Cymru ac mae’r lwfans cyflogaeth yn gymhelliant enfawr iddynt gyflogi mwy o bobl, gwella eu swyddfeydd ac elwa o amrywiaeth o gyfleoedd eraill na fyddant yn gallu eu fforddio fel arall efallai.

Mae’r Lwfans Cyflogaeth yn gwobrwyo pobl sy’n berchen ar fusnesau bychain ac sy’n gweithio’n galed drwy leihau eu bil yswiriant cenedlaethol ac yn galluogi iddynt ehangu. Mae hyn i gyd yn rhan o’n cynllun economaidd tymor hir i greu swyddi, cael gwaith i fwy o bobl a helpu pobl sy’n gweithio’n galed i ofalu am eu teuluoedd

Cyhoeddwyd ar 7 November 2014