Datganiad i'r wasg

Busnesau bach yw “asgwrn cefn” economi Cymru

Gweinidogion Swyddfa Cymru yn cefnogi Sadwrn y Busnesau Bach

Small Business Saturday

O siopau blodau’r stryd fawr i siopau llyfrau lleol, Sadwrn y Busnesau Bach (5 Rhagfyr) yw’r amser i ddathlu a chefnogi ein mentrau lleol, dywedodd Gweinidogion Swyddfa Cymru heddiw.

Mae Sadwrn y Busnesau Bach yn ymgyrch genedlaethol i annog pobl i siopa’n lleol ac i gefnogi’r busnesau bach yn eu cymunedau.

Ar y diwrnod arbennig hwn y llynedd, fe aeth 16.5 miliwn o bobl allan i siopa, gan wario cyfanswm o £550 miliwn ar strydoedd mawr Prydain.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae llwyddiant ein heconomi wedi ei seilio ar waith caled y bobl sydd â’r weledigaeth entrepreneuraidd i ddechrau a rhedeg busnes bach llwyddiannus.

Nhw yw asgwrn cefn economi menter ffyniannus Cymru. Maent yn creu swyddi, yn sbarduno twf ac yn sicrhau bod ein strydoedd mawr yn goroesi ac yn llwyddo.

Wrth i ni baratoi ar gyfer trydydd Sadwrn y Busnesau Bach, mae ein cefnogaeth yn bwysicach nag erioed. Y penwythnos hwn, beth am i ni gefnogi busnesau bach Cymru drwy ddewis bach a dewis lleol.

Mae Alun Cairns, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, wedi dangos ei gefnogaeth i Sadwrn y Busnesau Bach ym Mro Morgannwg yn ystod ymweliadau â stryd fawr y Barri, Llanilltud, Dinas Powys a’r Bont-faen.

Dywedodd Alun Cairns:

Rydyn ni’n ymwybodol o bwysigrwydd busnesau bach o ran cryfhau ein heconomi a sicrhau dyfodol ffyniannus ac entrepreneuraidd i Brydain.

Maen nhw hefyd yn chwarae rôl allweddol ym mywyd cymunedol ar draws Cymru, gan helpu i wneud pob un o’n pentrefi a’n trefi yn arbennig. Rydw i’n falch o gefnogi Sadwrn y Busnesau Bach yng Nghymru. Hoffwn annog pawb i ymweld â’u stryd fawr leol a dangos eu cefnogaeth - nid heddiw yn unig ond drwy gydol y flwyddyn.

Roedd yr Arglwydd Bourne, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, yn awyddus i amlygu gwaith y miloedd o bobl sy’n gweithio mewn busnesau bach ac sy’n helpu diwydiant twristiaeth Cymru i ddatblygu.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne:

Yng Nghymru, mae twristiaeth yn ddiwydiant o fusnesau bach. O’n cynhyrchwyr bwyd lleol i’r siopau rhoddion sydd ar hyd a lled ein strydoedd mawr, mae ymwelwyr â Chymru yn manteisio ar ein diwylliant a’n treftadaeth, ac yn cefnogi ein busnesau bach drwy gydol y flwyddyn.

Mae Sadwrn y Busnesau Bach yn rhoi cyfle i ni ddwyn sylw at berlau’r stryd fawr, a chodi ymwybyddiaeth o’u pwysigrwydd i bob agwedd ar economi’r DU.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag ymgyrch Sadwrn y Busnesau Bach, ewch yma

Cyhoeddwyd ar 4 December 2015