Datganiad i'r wasg

Cam ymlaen at atwrneiaeth arhosol ar-lein

Bydd y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn cael eu hamddiffyn yn well wrth i ddiwygiadau i symleiddio atwrneiaethau arhosol gael Cydsyniad Brenhinol.

  • Y Ddeddf Atwrneiaethau yn cael Cydsyniad Brenhinol
  • Yn creu mesurau diogelu newydd i amddiffyn yn erbyn twyll a cham-drin
  • Digideiddio i wella amser prosesu a lleihau gwallau dynol

Mae’r cytundebau cyfreithiol hyn yn galluogi person i roi pwerau gwneud penderfyniadau am ei ofal, triniaeth neu faterion ariannol i berson arall os yw’n colli galluedd meddyliol.

Mae’r Ddeddf Atwrneiaethau yn rhoi’r golau gwyrdd cychwynnol ar ddod â’r broses bapur bresennol ar-lein am y tro cyntaf. Bydd y newidiadau, pan gânt eu cyflwyno, yn gwneud y system yn gyflymach, yn haws ei defnyddio ac yn fwy diogel i’r miloedd o bobl sy’n gwneud atwrneiaeth arhosol bob blwyddyn, ac sy’n dibynnu arni.

Bydd y ddeddfwriaeth, a gyflwynwyd gan Stephen Metcalfe AS ac a gefnogir gan y Llywodraeth, hefyd yn cryfhau’r amddiffyniad twyll presennol drwy ganiatáu gwiriadau ar hunaniaeth y rheini sy’n gwneud cais am atwrneiaeth arhosol.

Mae’r system ar-lein newydd a’r mesurau diogelu ychwanegol bellach yn cael eu datblygu gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Bydd angen cynnal profion helaeth i sicrhau bod y broses yn syml i’w defnyddio, yn gweithio yn ôl y bwriad ac yn ddiogel. Bydd rhagor o wybodaeth am ba bryd y bydd ar gael yn cael ei chyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.

Dywedodd Mike Freer, y Gweinidog Cyfiawnder:

Mae miliynau o bobl yn dibynnu ar atwrneiaeth arhosol i wneud yn siŵr y gofelir am eu gofal a’u harian os byddant yn colli galluedd meddyliol.

Mae’r Ddeddf hon yn caniatáu i ni foderneiddio’r gwasanaeth, cyflwyno mesurau diogelu newydd rhag twyll a cham-drin a’i gwneud yn haws rhoi tawelwch meddwl i bobl y bydd eu buddiannau’n cael eu gwarchod.

Mae nifer yr atwrneiaethau arhosol cofrestredig wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf i dros 6 miliwn, ond mae’r broses o wneud un yn dal yn cynnwys llawer o nodweddion papur sydd dros 30 oed. Bob blwyddyn, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn delio â dros 19 miliwn o ddarnau o bapur o ganlyniad i’w system all-lein.

Bydd digideiddio yn cyflymu’r amser cofrestru drwy sylwi ar wallau’n gynharach a chaniatáu iddynt gael eu datrys ar-lein, yn hytrach na gorfod aros i ddogfennau gael eu postio’n ôl ac ymlaen rhwng yr ymgeisydd a Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Bydd proses well ar bapur hefyd yn cael ei chyflwyno ar gyfer y rheini nad ydynt yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd.

Mae’r diwygiadau hyn yn adeiladu ar lwyddiant y gwasanaeth “Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol” a lansiwyd yn 2020, a oedd yn galluogi sefydliadau fel banciau i wirio cofrestriad atwrneiaeth arhosol yn ddigidol ac yn ddiogel ar unwaith. Arweiniodd hyn at gyflymu proses a oedd yn cymryd wythnosau i ddod i ben yn y gorffennol, tra’r oedd copïau papur yn cael eu rhannu.

Dywedodd Amy Holmes, Gwarcheidwad Cyhoeddus Cymru a Lloegr:

Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ein cynlluniau i foderneiddio atwrneiaethau arhosol ac rydym gam yn nes at wasanaeth cyflymach, mwy diogel a syml.

Mae ein ffocws nawr ar barhau i ddatblygu, profi a mireinio llwyfan ar-lein newydd a gwell proses ar bapur, i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth a fydd yn cynnwys mesurau diogelu ychwanegol ac sy’n diwallu anghenion ein holl gwsmeriaid.

Yn y cyfamser, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cynyddu nifer y staff sy’n prosesu ceisiadau ac mae’r timau bellach yn cofrestru tua 19,000 yn fwy o atwrneiaethau arhosol bob mis na chyn y pandemig.

Nodiadau i olygyddion:

  • Cyflwynwyd atwrneiaeth arhosol yn 2007 fel rhan o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Roedd hyn yn disodli’r system flaenorol o atwrneiaeth barhaus a oedd wedi bod ar waith ers 1986.
  • Mae dau fath o atwrneiaeth arhosol (LPA). Mae atwrneiaeth arhosol arian ac eiddo yn cynnwys penderfyniadau fel prynu a gwerthu eiddo neu reoli cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu, neu fuddsoddiadau. Mae atwrneiaeth arhosol iechyd a lles yn gallu cynnwys penderfyniadau ynghylch triniaethau meddygol a threfniadau gofal, fel ble dylai rhywun fyw, â phwy y dylai gysylltu, a’i ofal o ddydd i ddydd.
  • Er bod atwrneiaethau arhosol yn gytundebau preifat rhwng unigolion, rhaid i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestru atwrneiaeth arhosol cyn gellir ei defnyddio.
  • Mae’r gwasanaeth Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol yn gymwys i’r rhai a gofrestrwyd ar ôl mis Ionawr 2016 yn unig.
  • Roedd y diwygiadau’n seiliedig ar ymateb y Weinyddiaeth Gyfiawnder i’r ymgynghoriad ym mis Mai 2022: Ailwampio Atwrneiaeth Arhosol i wella diogelwch ac effeithlonrwydd - GOV.UK (www.gov.uk)
Cyhoeddwyd ar 19 September 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 September 2023 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.