Datganiad i'r wasg

Bydd adolygiad gwariant ar gyfer y ‘DU Gyfan’ yn darparu swyddi a seilwaith i Gymru

Cyhoeddodd y Canghellor heddiw gyllid newydd i Gymru gan Lywodraeth y DU yn 2021/22 drwy’r fformwla Barnett

Rishi Sunak speaking in Parliament
  • Y Canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi £1.3bn o gyllid newydd i Gymru ar gyfer 2021/22. Mae hyn fwy na dwbl y £600m o gyllid newydd a ddarparwyd ar gyfer 2020/21 yng Nghylch Gwariant 2019.
  • Nododd Rishi Sunak sut y bydd Llywodraeth y DU yn darparu biliynau o bunnoedd i ymladd y coronafeirws, cyflawni blaenoriaethau’r bobl a sbarduno adferiad y DU.
  • Bydd Cymru hefyd yn elwa o fwy na £100bn o fuddsoddiad cyfalaf – gan greu swyddi a thyfu’r economi.

Heddiw, cyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak Adolygiad Gwariant ar gyfer y DU gyfan wrth iddo osod allan ei gynlluniau i helpu Cymru i frwydro’r coronafeirws ac adeiladu nôl yn well.

Cyhoeddodd Rishi Sunak y bydd Cymru yn derbyn £1.3bn o gyllid newydd gan Lywodraeth y DU yn 2021/22 drwy fformiwla Barnett ar gyfer meysydd datganoledig megis iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Mae hyn fwy na dwbl y £600m a ddarparwyd ar gyfer 2020/21 yng Nghylch Gwariant 2019.

Mae hyn ar ben y £5bn o gyllid ychwanegol sydd eisoes wedi’i sicrhau i Lywodraeth Cymru yn 2020/21, uwchlaw’r cyllid a ddyrannwyd yng Nghyllideb y Gwanwyn yn gynharach eleni yn sgil y coronafeirws a’i heffaith ar yr economi.

Bydd Cymru hefyd yn cael hwb sylweddol o fwy na £100bn o fuddsoddiad cyfalaf ledled y DU yn 2020/21 gan well cysylltedd a chynhyrchiant ar gyfer y DU gyfan.

Yn ôl Canghellor y Trysorlys Rishi Sunak:

Mae’r Adolygiad Gwariant heddiw yn tanlinellu ein hymrwymiad i bobl Cymru wrth i ni edrych i’r dyfodol.

Mae’n darparu biliynau o bunnoedd i ymladd y coronafeirws, darparu ar flaenoriaethau’r bobl a sbarduno adferiad y DU.

Mae’r Trysorlys wedi bod, a bydd bob amser yn Drysorlys i’r Deyrnas Unedig gyfan. Ac Adolygiad Gwariant ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan yw hwn.

Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae pecyn y Canghellor o fesurau yn darparu dros Gymru wrth i ni gynllunio yn ein hadferiad yn dilyn pandemig y coronafeirws.

Yn ogystal â chynnydd ychwanegol o £1.3bn mewn bloc grant i Lywodraeth Cymru, bydd Cymru gyfan yn elwa o raglen Ailgychwyn Newydd Llywodraeth y DU sydd werth £2.9bn i helpu’r sawl sy’n ddi-waith i ddod o hyd i waith, yn ogystal â dyblu anogwyr gwaith a’r cynlluniau cymorth parhaus ar gyfer swyddi drwy gydol y pandemig, sydd hyd yn hyn wedi cefnogi mwy na 500,000 o fywoliaethau yng Nghymru.

Mae hyn yn ychwanegu at y gwelliannau arfaethedig i gysylltedd symudol a band eang yn ogystal â buddsoddiad mewn diwydiannau gwyrdd fel dal carbon ac ynni gwynt ar y môr sy’n dod a manteision posibl enfawr i Gymru. Mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod eithriadol o heriol i bawb yn y DU, ond mae’r Canghellor heddiw wedi gosod pecyn economaidd gwych i Gymru.

Mae’r prosiectau a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys rhaglenni Gigabeit a Rhwydwaith Gwledig a Rennir ar gyfer gwell darpariaeth symudol

Mae’r rhaglen Gigabeit yn rhoi cymhorthdal i gyflwyno band eang gigabeit i 20% o rannau o’r wlad sy’n anodd eu cyrraedd tra bod rhaglen y Rhwydwaith Gwledig a Rennir yn bartneriaeth a diwydiant a fydd yn darparu gwasanaeth symudol 4G o ansawdd uchel i 95% o’r DU erbyn 2025.

Bydd buddsoddiad mewn diwydiannau gwyrdd yn cefnogi clystyrau twf gwyrdd, capasiti ynni gwynt ar y môr, seilwaith porthladdoedd, Dal a Storio Carbon a hydrogen carbon isel.

Ar wahân i hynny, bydd sefydliadau a chwmnïau yng Nghymru hefyd yn gallu cael mynediad at gronfa ymchwil a datblygu gwerth £14.6bn ledled y DU.

Cyhoeddodd y Canghellor heddiw hefyd y bydd Cronfa Canlyniadau Cymru a Rennir yn cynnal un o bum cynllun peilot ynghylch gorfodi a thrin cyffuriau a fydd yn mynd i’r afael â’r defnydd o gyffuriau drwy gydgysylltu asiantaethau gorfodi’r gyfraith leol, carchardai a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn well.

A bydd Caerdydd yn cynnal cynllun peilot ar wahân sy’n ceisio dod â darparwyr gwasanaethau at ei gilydd i weithio gyda throseddwyr a’u teuluoedd mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y gymuned i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â throseddu rhwng cenedlaethau.

Bydd Cymru’n elwa o gyfran o’r 6,000 o heddweision ychwanegol a gaiff eu cyflogi yn 2020-21 fel rhan o’r ymrwymiad i gyflogi 20,000 o swyddogion ychwanegol erbyn 2023, y mae’r SR hwn yn ymrwymo £400 miliwn i’w darparu.

Bydd darparu swyddogion ychwanegol i heddluoedd Cymru yn cael ei gadarnhau yn setliad ariannu’r heddlu ar gyfer 2021-22.

Hefyd, cyhoeddodd y Canghellor gynlluniau i greu a chefnogi cannoedd o filoedd o swyddi ledled y DU drwy raglen Ailgychwyn tair blynedd newydd gwerth £2.9 biliwn i helpu miliwn o bobl sy’n ddi-waith i ddod o hyd i waith, ochr yn ochr â £1.4 biliwn o gyllid newydd i gynyddu capasiti’r Ganolfan Byd Gwaith.

Cadarnhaodd y Llywodraeth hefyd gyllid ar gyfer cam nesaf y Cynllun Swyddi – gan gynnwys £1.6bn ar gyfer y cynllun Kickstart nodedig yn 2021/22, a fydd yn arwain at greu hyd at 250,000 o swyddi gyda chymhorthdal gan y llywodraeth i bobl ifanc.

Bydd y cymhelliant cyflogi prentisiaethau a lansiwyd ym mis Awst hefyd yn cael ei hymestyn i 31 Mawrth 2021, gan gynnig hyd at £2,000 i gyflogwyr ar gyfer pob prentis newydd y maent yn eu cyflogi. Bydd pecyn gwerth £375m hefyd i gefnogi sgiliau sy’n cynnwys £138m o gyllid newydd i ddarparu Gwarant Sgiliau Gydol Oes y Prif Weinidog a £127m i barhau â’r Cynllun ar gyfer Swyddi ar gyfer mesurau sgiliau.

Mae buddsoddiad o Gronfeydd Strwythurol yr UE yn cynyddu yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn 21-22 o’i gymharu â’r flwyddyn ariannol hon.

Mae’r Adolygiad Gwariant yn darparu cyllid ychwanegol yn y DU i helpu ardaloedd lleol i baratoi dros 2021-22 ar gyfer cyflwyno Cronfa Ffyniant a Rennir y DU.

Cyhoeddir manylion pellach yn y Flwyddyn Newydd.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyflawni ei hymrwymiad maniffesto i gynnal cyllid drwy ddarparu £240m i gefnogi ffermwyr, rheolwyr tir a’r economi wledig, a £2m i gefnogi pysgodfeydd yng Nghymru.

Mae’r Llywodraeth yn ymrwymo i hybu economïau lleol drwy o leiaf un porthladd am ddim yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gyda lleoliadau i’w penderfynu mewn ymgynghoriad â’r llywodraethau datganoledig.

Ac ar y ffrynt diwylliannol cyhoeddodd y Llywodraeth £29.1m ar gyfer Gŵyl y DU a bydd disgwyl prosiectau ledled Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn yr Adolygiad Gwariant hwn, bydd yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn elwa o gymorth yn sgil y coronafeirws ledled y DU ym maes iechyd, gan gynnwys £15bn ar gyfer Profi ac Olrhain gyda chyllid Barnett yn cael ei ddarparu ar gyfer elfennau o’r rhaglen i Loegr yn unig.

Cyhoeddwyd ar 25 November 2020