Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb ac Alun Cairns yn ymweld â safle Gweinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan a Gwesty’r Vale

Gweinidogion Swyddfa Cymru yn ymweld â'r Ysgol Hyfforddiant Technegol yn Sain Tathan, ac â thîm rygbi Cymru yng Ngwesty’r Vale.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb a Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns AS yn ymweld ag Ysgol Hyfforddiant Technegol Rhif 4 ar safle’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan.

Cafodd y Gweinidogion, ynghyd â’r Is-gyrnol Robert Balls, eu tywys o gwmpas yr ysgol, sef yr uned gyntaf i gael ei ffurfio yn Awyrlu Brenhinol Sain Tathan yn 1938.

Sefydlwyd yr ysgol yn wreiddiol i hyfforddi peirianwyr a gosodwyr fframiau awyrennau ac injans. Heddiw, mae’r ysgol yn darparu hyfforddiant arbenigol ar gyfer awyrenwyr sy’n cael eu cyflogi ym meysydd Peirianneg Gyffredinol, Technegol, Trydanol, Mecanyddol a Gweithdai.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae’n wych gweld Ysgol Hyfforddiant Technegol Rhif 4 yn parhau i ffynnu yng Nghymru. Yn ystod y pedair blynedd diwethaf mae Llywodraeth y DU wedi cyflawni rhaglen trawsnewid amddiffyn anhygoel ac mae’r Ysgol hon yn enghraifft wych o ragoriaeth mewn hyfforddiant amddiffyn.

Yr hyn sy’n gwneud yr ysgol hon mor nodedig yw ei bod yn parhau â’i hanes traddodiadol ond hefyd yn addasu ac yn tyfu i gyd-fynd â datblygiad deinamig pŵer yr awyr. Gobeithiaf y bydd yr ysgol eiconig hon yn parhau i fynd o nerth i nerth

Ar ôl hynny, buont yn ymweld â Gwesty’r Vale i gael clywed am y buddsoddiad £11 miliwn diweddaraf, a gwylio tîm rygbi Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu gêm yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad ddydd Sul.

Wrth i’r gwesty baratoi i fod yn bencadlys i’r tîm ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2015, cafodd y gweinidogion eu tywys o gwmpas y cyfleusterau rygbi o’r radd flaenaf sydd ar y safle, yn cynnwys pum cae ymarfer rygbi.

Cafodd y gweinidogion hefyd gyfle i weld cyfleusterau Undeb Rygbi Cymru ar y safle, yn cynnwys y Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol. Cawsant gyfle hefyd i gwrdd â rhai aelodau o garfan Cymru, yn cynnwys y capten Sam Warburton, a oedd yn paratoi ar gyfer gêm Cymru yn erbyn yr Alban ddydd Sul fel rhan o Gystadleuaeth y Chwe Gwlad.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Stephen Crabb:

Mae Gwesty’r Vale yn helpu i ddenu pobl o bedwar ban byd i Gymru - i weld yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig, i fuddsoddi yn ein busnesau ac i hybu’r economi.

Mae’r cynnydd o 8% y llynedd yn y gyfradd llenwi ystafelloedd mewn gwestai yn brawf bod gwestai gwych yma yng Nghymru, sy’n cynnig cyfleusterau rhagorol a chroeso cynnes.

Mae’r cyfleusterau hyfforddi yng Ngwesty’r Vale a ddefnyddir gan dîm Rygbi Cymru o safon fyd-eang, ac maent yn ddelfrydol i baratoi ar gyfer y gêm yn erbyn yr Alban ddydd Sul

A hithau eisoes yn gartref ac yn ganolfan hyfforddi swyddogol i dîm Cymru, mae’r gwesty pedair seren annibynnol yn Hensol, De Cymru wedi cael ei ddewis y llynedd yn bencadlys swyddogol i’r tîm ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd. Bydd yn gartref i dîm Cymru yn ogystal ag unrhyw gyfuniad o dimau Ffrainc, Iwerddon, Seland Newydd a’r Eidal yn ystod y gystadleuaeth, a fydd yn cael ei chynnal yn ystod mis Medi a mis Hydref eleni. Fel rhan o’r paratoadau ar gyfer hyn, mae Gwesty’r Vale wedi buddsoddi £1 miliwn i wella’r 143 o ystafelloedd gwely sydd yno, gan gynnwys gosod ystafelloedd ymolchi newydd a gwella dodrefn meddal.

Aeth y gweinidogion hefyd i ymweld â Chastell Hensol, sy’n 400 oed ac yn adeilad Gradd I. Ar hyn o bryd mae’n cael ei adnewyddu, fel rhan o raglen gwerth £10 miliwn, i’w drawsnewid i fod yn gyfleuster cynadledda o’r radd flaenaf. Mae’r cam cyntaf yn cynnwys adeiladu Neuadd y Cwrt, ar iard y castell hanesyddol, a fydd yn gallu croesawu 320 o gynrychiolwyr ar ffurf theatr, a 200 o gynrychiolwyr ar ffurf gwledd.

Cyhoeddwyd ar 16 February 2015