Datganiad i'r wasg

Ailwampio Atwrneiaeth Arhosol i wella diogelwch ac effeithlonrwydd

Bydd y broses o reoli materion anwylyd yn cael ei chryfhau a’i moderneiddio o dan ddiwygiadau mawr a gyhoeddwyd gan y llywodraeth heddiw (19 Mai 2022).

Modernising lasting power of attorney
  • Mesurau diogelu newydd i amddiffyn yn erbyn twyll a cham-drin
  • Bydd y broses yn symlach, yn gyflymach ac yn haws ei defnyddio
  • Gwasanaeth digidol newydd i leihau camgymeriadau wrth ymgeisio a chyflymu cofrestriadau

Mae Gweinidogion wedi amlinellu cynlluniau i drawsnewid y system atwrneiaeth arhosol – gan ei gwneud hi’n haws ei defnyddio ac yn fwy diogel byth rhag twyll.

O dan y cynigion, bydd pobl yn gallu gwneud atwrneiaeth arhosol yn gyfan gwbl ar-lein am y tro cyntaf erioed – gan ei chysoni â gwasanaethau eraill y llywodraeth, fel gwneud cais am ysgariad. Bydd y system bapur bresennol yn parhau i weithredu, sy’n golygu y gall pobl ddewis proses hygyrch sy’n gweddu orau i’w hanghenion penodol.

Yn hollbwysig, bydd y diwygiadau’n atgyfnerthu’r mesurau diogelu i amddiffyn pobl agored i niwed rhag cam-drin neu dwyll. Mae’r cynlluniau’n cynnwys archwiliadau adnabod newydd a fyddai’n gofyn am wybodaeth neu ddogfennau swyddogol fel trwydded yrru, pasbort neu gyfrif Porth y Llywodraeth fel rhan o broses ddilysu gryfach.

Mae nifer yr atwrneiaethau arhosol cofrestredig wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf i dros 6 miliwn, ond mae’r broses o wneud un yn dal yn cynnwys llawer o nodweddion papur sydd dros 30 oed.

Mae cyhoeddiad heddiw yn dilyn ymgynghoriad gan y llywodraeth a oedd yn ceisio safbwyntiau ar foderneiddio’r system. Mae’r cynigion wedi cael eu datblygu ar ôl ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid fel Age UK, Cymdeithas y Cyfreithwyr, a’r Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol, i sicrhau eu bod yn gweithio i’r rhai sy’n dibynnu ar atwrneiaethau arhosol i reoli eu materion yn nes ymlaen mewn bywyd.

Dywedodd Tom Pursglove AS, y Gweinidog Cyfiawnder:

Mae atwrneiaeth arhosol yn rhoi cysur a sicrwydd i filiynau o bobl y bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud er eu lles gorau pe baen nhw’n colli galluedd.

Bydd ein diwygiadau’n ei gwneud hi’n haws cael gafael ar y system, a’i gwneud hi’n symlach ac yn fwy diogel byth rhag twyll. Mae hyn yn rhan o’n cynlluniau i fanteisio ar dechnoleg ar draws y llywodraeth a darparu gwasanaethau gwell i’r cyhoedd.

Dogfen gyfreithiol yw atwrneiaeth arhosol sy’n caniatáu i bobl (y rhoddwr) benodi rhywun arall (yr atwrnai) i wneud penderfyniadau ynghylch eu lles, eu harian neu eu heiddo. Mae’n adnodd pwysig sy’n galluogi pobl i ddewis rhywun maen nhw’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau ar eu rhan pe baent yn colli galluedd yn y dyfodol. Maen nhw’n cael eu defnyddio gan bobl hŷn yn aml ond mae unrhyw un dros 18 oed yn gallu eu gwneud.

Gweithredir y gwasanaeth gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac ar hyn o bryd mae’n delio â dros 19 miliwn darn o bapur bob blwyddyn. Bydd cyflwyno proses ddigidol newydd yn gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd y sefydliad, ac yn lleihau ei ôl troed carbon.

Bydd digideiddio hefyd yn helpu i leihau camgymeriadau gan roddwyr, atwrneiod ac eraill sy’n rhan o’r broses drwy sicrhau y gellir codi a datrys y rhain yn gynnar – gan helpu i gwtogi amseroedd aros yn y pen draw.

Dywedodd Stuart Howard, Gwarcheidwad Cyhoeddus Dros Dro Cymru a Lloegr:

Mae atwrneiaeth arhosol yn hanfodol er mwyn helpu pobl i gynllunio ar gyfer y dyfodol a chadw rheolaeth dros eu penderfyniadau.

Bydd y diwygiadau hyn yn ein galluogi i foderneiddio’r broses – gan sicrhau bod ein gwasanaeth yn addas ar gyfer y dyfodol, yn ddiogel ac yn syml ei ddefnyddio, a bod modd ei ddefnyddio ar-lein.

Mae’r llywodraeth hefyd wedi ymrwymo i edrych ymhellach ar sut gallai’r system ddigidol newydd wella’r broses dystio a’i symleiddio. Byddai’n rhoi mwy o amser i roddwyr ganolbwyntio ar y penderfyniadau pwysig yn y broses, fel i bwy maen nhw’n rhoi pwerau a hyd a lled y pwerau hynny.

Nodiadau i olygyddion

  • Cyflwynwyd atwrneiaeth arhosol yn 2007 fel rhan o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Roedd hyn yn disodli’r system flaenorol o Atwrneiaeth Barhaus a oedd wedi bod ar waith ers 1986.
  • Mae dau fath o atwrneiaeth arhosol. Mae atwrneiaeth arhosol arian ac eiddo yn cynnwys penderfyniadau fel prynu a gwerthu eiddo neu reoli cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu, neu fuddsoddiadau. Mae atwrneiaeth arhosol iechyd a lles yn gallu cynnwys penderfyniadau ynghylch triniaethau meddygol a threfniadau gofal, fel ble dylai rhywun fyw, â phwy y dylai gysylltu, a’i ofal o ddydd i ddydd.
  • Er bod atwrneiaethau arhosol yn gytundebau preifat rhwng unigolion, rhaid i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestru atwrneiaeth arhosol cyn gellir ei defnyddio.
  • Cynhaliwyd yr ymgynghoriad am 12 wythnos rhwng 20 Gorffennaf a 13 Hydref 2021.
  • Ochr yn ochr â’r ymgynghoriad ffurfiol, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i ymgysylltu drwy weithdai ac ymchwil defnyddwyr – gan gasglu tystiolaeth gan amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau, a chlywed eu profiadau.
  • Roedd y Gweithgor Rhanddeiliaid yn cynnwys cynrychiolwyr o’r canlynol:
  • Cymdeithas Alzheimer’s
  • Age UK
  • Age Cymru
  • Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Cyfreithwyr ar gyfer Pobl Hŷn (SFE)
  • STEP
  • ADASS
  • ADSS Cymru
  • Mencap
  • Sefydliad Polisi Iechyd Meddwl ac Arian
  • UK Finance
  • Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol
  • Cymdeithas y Cymdeithasau Adeiladu
  • Y Sefydliad Cydraddoldeb Hiliol
  • Roedd y Farwnes Finlay a Chadeirydd y Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol hefyd yn bresennol
  • Roedd y cynigion canlyniadol yn canolbwyntio ar y newidiadau lefel uchel sydd angen eu gwneud i ddeddfwriaeth sylfaenol.
  • Er bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cyflwyno adnodd digidol yn 2013, rhaid cwblhau camau olaf y broses, gan gynnwys llofnodi, tystio, ardystio a chyflwyno’r atwrneiaeth arhosol, ar bapur.
  • Daw cyllid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gyfan gwbl o’r ffioedd a godir i gofrestru atwrneiaeth arhosol a gwasanaethau eraill mae’n eu darparu, felly mae’n bwysig sicrhau bod cyllid tymor hir y Swyddfa yn gynaliadwy ac yn gadarn, gan sicrhau ar yr un pryd bod ei gwasanaethau’n dal ar gael i bawb sydd eu hangen. Bydd cynyddu effeithlonrwydd drwy’r diwygiadau newydd hyn yn allweddol i hynny.
Cyhoeddwyd ar 19 May 2022