Datganiad i'r wasg

Neges Dydd Gŵyl Dewi 2016 Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Stephen Crabb: Mae 2016 eisioes yn dangos i fod yn flwyddyn brysur a chyffrous efo llawer o gyfleoedd i ddathlu ein treftadaeth gyfoethog.

St David's Day

Mae Dydd Gŵyl Dewi yn nodi cyfnod o ddathlu lliwgar ledled Cymru. Mae’n ddiwrnod y bydd plant yn gwisgo’r wisg genedlaethol, bydd pobl yn camu ar lwyfannau eisteddfodau ac yn cymryd rhan mewn gorymdeithiau ledled y wlad.

Heddiw, rydw i’n edrych ymlaen at ymuno â’r Prif Weinidog i groesawu pobl sy’n cynrychioli pob cangen o fywyd Cymru i rif 10 Stryd Downing er mwyn ddathlu ein diwrnod cenedlaethol a’r flwyddyn sydd i ddod yng Nghymru.

Mae 2016 yn argoeli i fod yn flwyddyn brysur a chyffrous arall lle bydd pobl Cymru yn dathlu ein treftadaeth gyfoethog.

Mae gan bob un ohonom ni sy’n byw yng Nghymru reswm da dros fod yn falch o’n gwlad hardd ac unigryw. Yn wir, rydyn ni’n ennill gwobrau ar raddfa fyd-eang. Mae ein mynyddoedd uchel, ein harfordir gwasgarog a’n cestyll cadarn wedi cipio dychymyg arbenigwyr teithio Rough Guides, sydd eleni wedi enwi Cymru yn un o’r 10 gwlad i ymweld â nhw yn y byd.

Mae llwyddo yn y byd chwaraeon yng Nghymru yn rhywbeth y mae ein gwlad yn falch iawn ohono. Eleni, bydd ein hathletwyr yn cael mwy o gyfleoedd i serennu ar lwyfan rhyngwladol. O bencampwriaeth y Chwe Gwlad, i Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio 2016 a Phencampwriaeth Ewro 2016 UEFA yn Ffrainc, bydd baner Cymru’n cael ei chwifio’n falch mewn stadia ledled y byd.

Mae hon yn flwyddyn arbennig i Gymru o ran diwylliant hefyd. Bydd Eisteddfod Genedlaethol Llangollen, sydd bellach yn 70 oed, a’r nifer o ddathliadau sydd wedi’u trefnu i nodi can mlynedd ers geni’r awdur plant o Gaerdydd, Roald Dahl, yn denu tyrfaoedd o bell ac agos i Gymru.

Mae buddiannau Cymru wrth galon Llywodraeth y DU. Rydw i’n falch o gynrychioli’r buddiannau hynny wrth fwrdd y Cabinet, ledled y DU ac yn rhyngwladol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi gweld mwy o fusnesau yn llwyddo ac yn ffynnu yng Nghymru - gan greu cyfleoedd cyflogaeth a chyfrannu at dwf economaidd mwy.

Caerdydd yw prifddinas ieuengaf Ewrop, ac mae’n lle bywiog sy’n creu dyfodol disglair iddi ei hun fel lle i fuddsoddi ynddo.

Mae’r ddinas eisoes wedi elwa o isadeiledd digidol yr unfed ganrif ar hugain fel Cyfnewidfa Rhyngrwyd Caerdydd - enghraifft wych o’r Llywodraeth, busnes a phartneriaid lleol yn cydweithio.

Rwy’n gobeithio y byddwn ni’n gallu bwrw ymlaen â Bargen Dinas Caerdydd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, busnesau a phartneriaid lleol ar raddfa a fydd o fudd i bobl yng Nghaerdydd a ledled rhanbarth y brifddinas.

Ein tasg ni yw rhoi dyfodol i Gymru a fydd mor ogoneddus â’i hanes cyfoethog a disglair.

Rwy’n dymuno’n dda i bawb sy’n dathlu Dydd Gŵyl Dewi yma yng Nghymru ac ym mhedwar ban byd.

Dymuniadau gorau o Gymru i’n ffrindiau ar draws y byd ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Y Gwir Anrhydeddus Stephen Crabb AS

Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Cyhoeddwyd ar 1 March 2016