Stori newyddion

Cwtogi tollau pont hafren o hyd at 75 y cant

Mae Llywodraeth y DU yn cynnig toriadau i dollau Pont Hafren.

Severn crossing.

Mae Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, wedi cyhoeddi y bydd gyrwyr a busnesau yn elwa o ostyngiadau arfaethedig i dollau Pont Hafren ar ôl i’r bont ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus. Roedd ar ymweliad â Chymru gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns.

Byddai cynigion y Llywodraeth yn haneru’r prisiau a godir ar yr holl gerbydau, gan wneud gwahaniaeth sylweddol i gymudwyr, teithwyr, a busnesau bach yn benodol, a byddai rhai gyrwyr yn arbed dros 75 y cant.

Bydd y gostyngiadau i’r tollau yn cael eu cyflwyno wrth i’r bont ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus. Bydd gyrwyr a busnesau yn arbed arian, a bydd hyn yn helpu i roi hwb i’r economi. Mae disgwyl i’r tollau newydd gael eu cyflwyno yn 2018.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn gobeithio cael gwared â’r barrau a chael tollau agored ar Bont Hafren a fydd yn helpu i leihau tagfeydd yn ogystal â chwtogi amser teithio.

Dywedodd Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Gwladol:

Mae’r Llywodraeth yn benderfynol o wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer dyfodol Prydain. Bydd gostwng y tollau ar Bont Hafren yn lleihau’r costau ar gyfer busnesau gan helpu i greu mwy o swyddi a masnach yng Nghymru a ledled de-orllewin Lloegr.

Bydd prisiau newydd y tollau a gyhoeddwyd heddiw yn sicrhau dyfodol a diogelwch y bont am genedlaethau, yn ogystal â rhoi hwb i’r economi gan gynnig y gwerth gorau am arian i yrwyr a threthdalwyr.

Pan fydd y bont wedi dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus, byddant yn cael eu rheoli gan Highways England.

Y cynnig:

  • Bydd ceir yn talu £3.00 yn hytrach na £6.70 – gan arbed dros 50 y cant
  • Bydd bysiau bach a faniau yn talu £3.00 yn hytrach na £13.40 – arbediad gwerth 75 y cant
  • Bydd lorïau a bysiau mawr yn talu £10 yn hytrach na £20 - gan arbed 50 y cant

Bydd deiliaid y bathodyn glas a gyrwyr beiciau modur yn parhau i gael eu heithrio o’r tollau. Bydd yr arian a godir yn talu am weithredu, cynnal a chadw’r bont, yn ogystal â thalu am welliannau yn y dyfodol.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:

Mae hwn yn newyddion ardderchog i bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru ac yn defnyddio Pont Hafren, yn enwedig gyrwyr faniau a fydd yn talu 75% yn llai o arian.

Bydd yr arbedion hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r rheini sy’n defnyddio’r bont yn rheolaidd a bydd yn hwb enfawr i gwmnïau sy’n chwilio am gwsmeriaid newydd - nawr gallant fod yn llawer mwy cystadleuol.

Mae Pont Hafren yn borth hanfodol i mewn i Gymru ac mae gostwng y tollau’n dangos unwaith eto bod Cymru yn dal yn agored ar gyfer busnes.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi nodi cynlluniau i gynnig yr un gostyngiadau i ddefnyddwyr TAG electroneg, sef y rheini sy’n defnyddio’r bont yn rheolaidd. Mae’r cynigion yn nodi y bydd tollau TAG hefyd yn gostwng:

  • Bydd ceir yn arbed £65.12 y mis
  • Bydd bysiau bach a faniau yn arbed £183 y mis
  • Bydd loriau a bysiau mawr yn arbed £198 y mis

Bydd cael gwared â’r barrau a chyflwyno tollau agored ar Bont Hafren hefyd yn caniatáu codi tâl ar ddwy ochr y bont, a allai olygu y bydd pris croesi un ffordd yn cael ei haneru.

Roads media enquiries

Media enquiries 0300 7777 878

Switchboard 0300 330 3000

Cyhoeddwyd ar 13 January 2017