Datganiad i'r wasg

Croesfannau Afon Hafren yn ddi-doll ar 17 Rhagfyr 2018

Hwb Nadolig cynnar i gymudwyr, siopwyr a busnesau ar y ddwy ochr i’r ffin

Bydd tollau ar Groesfannau Afon Hafren yn cael eu diddymu ar ddydd Llun, 17eg Rhagfyr 2018, yn union mewn pryd ar gyfer gwyliau’r Nadolig, cyhoeddodd Llywodraeth y DU heddiw (dydd Mawrth, 2ail Hydref).

Bydd y symudiad yn galluogi’r rhai hynny sy’n teithio rhwng De Cymru a De-orllewin Lloegr i arbed arian ar siwrneiau gartref a thripiau siopa ar draws y ffin drwy gydol y cyfnod gwyliau.

Yn gyffredinol, bydd cael gwared â’r tollau yn cynhyrchu arbedion blynyddol i fodurwyr rheolaidd o fwy na £1,000 y flwyddyn ac amcangyfrifir y bydd yn ychwanegu hwb i economi Cymru o £100m bob blwyddyn. Bydd busnesau hefyd yn cael budd o’r cysylltiadau cryfach rhwng dinasoedd o Abertawe i Swindon, na fydd mwyach yn cael eu llethu gan rwystr ariannol rhwng y cymunedau.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Bu’n uchelgais ers amser hir gen i weld y tollau yn cael eu dileu, a chael gwared â’r rhwystr sydd wedi llesteirio ffyniant economaidd Cymru am fwy na hanner canrif.

Mae heddiw yn nodi cam pwysig ymlaen ym mhotensial economaidd Cymru, gan gynyddu ein hapêl i fuddsoddwyr allanol, ond hefyd sicrhau nad yw busnesau, cymudwyr a thwristiaid ar ddwy ochr o’r ffin yn cael eu llesteirio gan ffi sy’n eu cyfyngu nhw o fwrw ymlaen â’u bywydau bob dydd.

Bydd cael gwared â’r tollau yn cadarnhau’r cysylltiadau cryf sydd eisoes yn bodoli rhwng economïau a chymunedau De Cymru a De-orllewin Lloegr, gan greu coridor twf ar gyfer ffyniant i flodeuo o Gaerdydd, drwy Gasnewydd i Fryste a thu hwnt.

Dywedodd Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth:

Bydd dileu tollau o’r pontydd Hafren yn helpu i drawsnewid yr economi yn ne Cymru a De-orllewin Lloegr, yn rhoi dros £1,000 y flwyddyn ôl ym mhocedi teuluoedd sy’n gweithio’n galed.

Wrth ddiddymu tollau hyn byddwn hefyd yn lleihau costau i fusnesau ar ddwy ochr yr afon, yn rhoi hwb enfawr iddynt i helpu i greu cyfleoedd newydd a photensial newydd ar gyfer twf.

Mae’r penderfyniad yn dod ar ôl y newid ym mis Ionawr i leihau tollau ar y ddwy bont sy’n pontio’r Afon Hafren, yn golygu fod cymudwyr, gyrwyr a busnesau ar ddwy ochr yr afon wedi dechrau gwneud arbedion yn gynharach eleni.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 2 October 2018