Datganiad i'r wasg

Neges Dydd Gŵyl Dewi 2013 Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Dydd Gŵyl Dewi yw’r cyfle blynyddol i bob Cymro a Chymraes fynegi’r balchder sydd gennym yn niwylliant a threftadaeth ein gwlad, yn ogystal …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Dydd Gŵyl Dewi yw’r cyfle blynyddol i bob Cymro a Chymraes fynegi’r balchder sydd gennym yn niwylliant a threftadaeth ein gwlad, yn ogystal ag yn yr hen iaith. 

Fel Ysgrifennydd Gwladol, pleser mawr gennyf fi yw cyflwyno fy nghyfarchiad Dydd Gŵyl Dewi cyntaf, ac estyn fy nymuniadau cynhesaf at bawb sy’n dathlu ein diwrnod cenedlaethol gartref ac ym mhedwar ban byd. 

Mae datganoli yn golygu bod gan Gymru ddwy Lywodraeth - yn San Steffan ac yng Nghaerdydd. Er bod gwahaniaethau gwleidyddol amlwg rhwng ein dwy weinyddiaeth, rwy’n credu i Brif Weinidog Cymru a minnau gytuno mai’r ffordd o wasanaethu buddiannau pobl Cymru orau yw drwy weithio gyda’n gilydd mor agos a phosibl. Drwy’r cydweithrediad agos hwnnw’n unig y gall Cymru gyflawni ei photensial. 

Nid oes modd gwadu’r sialensiau economaidd a wynebwn o hyd yn sgil dirywiad byd-eang 2008, ond rwyf fi’n credu bod y cerrig adeiladu ar gyfer adferiad yn amlwg wedi’u gosod.  

Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi dwysau ffocws Swyddfa Cymru, er mwyn sicrhau bod twf economaidd wrth wraidd popeth a wnawn. Mae gwella seilwaith Cymru, sydd wedi dioddef o danfuddsoddi ers degawdau lawer, yn allweddol ar gyfer twf. Mae ein cyhoeddiad y llynedd ynglŷn a thrydaneiddio llinell reilffordd y Great Western i Abertawe yn arwydd clir o’n bwriad i wella seilwaith Cymru. Nawr, rydym ni wrthi’n gweithio ar yr achos busnes ar gyfer uwchraddio llinell arfordirol Gogledd Cymru ac rydym yn benderfynol o barhau i raddol gyflwyno band eang cyflym iawn ledled Cymru.  

Roeddwn i wrth fy modd gyda’r ymrwymiad ym mis Hydref gan Hitachi i fuddsoddi mewn cynhyrchiant niwclear o’r newydd yn Wylfa ar Ynys Mon. Dyma’r buddsoddiad cyfalaf pwysicaf yng Ngogledd Cymru ers degawdau ac mae’n cynnig cyfoeth o gyfleoedd drwy gyfrwng y gadwyn gyflenwi i fusnesau Cymru. At hynny, bydd y buddsoddiad yn dod a rhwng 5,000 a 6,000 o swyddi adeiladu i’r ardal, yn ogystal a hyd at 1,000 o gyfleoedd gwaith a chyflogau da pan fydd y safle’n weithredol. Wylfa yw’r union fath o ddatblygiad y mae arnom ei angen yng Nghymru, gan gynnig fel y gwna, y posibilrwydd o yrfaoedd diogel, o ansawdd i’n pobl ifanc. 

Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, mae fy swyddfa hefyd yn chwilio am ffyrdd o wella ein seilwaith ffyrdd. Er bod polisiau ffyrdd wedi’i ddatganoli yng Nghymru, rhaid i ni beidio ag anghofio bod yr M4 a’r A55 yn ffyrdd trawswladol pwysig ac yn hanfodol i economi genedlaethol y Deyrnas Unedig. Mae’r M4, yn benodol, wir angen ei gwella, ac rydym yn chwilio am ddulliau o helpu i ariannu hyn.    

Mae cynnal a chadw’r setliad datganoli yn rhan bwysig o waith Swyddfa Cymru o hyd. Ar ddiwedd 2012, cyhoeddodd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru adroddiad yn argymell datganoli pwerau ariannol penodol i Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth y DU wrthi’n ystyried yr argymhellion hyn gyda’r nod o ymateb yn ffurfiol yn ystod gwanwyn 2013.

Mae’r Comisiwn yn awr wedi troi ei olygon at y setliad datganoli ehangach, ac yn ystyried ar hyn o bryd a ddylid gwneud addasiadau pellach i’r ffin rhwng yr hyn sydd wedi’i ddatganoli a’r hyn sydd heb. Bydd y gwaith hwn yn parhau hyd at y gwanwyn, y flwyddyn nesaf. 

Yn sgil y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd a dathliadau’r Jiwbili Ddiemwnt y llynedd, cawsom gyfle unigryw i arddangos Cymru ar ei gorau i gynulleidfa fyd-eang. Yn 2013, byddwn yn parhau a’n hymdrechion i gyflwyno Cymru fel lle gwych i ymweld ag ef, i fyw ac i wneud busnes ynddo.

Mae gan bob un ohonom sy’n byw yng Nghymru, yn fy marn i, reswm da dros deimlo’n fach o’n mamwlad hardd unigryw. Mae iddi hanes cyfoethog a disglair a, gydag ychydig o waith caled gan bob un ohonom, mae iddi hefyd ddyfodol gwell, mwy ffyniannus. 

Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb.  

 

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrh David Jones AS

Cyhoeddwyd ar 1 March 2013